Canlyniadau chwilio

145 - 156 of 269 for "Owain"

145 - 156 of 269 for "Owain"

  • LLOYD, LEWIS WILLIAM (1939 - 1997), hanesydd ac awdur gymdeithasau a dosbarthiadau nos, yn arbennig yn Ardudwy. Rhannai ei wybodaeth a'i frwdfrydedd heintus ag eraill trwy ei lythyron, ei ddarlithoedd a'i gyhoeddiadau niferus ar hyd y blynyddoedd. Yn 1998 sylfaenwyd Cymdeithas Hanes Harlech i'w goffáu. Roedd Lewis Lloyd yn berson hoffus, dirodres a hynod boblogaidd. Bu farw yn ddisymwth ar 11 Ebrill 1997 yn 57 oed yn Cadair Owain, ei gartref yn Llanfair, a
  • LLYWARCH ap BRAN (fl. c. 1137), 'sylfaenydd' un o 'Bymtheg Llwyth Gwynedd Dywedir ei fod yn frawd-yng-nghyfraith i Owain Gwynedd - merched i Gronw ab Owain ab Edwin, arglwydd Tegeingl, oedd gwragedd Llywarch ac Owain Gwynedd. Dywedir hefyd iddo, fel Hwfa ap Cynddelw, wasnaethu Owain Gwynedd fel stiward, ei fod yn byw yn nhrefgordd Tref Llywarch, Môn; fe'i disgrifir hefyd yn arglwydd cwmwd Menai. Am enwau rhai teuluoedd yr oedd eu haelodau yn hawlio bod yn ddisgynyddion
  • LLYWARCH ap LLYWELYN (fl. 1173-1220) yr amlycaf o feirdd llys Gwynedd wedi marw Owain Gwynedd hyd at anterth Llywelyn Fawr. Y mae'n cyfarch Dafydd fab Owain Gwynedd fel ' Udd Ffraw '; felly canai iddo rhwng 1173 a 1175. Cynnen rhwng brodyr o dywysogion oedd prif berygl yr oes yng Nghymru, a hawdd deall y cyfeiriad at Gain ac Abel mewn awdl i Rodri. Dyrchafu awdurdod Aberffraw oedd y llwybr ymwared a welai Llywarch. Yr oedd Dafydd
  • LLYWELYN ab OWAIN ap CYNFRIG MOEL (fl. c. 1480?), bardd Cadwyd nifer o'i gywyddau brud ac un cywydd crefyddol o'i waith mewn llawysgrifau. Ymddengys mai'r un gŵr oedd ef â'r Llywelyn ab Owain y cadwyd nifer arall o'i gywyddau brud.
  • LLYWELYN ap IORWERTH (Llywelyn Fawr; 1173 - 1240), tywysog Gwynedd 1199 yr oedd pob argoel y deuai'n arweinydd o'r un ansawdd a chyda'r un weledigaeth ag Owain Gwynedd; yn wir, rhwng 1199 a 1203, llwyddodd i adfer unbennaeth gwbl ei daid dros Wynedd gyfan, gan gynnwys Meirionnydd a Phenllyn. Parhaodd agwedd brenin Lloegr tuag ato yn ansicr am gyfnod hyd nes y penderfynodd y brenin John o blaid ymgyfeillachu; arwydd o'r agwedd newydd hon oedd priodas Llywelyn yn 1205
  • LLYWELYN ap MOEL y PANTRI (bu farw 1440), bardd O Lanwnnog yn Sir Drefaldwyn; mab i'r bardd (Llywelyn ?), a lysenwid Moel y Pantri, a thad i'r bardd Owain ap Llywelyn ap Moel y Pantri. Yr oedd yn ddisgybl i Rys ap Dafydd ab Iorwerth. Ymhlith ei farddoniaeth a erys ceir ei gywyddau i ferch a elwir Euron, cywydd ar lun ymddiddan rhwng y bardd a'i bwrs gwag, a nifer o gywyddau ymryson i Guto'r Glyn. Canodd hefyd ddau gywydd cellweirus i'r herwyr
  • LLYWELYN ap SEISYLL (bu farw 1023), brenin Deheubarth a Gwynedd Ni wyddys ddim am ei dad, eithr yn ôl rhai achau diweddar yr oedd ei fam, Prawst, yn ferch Elisedd, mab iau i Anarawd ap Rhodri Fawr. Gan i Lywelyn briodi Angharad, merch Maredudd ab Owain ap Hywel Dda, yr oedd ganddo hawl, o bell, i olyniaeth yn Neheubarth a Gwynedd, hawl y gellid, yn amgylchiadau'r cyfnod, ei gwneuthur yn sylwedd gan arweinydd nerthol ac uchelgeisiol. Un felly'n union oedd
  • LLYWELYN FARDD (fl. c. 1150-75), bardd Maredudd (bu farw 1160), ac yn ei ganu i Owain Fychan fab Madog (bu farw 1187) dywaid ei fod yn hyn nag ef. Yn ei arwyrain i Owain Gwynedd, dywed 'Mi fûm gennych ar dir Deheubarth,' ond ni bu Owain yn ymladd yn y De wedi 1138. Yn ôl y ' Llyfr Coch ' dyma'r bardd a ganodd farwnad teulu Owain Gwynedd, ond i Gynddelw y priodolir hi yn y The Myvyrian Archaiology of Wales. Ceir gan Lywelyn Fardd amryw ddarnau
  • LLYWELYN FAWR (fl. yn gynnar yn y 13eg ganrif) gyfeiriad o gwbl at y naill na'r llall ohonynt. Yn 1255 cofnodir marw Maredudd, arglwydd Meirionnydd, mab y Llywelyn hynaf, mae'n weddol sicr. Pan fwriwyd allan, yn 1256, fab yr olaf, yntau hefyd yn Llywelyn, am fradwriaeth yn erbyn Llywelyn II, aeth Meirionnydd dros byth o feddiant disgynyddion Cynan ab Owain Gwynedd. Madog, mab y Llywelyn olaf, oedd arweinydd gwrthryfel 1294.
  • LLYWELYN FYCHAN ap LLYWELYN ab OWEN FYCHAN (bu farw c. 1277), arglwydd Mechain Dilynodd ef a'i frodyr, Maredudd ac Owain, eu tad fel cyd-arglwyddi Mechain rywbryd cyn 1241. Er nad ydoedd sicrwydd ynghylch ei ymlyniad wrth orsedd Gwynedd ym mlynyddoedd cyntaf Dafydd II, yr oedd ymhlith pleidwyr Dafydd yn 1245; yn ddiweddarach yr oedd hefyd ymysg penaethiaid fasal Cymreig Llywelyn II. Bu farw cyn 1277, oblegid yn y flwyddyn honno aeth ei gyfran ym Mechain i ddwylo ei feibion
  • MADOG ap MAREDUDD (bu farw 1160), brenin Powys Mab Maredudd ap Bleddyn ap Cynfyn. Efe oedd yr olaf o'i linach i reoli fel brenin dros Bowys gyfan, gan gynnwys arglwyddiaeth (Fitzalan) Croesoswallt (gweler Owain Brogyntyn). Wedi iddo ddilyn ei dad yn 1132, y ddyletswydd a ystyriai ef yn fwyaf ei phwysigrwydd, yn enwedig rhwng y blynyddoedd 1149 a 1157 oedd amddiffyn Powys yn erbyn gormes Owain Gwynedd. Gan ei fod yn cael ei fygwth gan adeiladu
  • MAELGWN ab OWAIN GWYNEDD (bu farw 1173) Mab Owain Gwynedd a Gwladus ferch Llywarch ap Trahaearn, brawd unfam i Iorwerth Drwyndwn ac ewythr Llywelyn I. Pan rannwyd y tiroedd y teyrnasai ei dad drostynt rhoddwyd Môn i Faelgwn, eithr gyrrwyd ef allan o'r ynys yn 1173 gan ei hannerbrawd, Dafydd I. Ffodd i Iwerddon, dychwelodd yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn, a chymerwyd ef yn garcharor. Ni wyddys mo'i hanes wedi hynny.