Canlyniadau chwilio

121 - 132 of 152 for "Arfon"

121 - 132 of 152 for "Arfon"

  • ROWLANDS, GRIFFITH (1761 - 1828), llawfeddyg fawd chwith Thomas Charles o'r Bala yn 1799. Yr oedd y bawd wedi rhewi wrth i Thomas Charles deithio ar noson rewllyd dros fynyddoedd y Migneint rhwng siroedd Arfon a Meirion. Gyda chymorth Rowlands hefyd y tynnwyd carreg yn pwyso dwy owns a chwarter o bledren Thomas Jones o Ddinbych yn 1802. Er mai yn Lloegr y treuliodd ran helaethaf ei oes, ni chollodd ymwybyddiaeth o'r Gymraeg a bu'n ŵr amlwg yng
  • SEIRIOL (c. 500 - c. 550), abad cyntaf a sylfaenydd eglwys Penmon mab Owain Danwyn ab Einion Yrth ap Cunedda Wledig, ac felly'n gyfyrder i'r brenin Maelgwn Gwynedd ac o gydoedran ag ef. Yn ôl traddodiadau Môn, yr oedd yn gyfaill agos i Gybi Sant. Seiriol ydoedd prif sant ardal Dindaethwy ym Môn, a hefyd Penmaenmawr yn Arfon; 1 Chwefror ydoedd ei ddydd gŵyl yn ôl y calendrau cynharaf.
  • SHANKLAND, THOMAS (1858 - 1927), llyfryddwr a hanesydd bwyllgor eu coleg ym Mangor ac o gymanfa Arfon; anfonodd gryn 60 o ysgrifau i Seren Cymru, rhai yn hirion, i gyd yn sylweddol; bu'n golygu Seren Gomer yn 1905-6, ef oedd golygydd Trafodion y Gymdeithas Hanes o'i chychwyn hyd ddydd ei barlysdod, a chyfrannodd iddynt wybodaethau pwysig a diddorol, yn enwedig yr ymchwil ar John Miles ac ar gychwyniad llenyddiaeth gyfnodol yng Nghymru; ef, hefyd, a olygodd
  • SIÔN BRWYNOG (bu farw 1567?), bardd Mab i William ap Llywelyn ap Iorwerth. Ym Mrwynog, plwyf Llanfflewyn, sir Fôn, yr oedd ei gartref, ac oddi wrth enw'r fferm y cafodd ei gyfenw. Perthynai i ddosbarth y mân ysweiniaid. Byddai'n clera rhan helaeth o'r wlad, a chanodd i uchelwyr Môn, Arfon, Dinbych, Fflint, a Meirion. Bu ymryson fer rhyngddo a Gruffudd Hiraethog ynghylch rhagoriaethau Môn a Thegaingl. Canodd i Harri VIII a Mari
  • teulu STRADLING dan 26 oed. Ei wraig ef oedd Sioned ferch Thomas Mathau, Radyr, a gwraig Syr Rhys ap Tomas wedi hynny. Yn y cyfnod hwn daw'r teulu'n amlycach yn y bywyd Cymreig, ac ennill ei le ymhlith noddwyr beirdd Morgannwg. Trwy briodas un o ferched y Stradling hwn â Syr Wiliam Gruffudd y Penrhyn yn Arfon cymerodd y teulu gam ychwanegol i ganol y bywyd Cymreig. Plentyn ieuanc oedd yr etifedd. Urddwyd ef yn
  • SYPYN CYFEILIOG (fl. 1340-90), bardd ei bod i'w chael yn ' Llyfr Coch Hergest,' o dan un o'r amrywiol enwau a ddodir ar y bardd hwn, sef Dafydd Bach ap Madog Wladaidd. Dywedir yn y llawysgrifau hefyd mai'r un bardd yw Cnepyn Gwerthrynion a Bach Buddugre. Ond y mae'n sicr i fardd gryn ysbaid o'i flaen ddwyn yr enw Cnepyn Gwerthrynion, oblegid fe sonnir amdano gan Wilym Ddu o Arfon. Awgryma Ifor Williams mai 'cymysgu tri bardd bach a
  • teulu THOMAS Coed Alun, Aber, Yn Sir Gaerfyrddin yr oedd gwreiddiau'r teulu, a threiglid eu disgyniad o Lywelyn Foethus. Yn nechrau'r 16eg ganrif pennaeth y teulu ydoedd Syr WILLIAM THOMAS, Llangathen. Dechreuwyd y cysylltiad ag Arfon pan briododd RHYS, mab Syr William, â Sian, merch Syr John Puleston, Caernarfon. Rhys Thomas oedd siryf Sir Gaernarfon yn 1573-4, a siryf Môn 10 mlynedd cyn hynny. Dygwyd ei fab WILLIAM THOMAS
  • THOMAS, DAVID (Dafydd Ddu Eryri; 1759 - 1822), llenor a bardd March, a daeth 'Hywel Eryri,' William Bifan, 'Sion Caeronwy,' Siân Parri, ac eraill yno, a dyna gychwyn cyfarfodydd y beirdd yn Arfon lle câi 'Dafydd' gyfle i ddysgu rheolau barddoniaeth i'w 'gywion,' fel y gelwir hwynt. Ar 14 Gorffennaf 1787 rhoes heibio waith gwehydd a dechrau cadw ysgol yn Llanddeiniolen. Aethai yno i ddechrau i weled 'Twm o'r Nant' a'i gyfeillion yn chwarae anterliwd, ac anogwyd
  • THOMAS, EBENEZER (Eben Fardd; 1802 - 1863), ysgolfeistr a bardd ysgol i'r capel yn 1845. Yn 1849 cafodd gynnig bod yn feistr Ysgol Genedlaethol newydd yng Nghlynnog ar yr amod ei fod yn cymuno yn yr Eglwys, ond gwrthododd. Cymerwyd diddordeb yn ysgol 'Eben' gan y Methodistiaid Calfinaidd, ac yn 1850 rhoes cyfarfod misol Arfon £15 y flwyddyn iddo, a chodwyd y swm i £30 yn ddiweddarach. Yr oedd i ddysgu plant aelodau Methodistaidd yn rhad, a hefyd i ddysgu ymgeiswyr
  • THOMAS, JOHN (1821 - 1892), gweinidog gyda'r Annibynwyr, gwleidyddwr, a hanesydd Ganwyd 3 Chwefror 1821 yng Nghaergybi, brawd hyn iddo oedd y Dr. Owen Thomas. Hanoedd ei dad o Landdeiniolen, Arfon, a'i fam o Fôn. Oherwydd prinder gwaith i'w dad fel lliniwr symudodd y teulu i Fangor yn 1827. Ar ôl ysbeidiau dan addysg gwahanol bersonau aeth i ysgol un Hugh Williams. Yn 1831 collodd ei dad a gorfu iddo fyned i weithio, ac aeth i siop groser. Wedi naw mis yno aeth yn brentis o
  • THOMAS, OWEN (1812 - 1891), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur Jerusalem (Bethesda, Arfon) bu'n cadw ysgol ym Mangor (1862-6) ond yn 1866 fe'i penodwyd yn ysgrifennydd Cymdeithas Genhadol y Methodistiaid Calfinaidd, a daliodd y swydd hyd 1900. Yn 1896, bu'n llywydd cymdeithasfa'r Gogledd. Bu farw 21 Mai 1905.
  • THOMAS, RICHARD (1871 - 1950), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur Ganwyd 8 Medi 1871 yn Llangefni, Môn. O adran coleg y Bala aeth i goleg y Brifysgol, Bangor, a graddio yn 1901. Wedi cwrs yng ngholeg diwinyddol y Bala, ordeiniwyd ef yn 1904, ac aeth yn weinidog ar eglwysi'r Bont-newydd a Phen-y-graig yn Arfon, lle'r arhosodd am agos 30 mlynedd. Bu'n ysgrifennydd Bwrdd Rheolwyr Cartref Bont-newydd i blant amddifaid o 1904 hyd 1945, ac yn un o'i lywodraethwyr hyd