Canlyniadau chwilio

1525 - 1536 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1525 - 1536 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • JAMES, DAVID EMRYS (Dewi Emrys; 1881 - 1952), gweinidog (A), llenor a bardd barhau i lenydda ac adrodd ar lwyfannau fel y gwnaethai er yn ieuanc. Gwnaed ef yn is-olygydd ac yn olygydd colofn Gymraeg y Journal cyn ei fod yn 20 oed, a chafodd ei ryddhau i fynd yn fyfyriwr rhan amser yn ysgol yr Hen Goleg o dan Joseph Harry. Yn y cyfnod hwn y dechreuodd bregethu. Derbyniwyd ef i'r Coleg Presbyteraidd yn 1903. Bu am ychydig yn Eglwys Rydd y Cymry yn Lerpwl a sefydlwyd gan William
  • JAMES, EDWARD (1839 - 1904), gweinidog Annibynnol Ganwyd yn Llanfachraeth, Môn, 12 Mehefin 1839, yn blentyn hynaf John a Margaret James, a brawd O. Waldo James. Ymaelododd ym Modedern yn 1853, a chodwyd ef i bregethu yn y Tabernacl, Caergybi, yn 1858, dan weinidogaeth William Griffith. Yn 1859, ar gais ei gyfaill William Ambrose ('Emrys'), Porthmadog, aeth i'r Gorseddau, ger Penmorfa, Sir Gaernarfon, i bregethu a chadw ysgol i'r gweithwyr llechi
  • JAMES, EDWARD (1569? - 1610?), clerigwr a llenor Ganwyd yn sir Forgannwg. Ymaelododd yn Rhydychen o S. Edmund Hall, 11 Mawrth 1585/6, yn 16 oed; B.A. o Goleg Iesu, 16 Mehefin 1589; M.A., 8 Gorffennaf 1592. Gwnaed ef yn ficer Caerlleon-ar-Wysg, Chwefror 1595-6, yn rheithor Shire-Newton, 8 Awst 1597, yn rheithor Llangatwg-ger-Wysg, 15 Ebrill 1598, yn ficer Llangatwg-feibion-Afel, 12 Gorffennaf 1599, yn ficer Llangatwg ger Castellnedd, 23
  • JAMES, EVAN (Ieuan ap Iago, Iago ap Ieuan; 1809 - 1878), cyfansoddwyr 'Hen Wlad fy Nhadau' Gwehydd a marsiandwr gwlan a gwlanen ydoedd Evan James. Yr oedd yn cadw'r Ancient Druid Inn yn Argoed, plwyf Bedwellty, sir Fynwy, pan anwyd ei fab James. Symudodd y teulu yn gynnar wedi hynny i Bontypridd, lle yr oedd gan y tad ffatri wlan yn Mill Street. Yr oedd Evan James yn dipyn o fardd; ceir engreifftiau o'i waith yn Gardd Aberdar, 1854, Cymru (O.M.E.), 1915, etc. Yn ôl Taliesin James, wyr
  • JAMES, FRANK TREHARNE (1861 - 1942), cyfreithiwr, beirniad celfyddydol penddelw efydd ohono gan Syr William Goscombe John yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru.
  • JAMES, IVOR (1840? - 1909), cofrestrydd cyntaf Prifysgol Cymru, a hanesydd Ganwyd Ivor James, neu IVOR BARNOLD ROBERT JAMES, fel y gelwai ei hun, 21 Medi 1840, yn 'Britannia', ym mhentref Rock, ym mhlwy Bedwellte, Sir Fynwy, yn fab i Robert James a Mary (Arnold) ei wraig. Ar ochr ei fam, felly, yr oedd iddo gysylltiad â theulu Arnold Llanddewi Nant Hodni a Chwrt Llanfihangel. Symudodd y teulu i Lansamlet lle y bu'r tad yn ysgolfeistr. Bu Ivor James yn newyddiadurwr yn
  • JAMES, JAMES (1760 - 1831), gweinidog Methodistaidd ac Annibynnol Ganwyd 24 Tachwedd 1760 o rieni cefnog ym Mhen-blaen, Aberedw, sir Faesyfed. Ymunodd â'r Methodistiaid yn ieuanc yn erbyn ewyllys ei rieni, a dechreuodd bregethu yn 1782. Addysgwyd ef yn Nhrefeca, a gwnaeth ei drigias yno am saith mlynedd ar ôl ei ordeinio. Yr oedd yn un o'r rhai a neilltuwyd yn ordeiniad cyntaf y Methodistiaid yn Llandeilo Fawr, 1811. Yr oedd yn bregethwr nerthol yn y ddwy iaith
  • JAMES, JAMES (Iago ap Iago; 1818 - 1843), prydydd Ganwyd yn Defynnog, sir Frycheiniog, 14 Mawrth 1818, mab James James, masnachwr. Addysgwyd ef yn ysgol y pentref, ac yn breifat. Er yn wannaidd ei iechyd ymroddodd i astudio ac ystyrrid ef yn ieithydd da. Bu farw 30 Gorffennaf 1843 yn 25 oed. Yn y mesurau rhydd yr ysgrifennodd ei farddoniaeth, ac ymddangosodd darnau o'i waith, ynghyd ag erthyglau, yn yr Eurgrawn a chylchgronau eraill
  • JAMES, JAMES (Iago Emlyn; 1800 - 1879), gweinidog gyda'r Annibynwyr a bardd cyfrol o'i farddoniaeth yn 1848 dan y teitl, Cyfansoddiadau Buddugol a Cherddi Ereill, cyfrol arall yn 1863, Gweithiau Barddonol Iago Emlyn, a thraethawd, The Philosophical Construction of Celtic Nomenclature … yn 1869.
  • JAMES, JENKIN (1875 - 1949), ysgrifennydd cyntaf Cyngor Prifysgol Cymru ac awdur Ganwyd 28 Rhagfyr 1875, ym mhlwyf Llannarth, Sir Aberteifi. Bu'n efrydydd yng ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac enillodd radd B.A. Prifysgol Llundain yn 1895, ac M.A. yr un brifysgol yn 1900. Bu'n athro yn ysgol ramadeg Biwmares, 1897-99, ac yn ysgol ganolradd Y Barri, 1900-04. Yn 1904 penodwyd ef yn glerc pwyllgor addysg Sir Aberteifi, ac yn 1908 yn gyfarwyddwr addysg yr un sir. Bu yn y
  • JAMES, JOHN (1872 - 1934), cyfarwyddwr addysg Morgannwg Prifysgol Llundain yno, ymaelododd yng Ngholeg Balliol, Rhydychen, lle'r enillodd drachefn radd dosbarth cyntaf mewn mathemateg. Cymerodd radd ymchwil B.Sc., o'r un Brifysgol ac wedi treulio cyfnod fel myfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Erlangen yn yr Almaen dyfarnwyd iddo radd Ph.D. ym maes trydaneg. Bu'n gyfarwyddwr addysg Morgannwg o 1903 i 1929. Gwnaeth lawer i hybu dysgu Cymraeg yn ysgolion Sir Forgannwg.
  • JAMES, JOHN (1779 - 1864), y gweinidog Undodaidd cyntaf yn sir Aberteifi, ac ysgolfeistr Ganwyd dydd Mercher y Lludw 1779 yng Nglynderi ar dir Rhydybenne, Llangeler, Sir Gaerfyrddin. Ar restr tanysgrifwyr Telyn Dewi ceir ei enw fel disgybl Davis Castellhywel. Yn 1802 ceisiodd am dderbyniad i Goleg Caerfyrddin, ond fe'i gwrthodwyd (yn ei dyb ef) am ei fod yn Undodwr. Yr un flwyddyn fe'i derbyniwyd i academi Exeter dan Kenrick a Bretland. Ni bu yma ond 18 mis gan feddwl mynd i Goleg