Canlyniadau chwilio

1465 - 1476 of 1867 for "Mai"

1465 - 1476 of 1867 for "Mai"

  • ROBERTS, MICHAEL HILARY ADAIR (1927 - 1983), gwleidydd Ceidwadol Ganwyd ef yn Aberystwyth ym mis Mai 1927, yn fab i'r Parch T. A. Roberts, ficer Anglicanaidd a ddaeth yn Rheithor Castell-nedd yn ddiweddarach. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Castell-nedd a Choleg Prifysgol Deheudir Cymru, Caerdydd. Enillodd ei fywoliaeth yn swyddog addysg yn yr Awyrlu Brenhinol ac yna yn athro ysgol. Roberts oedd prifathro cyntaf Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf, Caerdydd, 1963-70
  • ROBERTS, MORRIS (1799 - 1878), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd i ddechrau, ac yna gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd yn Llechweddystrad, Llanuwchllyn, ym Mai 1799. Bu am ysbaid yn un o ysgolion y Dr. Daniel Williams a gedwid yn yr 'Hen Gapel,' ond athro anghymwys iawn oedd yno ar y pryd; eithr cafodd ddisgyblaeth Feiblaidd wych gan y Dr. George Lewis. Gan mor wasgedig amgylchiadau ei deulu, gorfu iddo'n 10 oed ddechrau ennill ei fara a bu mewn amryw ffermydd, gan mwyaf yng nghymdogaeth y Bala, nes
  • ROBERTS, OWEN MADOC (1867 - 1948), gweinidog (EF) Cymanfa'r Eglwys Wesleaidd, ac yn yr un flwyddyn etholwyd ef yn aelod o gyngor dinas Bangor ac yn henadur am y naw mlynedd olaf o'i gysylltiad â'r cyngor hwnnw. Ef oedd maer y ddinas, 1935-37. Yn uwchrif, parhaodd i fyw ym Mangor, yn fawr ei barch. Priododd Margaret Jane Williams (bu farw 29 Mai 1939) o Gaernarfon, a bu iddynt ddwy ferch a mab. Bu farw 25 Hydref 1948, yn 81 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym
  • ROBERTS, PETER (1760 - 1819), clerigwr, ysgolhaig Beiblaidd a hynafiaethydd ). Addysgwyd Peter Roberts yn gyntaf yn ysgol ramadeg Wrecsam, ac yna (o tua 1775) yn ysgol ramadeg Llanelwy. Wedi hyn bu'n athro preifat ar y disgyblion Gwyddelig yn yr ysgol honno, ac arweiniodd hynny i'w gofrestri (fel sisar) yng Ngholeg y Drindod, Dulyn, lle y graddiodd yn M.A. Parhaodd i astudio Hebraeg a seryddiaeth, ac yr oedd ganddo beth achos i obeithio mai ef a gai ddilyn Henry Ussher fel athro
  • ROBERTS, RICHARD (Y Telynor Dall; 1769 - 1855) Gan fod John Parry ('Bardd Alaw'), yn cyfeirio ato yn 1808 fel telynor da iawn a fuasai'n casglu gwaith y beirdd ers blynyddoedd dylid derbyn 1769, y dyddiad a rydd R. Griffith yn Cerdd Dannau fel blwyddyn ei eni. Dywed 'Meurig Idris' iddo gael ei eni yn Ardudwy, Meirionnydd, ond dywed John Parry ('Bardd Alaw') mai yng Nghefn Mein, Llŷn, y ganwyd ef. Collodd ei olwg yn 8 oed mewn canlyniad i
  • ROBERTS, RICHARD (GWYLFA; 1871 - 1935), gweinidog gyda'r Annibynwyr, a bardd Ganwyd 24 Mai (yn ôl y cofnod, ganddo ef ei hun mae'n debyg, yn Who's Who in Wales; dywed rhai ysgrifau coffa mai 22 Mai) 1871 ym Mhenmaenmawr, yn fab i Richard ac Ellen Roberts. Bu yn ysgol Botwnnog ac yng Ngholeg Bala-Bangor (1892). Aeth yn fugail i'r Felinheli yn 1895; o 1898 hyd ei farwolaeth, bu'n fugail y Tabernacl yn Llanelli. Yr oedd yn bregethwr poblogaidd, ac yn llenor prysur
  • ROBERTS, RICHARD (1874 - 1945), gweinidog, diwinydd a llenor Ganwyd 31 Mai 1874, mab David a Margaret Roberts (gynt Jones). Yr oedd ei dad yn weinidog ar eglwys y Methodistiaid Calfinaidd, Rhiw, Blaenau Ffestiniog. Addysgwyd ef yn Liverpool Institute High School, coleg y Brifysgol, Aberystwyth, a choleg diwinyddol y Bala. Bu'n weinidog gyda'r Symudiad Ymosodol yng nghylch Caerdydd, 1896-98. Yna, bu'n gynorthwywr ac ysgrifennydd i'r Prifathro T. C. Edwards
  • ROBERTS, RICHARD (1823 - 1909), gweinidog Wesleaidd Ganwyd 30 Mai 1823 ym Machynlleth. Yn fachgen lled ieuanc symudodd i fyw gyda modryb iddo ym Manceinion lle cafodd addysg mewn ysgol yn Oldham Street. Rhwng 1837 a 1843 bu yng ngwasanaeth cwmni o fasnachwyr yn y ddinas. Derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn Eglwys Wesleaidd Gymraeg Hardman Street, a dechreuodd bregethu yn 1839. Ar ôl tair blynedd yng ngholeg Didsbury, Manceinion, aeth i'r
  • ROBERTS, RICHARD ARTHUR (1851 - 1943), archifydd a golygydd Ganwyd 13 Mai 1851 yng Nghaerfyrddin yn fab i J. N. Roberts a Margaret (née Jones), ei wraig. Addysgwyd ef mewn ysgolion preifat, ac yn 1872 penodwyd ef yn glerc ar staff yr Archifdy Gwladol yn Llundain. Yn 1879 gwnaed ef yn fargyfreithiwr o'r Inner Temple. Dyrchafwyd ef i fod yn geidwad cynorthwyol yn yr Archifdy Gwladol yn 1903, ac o 1912 hyd nes iddo ymddeol yn 1916 ef oedd y prif geidwad
  • ROBERTS, ROBERT (1800 - 1878), ysgolfeistr a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ordeinio yn sasiwn Llanilltyd Fawr, pryd y cynhyrfwyd llawer i edrych arno fel athro cymwys i Goleg Trefeca, a'i anerchiadau yn sasiwn Llangeitho yn 1859, ond y farn gyffredin oedd mai mewn angladdau yn ardaloedd Llangeitho, Llanddewi-brefi, a Thregaron y ceid ef ar ei orau. Ef oedd llywydd cymdeithasfa'r de yn 1873-4. Priododd Catherine, merch Peter Davies, y Glyn, yn 1846, wedi marw'i thad, ac
  • ROBERTS, ROBERT (1774 - 1849), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac emynydd Ganwyd yn Llanelwy, a dygwyd i fyny'n 'whitesmith,' ond cafodd addysg gyffredinol bur dda. Dywedir mai anystyriol fu ei fuchedd nes iddo glywed Robert Prys o Blas-winter (1738 - 1809) yn pregethu; yna (ar waethaf ei dad) ymunodd â'r Methodistiaid. Dechreuodd bregethu tua 1805. Yr oedd yn briod, ond collodd ei wraig, ac yn 1813 ailbriododd â gweddw o'r enw Clarke, yn byw ar fferm Tan-y-clawdd
  • ROBERTS, ROBERT (1840 - 1871), cerddor Ganwyd 24 Mai 1840 yn Tanysgafell, Bethesda, Sir Gaernarfon. Yn 12 oed bu farw ei dad, a bu raid iddo fynd i weithio i'r chwarel. ' Eos Llechid ' a ddysgodd iddo elfennau cerddoriaeth a chaniadaeth, a chymerodd Henry Samuel Hayden, athro coleg hyfforddi Caernarfon, ddiddordeb ynddo oherwydd ei ddoniau arbennig, ac aeth am gwrs o addysg i'r coleg yn 14 oed. Oherwydd ei lwyddiant gyda'i efrydiau