Canlyniadau chwilio

1477 - 1488 of 1867 for "Mai"

1477 - 1488 of 1867 for "Mai"

  • ROBERTS, ROBERT (1762 - 1802), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Evan Richardson ym Mrynengan ond odid, ac wedi iddo briodi cafodd fynd i breswylio i le o'r enw Ynys Galed. Pan ddaeth ton o ddiwygiad crefyddol yn ardal Brynengan teimlodd ysgogiad i bregethu, a bu am gyfnod yn cadw ysgol mewn mannau yn Eifionydd. Gwelodd yn y man mai gormod gorchwyl iddo oedd cyfarfod â gwaith y ddwy swydd, a derbyniodd wahoddiad i wasnaethu'r achos yng Nghapel Uchaf, Clynnog, a
  • ROBERTS, ROBERT ALUN (1894 - 1969), Athro Llysieueg amaeth Coleg y Brifysgol Bangor, a naturiaethwr ymchwil Sefydliad Nuffield ar Dir Comin yng Nghymru a Lloegr a Phwyllgor Adnoddau Dwr i Gymru. Bu'n Uchel Siryf Sir Gaernarfon yn ystod y cyfnod 1955-56. Am ei waith i amaethyddiaeth fe dderbyniodd y C.B.E. yn 1962. Yr oedd i'w anrhydeddu â gradd D.Litt. yng Ngorffennaf 1969, ond bu farw yn ysbyty Môn ac Arfon, 19 Mai 1969. Gwasgarwyd ei lwch dros fynydd y Cymffyrch, dafliad carreg o'i hen gartref. Yr
  • ROBERTS, ROBERT DAVID (1820 - 1893), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Soar, Llwynhendy, yn 1862, ac fel ' Roberts Llwynhendy ' yr aeth yn enwog. Bu yno am chwarter canrif cyn ymddeol yn 1887. Bu farw 15 Mai 1893. Etholwyd ef yn llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru y flwyddyn y bu farw. Ef yw awdur cofiant H. W. Jones, Caerfyrddin, ac ysgrifennodd ei atgofion i Greal 1889-92. Eithr fel un o bregethwyr huotlaf y genedl y cofir amdano. Yr oedd ei enw yn enw teuluaidd trwy'r wlad
  • ROBERTS, ROBERT GRIFFITH (1866 - 1930), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac awdur derfynol, ym Mehefin 1907 i eglwys Caernarfon. Yr oedd yn un o brif bregethwyr ei enwad, heb fod yn ddiwygiwr nac yn rhethregol ei ddull. Pregethai gydag argyhoeddiad ac yn rhesymegol, yn unol â theithi ei feddwl athronyddol. Credir mai yn ystod ei weinidogaeth yng Nghefn-mawr y cyrhaeddodd ei uchafbwynt fel pregethwr. Rhaid fod yr anhwylder difrifol yn ei wddf a ddioddefodd yn 1910-11, ac a'i gorfododd
  • ROBERTS, SAMUEL (S.R.; 1800 - 1885), gweinidog gyda'r Annibynwyr, golygydd, diwygiwr Radicalaidd Ganwyd 6 Mawrth 1800, mab hynaf John a Mary Roberts (gynt Breese), Llanbrynmair, lle'r oedd ei dad yn weinidog Annibynnol. Derbyniodd ei addysg fore yn yr ysgol leol a gedwid gan ei dad, ac yna yn Amwythig, 1810-12. Hawlir mai ef oedd un o'r rhai cyntaf yng Nghymru i ddysgu llaw-fer. Yn 1819 aeth fel ymgeisydd am y weinidogaeth i'r academi a gedwid yn Llanfyllin, ond a symudwyd yn fuan i'r
  • ROBERTS, THOMAS (1765/6 - 1841) Llwyn-'rhudol,, pamffledwr Mab William Roberts, Llwyn'rhudol, ym mhlwyf Abererch, Sir Gaernarfon, twrnai, a Jane ei wraig. Bedyddiwyd ef, yn breifat, ar 16 Awst 1767, eithr, gan y dywedir ei fod yn 76 oed pan fu farw ar 24 Mai 1841, ymddengys iddo gael ei eni yn 1765 neu yn 1766. Claddwyd ei dad ar 16 Ionawr 1778. Dywed Thomas Roberts iddo fynd i Lundain cyn bod yn 14 oed (h.y. o fewn blwyddyn ar ôl marw ei dad). Y mae'n
  • ROBERTS, THOMAS (Scorpion; 1816 - 1887), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd yn Ninbych, bedyddiwyd 25 Awst 1816, mab Harri Roberts, gŵr o hunan-ddiwylliant nodedig a dreuliodd gryn 20 mlynedd yn y fyddin. Prin fu manteision addysg 'Scorpion' ar y dechrau; bu mewn ysgol a gedwid gan 'Caledfryn' (William Williams) yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, ond casglwn mai ei dad fu ei brif hyfforddwr gan iddo golli ei fam ac yntau'n ddim ond 12 oed. Bu am ysbaid yn
  • ROBERTS, WILLIAM (Gwilym Eryri; 1844 - 1895?), bardd a golygydd Ganwyd 22 Mawrth 1844 ym Mhorthmadog yn fab i David a Catherine Roberts. Dywedir mai gwneuthurwr hwyliau oedd wrth alwedigaeth. Enillodd gryn nifer o wobrwyon am farddoniaeth mewn eisteddfodau lleol ac yn yr eisteddfod genedlaethol. Ef oedd bardd y gadair yn eisteddfod genedlaethol Caernarfon yn 1877. Yn 1879 golygodd Lloffion y Flwyddyn, cyfrol o farddoniaeth a ymddangosasai yng ngholofn farddol
  • ROBERTS, WILLIAM (1585 - 1665), esgob Bangor mewn materion eglwysig, cafodd ei ethol yn esgob yn 1637, a chaniatâwyd iddo ddal gyda'r esgobaeth fywiolaethau Llandyrnog a Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, sir Ddinbych, a bod hefyd yn archddiacon Bangor ac yn archddiacon Môn. Am iddo, yng nghonfocasiwn Mai 1640, gytuno â'r canonau 'non-resistance' a'r 'clerical benevolence,' dygwyd cyngaws o 'impeachment' yn Nhŷ'r Cyffredin yn ei erbyn ef, ynghyd ag
  • ROBERTS, WILLIAM JOHN (1904 - 1967), gweinidog (Methodist Wesleaidd) ac eciwmenydd oedd yn brif ysgogydd sefydlu brawdoliaeth Clerigwyr a Gweinidogion Caer er mwyn hyrwyddo undod rhwng yr eglwysi lleol. Er mai siop siarad oedd y cyfarfod cyntaf, teimlai fod dod ag Anglicaniaid a gweinidogion yr eglwysi rhyddion at ei gilydd am y tro cyntaf yn gryn orchest. Yn ystod ei gyfnod yng Nghaer yr oedd W. J. yn amlwg ym mywyd cyhoeddus y ddinas ac yn cynrychioli'r eglwysi rhyddion ar
  • ROBERTS, WILLIAM MORGAN (1853 - 1923), cerddor Bwrdd Amaethyddiaeth. Bu farw 26 Mai 1923, a chladdwyd ef ym mynwent tref Wrecsam.
  • ROBESON, PAUL LEROY (1898 - 1976), actor, canwr ac actifydd gwleidyddol arweiniodd at ymosodiad milain pan dorrwyd ei drwyn. Er mai dim ond y trydydd Americanwr Affricanaidd i fynychu Goleg Rutgers ydoedd, cafodd Robeson yrfa ddisglair gan wneud ei farc mewn gweithgareddau amrywiol, yn bennaf dadlau ac areithio, canu, a mabolgampau, gan ofalu ar hyd yr amser am ei dad a fu farw tua diwedd ei gyfnod astudio. Nid oedd y grymoedd hiliaeth ddiwylliannol a sefydliadol gyfreithiol a