Canlyniadau chwilio

1 - 12 of 152 for "Arfon"

1 - 12 of 152 for "Arfon"

  • BEUNO (bu farw 642?), nawdd-sant a goffeir yn bur gyffredinol yng Ngogledd Cymru ddaliai Glynnog o dan yr enw 'clas Beuno' i warantu, gyda chlas Bangor, freiniau cyfreithiol cantref Arfon. Yn ôl traddodiad rhoddwyd y tir gan Wyddeint, cefnder Cadwallon brenin Gwynedd - tua 630, felly. Ceir yng nghofnodion hanes yr Eglwys restr faith o roddwyr eraill mewn amseroedd diweddarach; fe'i gwnaethant yn un o'r sefydliadau mwyaf cyfoethog yng ngogledd-orllewin Cymru. Coffeid enwogrwydd y
  • teulu BULKELEY , dinesydd o Gonwy a grafangiodd beth wmbredd o dir ar ochr chwith yr afon a ddaeth yn sylfaen sicr i nerth y Bwcleaid yn y rhan yma o Arllechwedd. Aed ymlaen yn brysur i brynu tyddynnod ym Môn ac Arfon; tyfodd y teulu mewn grym a dylanwad hyd nes i un ohonynt gael ei urddo'n farchog (o gylch 1534), a phenodwyd brawd i hwnnw'n esgob Bangor. Y mwyaf o'r marchogion cynnar, yn ddi-ddadl, oedd y 3ydd - ef oedd
  • CHARLES, JOHN ALWYN (1924 - 1977), gweinidog (A.) ac athro coleg a'i gymryd i Ysbyty Môn ac Arfon ym Mangor. Yno y bu farw ar Ebrill 1. Cynhaliwyd ei angladd ddydd Mawrth, 5 Ebrill, gydag oedfa gyhoeddus yng Nghapel Pen-dref, Bangor, a gwasanaeth preifat yn amlosgfa'r ddinas.
  • CNEPPYN GWERTHRYNION (fl. 13eg ganrif), pencerdd a gramadegydd fel y mae debycaf, er na cheir, hyd y gwyddom, ddim o'i waith yn aros. Gwelir y cyfeiriad cynharaf ato gan Wilym Ddu o Arfon (bardd a ganai yn 1322) yn ei awdl farwnad i Drahaearn Brydydd (M.A. 277b 12/13), lle'r enwir y Cneppyn ymhlith nifer o brifeirdd y 13eg ganrif, gan honni mai i olyniaeth y 'blaid penceirddiaid' hyn yr oedd Trahaearn yn perthyn. Gellir casglu o hyn ei hanfod (sef Cneppyn) o
  • COTTON, JAMES HENRY (1780 - 1862), deon eglwys gadeiriol Bangor ac addysgydd eglwysi yn esgobaeth Bangor (1838), ac ysbyty Môn ac Arfon (1814). O'r cychwyn fe'i cyfrifid yn apostol y mudiad addysg; yn 1810 agorodd ysgol Sul yn yr eglwys gadeiriol a'r ysgolion cenedlaethol yn Pentir a Vaynol (y ddau hyn ar y pryd ym mhlwyf Bangor), ac, yn ddiweddarach, ym Mangor ei hunan ac yn Llanllechid a'r Gaerwen. Bu'n ddiwyd yn agor ysgolion, yn dysgu mewn ysgolion, yn arolygu gwaith yr
  • CROWTHER, JOHN NEWTON (Glanceri; 1847 - 1928), athro ysgol bywyd a phobl yr ardal honno. Bu yn Rhydlewis am 23 mlynedd. Yn 1890 symudodd i Fethesda, Arfon, i fod yn brifathro ysgol y Cefnfaes. Wedi ymneilltuo o waith ysgol, symudodd i Gaerdydd, ac oddi yno i Solfach, Sir Benfro, lle y bu farw 14 Chwefror 1928; claddwyd ef ym mynwent Hawen ar lannau Ceri. Ymddiddorai mewn llenyddiaeth a cherddoriaeth, ac yn ychwanegol at ei waith fel bardd ysgrifennodd ddarnau
  • DAVIES, DAVID THOMAS FFRANGCON (1855 - 1918), datganwr Ganwyd ym Mount Pleasant, Bethesda, Arfon, 11 Rhagfyr 1855, mab i Dafydd a Gwen Davies. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Genedlaethol Pontur, Bethesda, yn Ysgol y Friars, Bangor, ac yng Ngholeg Iesu, Rhydychen (graddiodd yn 1881). Yn Chwefror 1883 urddwyd ef yn ddiacon yn eglwys Llantysilio; aeth yn gurad i Lanaelhaiarn yn 1884, a Chonwy yn 1885. Cafodd wersi ar ganu'r organ gan y Dr. Roland Rogers
  • DAVIES, OWEN HUMPHREY (Eos Llechid; 1828 - 1898), chwarelwr, cerddor, ac offeiriad Ganwyd Medi 1828 yng Nghaerffynnon, Llanllechid, Arfon, mab i David Humphreys a Sarah Davies. Dechreuodd astudio llyfrau cerddorol yn ieuanc, a dysgodd ddarllen cerddoriaeth, a meistroli digon o gynghanedd i gyfansoddi anthem yn 17 oed. Yn 1845 aeth i weithio i chwarel y Penrhyn, a bu yno am 17 mlynedd. Yn 1848 apwyntiwyd ef yn arweinydd côr eglwys Llanllechid. Yn 1859 fe'i penodwyd yn arweinydd
  • DEINIOL (bu farw 584), sant, sylfaenydd Bangor ac esgob cyntaf Gwynedd (Llanbabo), Arfon (Bangor), a dyffryn Clwyd (Llanelwy) - hyn oedd y rheswm i Gynfarch ac Urien Rheged ymsefydlu yno rhwng 550 a 574. Teyrnasiad Maelgwn Gwynedd oedd oes euraidd crefydd Gwynedd-uwch-Conwy - oes Cadfan, Seiriol, Cybi, ac eraill: dengys achau'r saint mai yn yr oes nesaf, ar ôl y Fad Felen (547), y datblygodd crefydd Gwynedd-is-Conwy : felly, Bangor yn Arfon ydoedd sefydliad cyntaf Deiniol
  • DEWI ARFON - gweler JONES, DAVID HUGH
  • EINION ap GWALCHMAI (fl. 1203-23), bardd felys ac yn afaelgar, ac y mae'n amlwg ei fod yn ei ddydd yn fardd poblogaidd, a dywed Gwilym Ddu o Arfon amdano (The Myvyrian Archaiology of Wales, 277B): 'A ganai, ffynnai fel berw ffynnawn.' Prawf arall o'i boblogrwydd yw iddo dyfu'n gymeriad llên gwerin. Ceir chwedl amdano yn neidio 50 troedfedd yn Abernodwydd yng ngwydd ei gariad pan oedd yn wr ifanc, amdano'n mynd i bererindota, ac yn aros oddi
  • ELLIS, ROBERT (Cynddelw; 1812 - 1875), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, pregethwr, bardd, hynafiaethydd, ac esboniwr . Efe hefyd a gynullodd Blodau Arfon ('Dewi Wyn'), a golygu Geiriadur y Bardd. Ymhyfrydai mewn geiriaduriaeth a chynhyrchodd Geiriadur Cymreig Cymraeg, 1868. Cyhoeddwyd Barddoniaeth Cynddelw dan olygiaeth 'Ioan Arfon' gan H. Humphreys, Caernarfon, yn 1877. Yr oedd iddo ddiddordeb mewn pob math o hynafiaethau - cyhoeddodd Manion Hynafiaethol, 1873, a chyfrannodd ddeunaw pennod i Hanes y Brytaniaid a'r