Canlyniadau chwilio

1561 - 1572 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1561 - 1572 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • JEFFREYS, JUSTINA (1787 - 1869), boneddiges Anthelia, ac Edward Scott ar gyfer ei thad Sir Henry Melincourt yn nofel Thomas Love Peacock o'r un enw (1817). Dyma ddisgrifiad Peacock o addysg Anthelia: In this romantic seclusion Anthelia was born. Her mother died giving birth. Her father, Sir Henry Melincourt, a man of great acquirements, and of a retired disposition, devoted himself in solitude to the cultivation of his daughter's understanding
  • JEFFREYS-JONES, THOMAS IEUAN (1909 - 1967), ysgolhaig, darlithydd, a phennaeth Coleg Harlech (1938). Yn 1935 fe'i hapwyntiwyd yn diwtor yng Ngholeg Harlech i ddarlithio ar hanes, gwleidyddiaeth ac economeg. Pan gaeodd y coleg oherwydd y Rhyfel yn 1940 bu am flwyddyn yn athro hanes yn Ysgol Lewis, Pengam, ac yna apwyntiwyd ef ar staff Adran Efrydiau Allanol, Aberystwyth, i gymryd gofal o ddosbarthiadau yn Sir Gaerfyrddin. Yn 1948 gwahoddwyd ef yn ôl i Goleg Harlech a oedd wedi ailagor yn 1946
  • JEHU, DAVID (1812 - 1840), cenhadwr yn Sierra Leone o dan nawdd Cymdeithas Genhadol y Wesleaid Mab Timothy Jehu, tafarn y King's Head, Meifod, Sir Drefaldwyn. Ymserchodd mewn crefydd pan oedd yn 16 oed a dechreuodd bregethu o dan ddylanwad gweindogaeth y Parchn. D. Jones a J. Williams, Llanidloes; yr oedd yn brentis gyda J. Williams. Fe'i cynigiodd ei hun i wasanaethu yn y maes cenhadol, cafodd ei addysg yn y Wesleyan Theological Institution, Hoxton, Llundain, ac, yn 1839, cafodd ei
  • JEHU, THOMAS JOHN (1871 - 1943), daearegwr Ganwyd ym Mrynafon, Llanfair-Caereinion, Sir Drefaldwyn, 19 Chwefror 1871. Cafodd ei addysg yn ysgol uwchradd Croesoswallt ac ym mhrifysgolion Caeredin (M.B., C.M., 1893, B.Sc., 1894) a Chaergrawnt (1897-9), a thrachefn yng Nghaeredin (M.D., 1902). Ei waith ymchwil pwysig cyntaf oedd mesur dyfnder llynnoedd Eryri a'r ardaloedd cylchynol; cyhoeddwyd y gwaith hwn gan Gymdeithas Frenhinol Caeredin
  • JENKIN, THOMAS JAMES (1885 - 1965), bridiwr planhigion ac Athro Botaneg Amaethyddol ganrif. Ar ôl ymddeol yn 1950 aeth ati i gyhoeddi llawer o ffrwyth ei ymchwiliadau lluosog mewn geneteg porfeydd. Cyhoeddodd amryw erthyglau yn y maes hwn yn y Journal of Genetics ac mewn cylchgronau gwyddonol eraill, ynghyd â'r gwaith a gyhoeddwyd ganddo ym mwletinau'r Fridfa. Cafwyd ganddo erthyglau gwerthfawr yn Gymraeg yn Gwyddor Gwlad, ac yng nghylchgrawn cymdeithas amaethyddol y coleg yn
  • JENKINS, DANIEL (1856 - 1946) Llan-y-crwys, ysgolfeistr a charwr llên a cherddoriaeth Cymru un ohonynt, Cerddi Cerngoch, 1904. Cyhoeddodd hefyd Cerddi Llanycrwys, 1934 - casgliad o gerddi a ysgrifennwyd o flwyddyn i flwyddyn gan feirdd enwog, gogyfer â dathlu Dydd Gwyl Dewi yn ysgol Llan-y-crwys yn arbennig. Priododd, 1886, Elizabeth, merch William ac Ann Williams, Llanfair Clydogau. Bu farw ym Mhentrefelin, y ffermdy lle y ganwyd ef, 18 Tachwedd 1946.
  • JENKINS, DAVID (1848 - 1915), cerddor Ganwyd 30 Rhagfyr 1848 yn Trecastell, sir Frycheiniog. Gan iddo golli ei dad pan nad oedd ond bachgen ieuanc ni chafodd fawr o fanteision ym more ei oes. Prentisiwyd ef yn deiliwr, eithr dangosodd yn bur fuan mai ar gerddoriaeth yn unig yr oedd ei fryd. Yr oedd yn un o'r rhai cyntaf i deimlo brwdfrydedd dros gyfundrefn y tonic-solffa, ac er na chafodd addysg ffurfiol mewn cerddoriaeth dangosodd
  • JENKINS, DAVID (1912 - 2002), llyfrgellydd ac ysgolhaig . Dechreuodd ymchwilio i hanes bywyd a gwaith Huw Morys (Eos Ceiriog, 1624-1709) yn Efrydydd Ymchwil Syr John Williams (1937-39) a chyhoeddodd erthygl werthfawr yn Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd (cyfrol 8, 1935-37, 140-5) ar enwau personau a lleoedd yng nghywyddau Dafydd ap Gwilym. Ei athro, T. Gwynn Jones, a awgrymodd y pwnc hwn iddo, fel un a adweinai dirwedd ac enwau lleoedd y cylch, a chafwyd ganddo
  • JENKINS, Judge DAVID (1582 - 1663), barnwr Yr aelod mwyaf adnabyddus o deulu a oedd wedi ymsefydlu yn Hensol ym mhlwyf Pendeulwyn (Pendoylan), Sir Forgannwg - teulu a hawliai fod ei dras yn nodedig ac y bu iddo aelodau o beth pwysigrwydd. Jenkin oedd enw ei dad a Richard ei daid, ac y mae'n debyg mai'r barnwr oedd y cyntaf o'r teulu i fabwysiadu'r cyfenw. Fe'i ganwyd yn 1582; bu farw ar 6 Rhagfyr 1663, ac fe'i claddwyd yn y Bont-faen, lle
  • JENKINS, DAVID ARWYN (1911 - 2012), bargyfreithiwr a hanesydd Cyfraith Hywel Dda Ganwyd Dafydd Jenkins yn Llundain ar Wyl Ddewi, 1 Mawrth 1911, yn fab i William Jenkins, clerc banc a anwyd yn Bermondsey ond a ymfalchïai yn ei wreiddiau teuluol yn Sir Aberteifi ac a fu'n ysgrifennydd Capel Cymraeg Jewin yn Llundain, a'i wraig Elizabeth a anwyd yn Aberystwyth. Ei enw bedydd oedd David, ond dewisodd arddel yr enw Dafydd. Ganwyd ei chwaer hyn, Edith Nancy Jenkins ('Nansi') yn
  • JENKINS, DAVID CYRIL (1885 - 1978), cerddor y cyfansoddwr cerddoriaeth ysgafn Hubert Bath (1883-1945) fel cyfarwyddwr cerddoriaeth i Gyngor Sir Llundain, ac fel rhan o'r swydd honno trefnodd gyngherddau band yn rhai o barciau'r ddinas. Cymerodd y swydd hon hefyd fel modd i ariannu ei waith fel cyfansoddwr, a chafodd gryn lwyddiant. Byddai ei gyfansoddiadau'n cael eu cyhoeddi gan amlaf, yn enwedig y rhan-ganeuon, a chaent dderbyniad da gan
  • JENKINS, DAVID LLOYD (1896 - 1966), llenor, prifardd, ac ysgolfeistr Ganwyd 20 Tachwedd 1896 yn y Foelallt, Llanddewibrefi, Ceredigion, yn fab i William a Betha (ganwyd Lloyd) Jenkins. Yr oedd y tad yn swyddog presenoldeb plant ysgol. Cafodd y mab ei addysg yn ysgol gynradd y pentre cyn mynd ym mis Medi 1909 i ysgol sir Tregaron. Oddi yno, aeth yn 1915 i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, a graddio yn 1918 gydag anrhydedd dosbarth II mewn Cymraeg ac athroniaeth