Canlyniadau chwilio

1537 - 1548 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1537 - 1548 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • JAMES, JOHN (1777 - 1848), gweinidog y Bedyddwyr, emynydd, rhwymwr llyfrau, ac argraffydd anghyffredin yn y dref a'r ardaloedd o gwmpas, symudodd, ym Mawrth 1817, i Bont-rhyd-yr-ynn, sir Fynwy, ac oddi yno, ym Mai 1827, i Benybont, Morgannwg, lle y bu farw 30 Ionawr 1848. Ar 30 Medi 1804 priododd Catherine Davies, un o'r aelodau ym Methel, a ganed iddynt dri o blant. Dysgodd hefyd y grefft o rwymo llyfrau, ac ym Mai 1808, wedi cwrs o bedwar mis yng Nghaerfyrddin, agorodd siop lyfrau. Ym Mai 1809
  • JAMES, JOHN LLOYD (Clwydwenfro; 1835 - 1919), gweinidog gyda'r Annibynwyr a hanesydd Ganwyd ym mhlwyf Llangan, Sir Benfro, a maged ef (wedi iddo golli ei rieni) gan ei daid yn Llanglydwen, Sir Benfro. Bu yn ysgol Glandwr dan ' Shôn Gymro ' a'r Parch. W. Davies, Rhydyceisiaid. Derbyniwyd ef yn aelod yn Hebron, Penfro, ym Mehefin 1848, a dechreuodd bregethu yno 14 Awst 1853. Bu yng Ngholeg Caerfyrddin, 1855-9. Ordeiniwyd ef, 18 Rhagfyr 1859, yn Llansantffraid-ar-Lai, Sir Forgannwg
  • JAMES, JOSHUA (1665 - 1728), un o weinidogion cynharaf y Bedyddwyr Derbyniwyd ef i'r eglwys yn 1689. Yn 1689 gelwir ef yn ' weinidog ' (cynorthwyol i William Prichard), ac wedi marw Prichard, tua 1708, arno ef yr oedd llawn ofal yr eglwys. Yr oedd yn ŵr o ddylanwad yng nghylchoedd Bedyddiedig Llundain a Bryste. Bu farw Awst 1728, yn 63 oed, a chladdwyd yn Llanwenarth.
  • JAMES, PHILIP (1664 - 1748), gweinidog cynnar gyda'r Bedyddwyr weinidogion ei fam eglwys yn Abertawe; ond nid yw Joshua Thomas (A History of the Baptist Association in Wales, 29-30) yn rhoi unrhyw le inni i gasglu hynny. O 1704 hyd 1718 bu'n weinidog yn Warwick, ac o hynny ymlaen yn Hemel Hempstead, lle y bu farw yn 1748, yn 84 oed. Priodolir iddo'r radd o M.D., ond ni ddywed Joshua Thomas (A History of the Baptist Association in Wales, 30) fwy na ' bod ganddo gymaint
  • JAMES, ROBERT (Jeduthyn; 1825 - 1879), cerddor , ac aeth a'i deulu yng nghyfraith gydag ef, gan ymsefydlu yn Dannville, Pennsylvania. Symudodd oddi yno i Ashland i swydd ' Clerk of the Courts of Lucerne County ' yn 1876, a thrachefn i Wilkes-barré, lle y bu farw 6 Hydref 1879.
  • JAMES, THOMAS (1834 - 1915), athro ysgol, a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd yn y Ferwig gerllaw Aberteifi, yn fab i of a oedd yn Eglwyswr, ond Methodist oedd ei fam. Tua'r 20 oed, â'i fryd ar y weinidogaeth, aeth i ysgol ym Mlaenannerch, ac oddi yno (1858) i Drefeca. Yn 1862, enillodd un o ysgoloriaethau'r Dr. Daniel Williams, ac aeth i Brifysgol Glasgow, lle y graddiodd yn 1866; bu wedyn am rai misoedd yn Edinburgh. Dychwelodd yn 1867 i Gymru; ordeiniwyd ef yn
  • JAMES, THOMAS (bu farw 1751), cynghorwr bore gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ar lannau Gwy; gwelir rhai o'i adroddiadau arnynt yn Meth. Cymru, i, 165; iii, 315, 331. Cyfeiria Howel Harris ato'n fynych yn ei ddyddlyfrau, ac y mae yng nghasgliad Trefeca (Ll.G.C.) 10 o lythyrau oddi wrth Thomas James at Harris, heblaw un at Ann Williams (Harris) ac un at George Whitefield, a 17 o lythyrau gan Harris at Thomas James, heblaw un gan Ann Williams ato; ymestyn yr ohebiaeth o fis
  • JAMES, THOMAS (1827 - 1899), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 18 Gorffennaf 1827, yn Llansawel, Sir Gaerfyrddin, mab Thomas a Sarah James. Symudodd gyda'i dad i Ddowlais yn 1842, ymaelododd yn Hermon, a dechreuodd bregethu yno. Addysgwyd ef yn ysgol Ffrwd-fâl, Trefeca, a Phrifysgol Glasgow - lle y graddiodd yn M.A. Ordeiniwyd ef yn sasiwn Castellnewydd Emlyn, 1861, ac ymsefydlodd yn Llanelli, lle bu'n cadw ysgol ramadeg am dymor. Bugeiliodd yr eglwys
  • JAMES, THOMAS (Llallawg; 1817 - 1879), clerigwr, hynafiaethydd, ac eisteddfodwr Ganwyd ym Manordeifi, Sir Benfro, 21 Awst 1817. Urddwyd ef yn ddiacon yn 1840 ac yn offeiriad yn 1841; yn siroedd Amwythig (Much Wenlock) a Derby yr oedd ei guradiaethau cyntaf. Ar berswâd Lewis Jones, Almondbury, aeth i swydd Efrog yn 1846 a bu'n ficer All Saints, Netherthong, am 33 mlynedd. Bu'n ŵr sengl hyd 1870 pryd y priododd Jane, merch William Hammett, Appledore Court, Dyfnaint; bu hi farw
  • JAMES, THOMAS DAVIES (Iago Erfyl; 1862 - 1927), offeiriad, pregethwr a darlithydd poblogaidd iawn; 1892. Bu'n gurad Llanfair Caereinion o Ragfyr 1891 hyd Hydref 1896; yn gurad Llaneurgain, Sir y Fflint, 1896-7; ac yn gaplan eglwys Gymraeg S. Martin, Caer, o 1897 hyd 1901 pan benodwyd ef gan yr Arglwydd Ganghellor yn offeiriad plwy Llanerfyl, Sir Drefaldwyn (un o fywiolaethau'r Goron), ac yno y treuliodd weddill ei oes. Ef a ddewiswyd i ddilyn Penfro (William Morgan) fel deon gwlad Caereinion, 1918
  • JAMES, THOMAS EVAN (Thomas ab Ieuan; 1824 - 1870), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac awdur Ganwyd 17 Mawrth 1824, ym Mhencraig, plwyf Llangoedmor, sir Aberteifi, mab Evan a Mary James. Symudodd y teulu i Aberteifi pan oedd ef tua 13 oed. Bu am beth amser yn was fferm Heolcwm, plwyf Ferwig, Sir Aberteifi. Ymunodd â'r Bedyddwyr, a bu'n gwasanaethu yn anordeiniedig yn eglwys Groesgoch, Sir Benfro (1851-2). Urddwyd ef, a gwnaed ef yn weinidog Pontestyll, ger Aberhonddu (1853-6). Bu hefyd
  • JAMES, WILLIAM (1769 - 1847), Methodist ac aelod o 'Deulu Trefeca' Bu farw 13 Mehefin 1847, yn 78 oed, ac a nodir yma am mai ef oedd yr olaf a fu fyw o hen Deulu Trefeca. Gall mai mab oedd i'r William James a ddaeth (gyda'i wraig a'i ddwy ferch) o Forgannwg i Drefeca yn 1776.