Canlyniadau chwilio

1573 - 1584 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1573 - 1584 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • JENKINS, EVAN (1794 - 1849), offeiriad ac ysgolfeistr a oedd y Brenin Leopold yn mynychu ei eglwys o 1831, ond mae Evan yn rhoi'r argraff yn ei lythyrau at ei gyfaill o ddaearegwr William Branwhite Clarke ei fod yn ddidaro ac yn gynnes gyfeillgar. Efallai fod Charlotte Brontë yn meddwl am Evan yn Villette pan ddywed y cymeriad Lucy Snowe: 'of every door which shut in an object worth seeing, of every museum, of every hall, sacred to art or science, he
  • JENKINS, EVAN (1799 - 1877), clerigwr Ganwyd 12 Ionawr 1799 yn y Waun Fawr ger Aberystwyth, yn fab i David ac Anne Jenkins. Mewn llythyr (11 Medi 1822) at esgob Llandaf, dywed ei fod y pryd hynny bron ar derfyn tair blynedd yn yr ' Usk Divinity School.' Cafodd urddau yn 1822 a 1823, a thrwyddedwyd ef yn gurad Trostre (sir Fynwy), ac yn 1823 yn gurad Monkswood hefyd. Yn 1827, rhoes ardalydd Bute iddo reithoraeth Dowlais. Ceir ef yn
  • JENKINS, EVAN (1781 - 1863), emynydd Ganwyd yn rhan uchaf plwyf Llansamlet, Sir Forgannwg. Gwehydd oedd ef, a bu'n gweithio am beth amser yng Nghastell Nedd a Llantrisant, ond dychwelodd i Lansamlet lle daeth yn aelod ac yn flaenor yng Nghapel-y-Cwm (M.C.). Aeth ei ddau fab (o ddwy briodas) i Abertawe fel gwehyddion, ac ymaelodi yn eglwys Trinity (M.C.) yno. Ymunodd eu tad â hwy, ond cerddai allan yn gyson i'r oedfaon yng Nghapel-y
  • JENKINS, HENRY HORATIO (1903 - 1985), fiolinydd ac arweinydd cerddorfa Ganwyd Rae Jenkins yn 13 Hall St, Rhydaman, Sir Gaerfyrddin, ar 19 Ebrill 1903, yn fab i Henry Jenkins, labrwr mewn pwll glo, a'i wraig Ann; roedd y rhieni hefyd yn ofalwyr Capel Bedyddwyr Ebenezer, Rhydaman. Yn ôl cyfrifiad 1911 roedd un mab arall, Rees, a anwyd tua 1900. Soniwyd hefyd am ferch, May, yn ymddangosiad Rae Jenkins ar Desert Island Discs. Fe'i hadwaenid fel 'Rae' ar hyd ei fywyd
  • JENKINS, HERBERT (1721 - 1772), cynghorwr bore gyda'r Methodistiaid, a gweinidog Annibynnol wedyn Ganwyd ym Mynydd-islwyn. Yn ôl Bradney (Hist. of Mon., I, ii, 442), yr oedd yn fab i Herbert Jenkins ac yn ŵyr i'r William Jenkins o blwyf Aberystruth a oedd yn gurad Trefethin (Pontypŵl) o 1726 hyd 1736 ac yn cadw ysgol yno. Efallai i rieni'r ŵyr droi'n Ymneilltuwyr; y mae traddodiad eu bod yn ddeiliaid i Edmund Jones, a chan Ymneilltuwr (Bernard Fosket) ym Mryste yr addysgwyd y bachgen. Atynwyd
  • JENKINS, ISAAC (1812 - 1877), gweinidog Wesleaidd Ganwyd 25 Chwefror 1812, yng Nghwm Rheidol, Sir Aberteifi, mab Edward Jenkins, Ystumtuen. Addysgwyd ef mewn ysgolion lleol; bu'n ysgolfeistr mewn amryw fannau yng Ngheredigion a Maldwyn; ac wedi ei dderbyn i'r weinidogaeth cafodd addysg bellach yn Sefydliad Diwinyddol Hoxton (1834-6). Gweinidogaethodd ar gylchdeithiau Abertawy (1836), Caerdydd (1838), Llanidloes (1839), Aberhonddu (1842), Merthyr
  • JENKINS, JABEZ EDMUND (Creidiol; 1840 - 1903), clerigwr a bardd Ganwyd yng Ngelligroes, ym mhlwyf Mynyddislwyn, sir Fynwy, 24 Rhagfyr 1840, a bedyddiwyd ef 16 Gorffennaf 1858, gan weinidog capel yr Annibynwyr ym Mynyddislwyn. Ordeiniwyd ef yn ddiacon 25 Chwefror 1872, cafodd guradiaeth Llanedi, Sir Gaerfyrddin; ar 24 Chwefror 1877 ordeiniwyd ef yn offeiriad gyda theitl i Lanfihangel Cwmdu, sir Frycheiniog. Trwyddedwyd ef i guradiaeth y Faenor ym Mrycheiniog
  • JENKINS, JENKIN (bu farw 1780), athro academi Caerfyrddin . Fund Board ei gyfraniad olaf iddo fel gweinidog Llanfyllin ar 2 Mehefin 1760 (Y Cofiadur, 1958, 19). Gweithredai hefyd fel athro ysgol y Dr. Daniel Williams yno, a bu Abraham Rees yn ei ysgol (Jeremy, The Presbyterian Fund, 88). Dilewyrch fu ei weinidogaeth yn Llanfyllin. Ym mis Tachwedd 1759 aeth i Gaerfyrddin, i gynorthwyo Samuel Thomas yn yr academi ac yn yr ysgol ramadeg a oedd ynglyn â hi
  • JENKINS, JOHN (1656? - 1733) Rhydwilym, gweinidog y Bedyddwyr . Yr oedd ei frawd Dafydd yn henuriad yn Rhydwilym, a thybir mai brawd arall oedd yr Evan a restrwyd fel hwythau dan Gilymaenllwyd yn llyfr yr eglwys yn 1689; ceir cyfeiriad hefyd at ei ferch Jennett Richards, a llawer o sôn am ei fab Evan Jenkins a'i ŵyr y Dr. Joseph Jenkins, a fu ill dau yn weinidogion Hen Gapel Wrecsam. Bu cyfrol wreiddiol o'i bregethau ym meddiant William Herbert, gweindog
  • JENKINS, JOHN (1821 - 1896) Llanidloes, golygydd a chyfieithydd Relating to Religious Liberty, 1880; The Laws Concerning Religious Worship, 1885. Ymddangosodd ei draethawd, ' The Feudal System ' yn ail argraffiad Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards, Translated into English, with Notes gan Ieuan Brydydd Hir (Llanidloes, O. Mills 1862). Yn 1873 cyhoeddodd ei gyfieithiadau o farddoniaeth Cymru, The Poetry of Wales (Llanidloes, J. Pryse). Bu farw 22
  • JENKINS, JOHN (Ifor Ceri; 1770 - 1829), clerigwr a hynafiaethydd Ganwyd 8 Ebrill 1770 mewn fferm o'r, enw Cil-bronnau, plwyf Llangoedmor, Sir Aberteifi. Cafodd addysg mewn ysgol gerllaw; yna aeth i academi Caerfyrddin, ac oddi yno i Goleg Iesu, Rhydychen, a symud oddi yno i Goleg Merton, lle y cafodd ei B.A. yn 1791; yr un flwyddyn urddwyd ef yn ddiacon ac aeth yn gurad tan ei ewythr, y Dr. Lewis, rheithor Whippingham, Ynys Wyth. Yn 1799 aeth yn gaplan ar long
  • JENKINS, JOHN (1779 - 1853) Hengoed, gweinidog gyda'r Bedyddwyr Neilltuol, diwinydd, golygydd a chyhoeddwr Ganwyd 28 Tachwedd 1779 ym mhlwyf Llangynidr, sir Frycheiniog, mab Jenkin a Mary Jenkins. Ni chafodd addysg ond ysgol nos ' am dymor byr ' a dysgodd ei hunan i ddarllen a sgrifennu. Dechreuodd bregethu yn 1800 ac ordeiniwyd ef yn Llangynidr, Mai 1806. Yn 1809 fe'i sefydlwyd yn Hengoed, Morgannwg, ac yno y treuliodd weddill ei oes gan deithio Cymru i genhadu a gwerthu ei lyfrau. Yn 1811