Canlyniadau chwilio

157 - 168 of 247 for "Llywelyn"

157 - 168 of 247 for "Llywelyn"

  • LLYWELYN SIÔN (fl. ail hanner yr 16eg ganrif), bardd, amaethwr, 'crier' neu ringyll mewn llys barn am gyfnod, a chopïwr proffesyddol wrth ei grefft, ac un o ffigurau pwysicaf bywyd llenyddol effro sir Forgannwg Gŵr a hanoedd o Langewydd yn Nhrelales yn ymyl Penybont-ar-Ogwr. Mynnai 'Iolo Morganwg' mai Llywelyn Siôn oedd yr athrylith a roes drefn a dosbarth ar 'Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain' ac mai 'trwy ei fanyldeb a'i ddiwydrwydd y cynullwyd deunydd Cyfrinach y Beirdd ' - y cwbl, wrth gwrs, yn ffugiad. Fel copïwr proffesyddol mwyaf ei gyfnod yr haedda ei gydnabod; nid oedd yn gopïwr mor doreithiog â
  • LLYWELYN Y GLYN - gweler LEWIS GLYN COTHI
  • LLYWELYN, TOMAS (fl. c. 1580-1610), bardd ac uchelwr
  • LLYWELYN-WILLIAMS, ALUN (1913 - 1988), bardd a beirniad llenyddol Ganwyd Alun Llywelyn-Williams ar 27 Awst 1913 yng Nghaerdydd, a'i fagu yn 39 Ffordd Penylan, Y Rhath, a 33 Ffordd Ninian, Parc y Rhath lle y symudodd ei deulu i fyw pan oedd yn 18 mis oed. Ef oedd yr ieuengaf o dri phlentyn Dr David Llewelyn Williams (1870-1949), Swyddog Meddygol Iechyd Cymru, a hanai o Fwlchgwyn, Caerhun, Talybont, Dyffryn Conwy, a'i briod Margaret Ann Price (1875-1948) o'r Rhyl
  • MADOG ap GRUFFYDD (bu farw 1236), arglwydd Powys (gweler dan Gwenwynwyn).Ar y cyntaf yr oedd Madog yn gyfeillgar â Llywelyn I, eithr troes ei gefn ar ei gefnder pan oedd ffawd hwnnw yn bur isel yn 1211. Parhaodd i gadw draw wedi i Lywelyn ailffurfio'r gynghreiriaeth Gymreig yn 1212 ac ystyrid ef fel un o gynghreiriaid cydnabyddedig y brenin John, yn derbyn tâl ganddo. Erbyn 1215, fodd bynnag, fe'i ceir yn gadarn o blaid Llywelyn a pharhaodd felly hyd
  • MADOG ap LLYWELYN, gwrthryfelwr 1294 Dangoswyd yn bendant mai mab ydoedd i Lywelyn ap Maredudd, arglwydd-ddeiliad olaf Meirionnydd, y gŵr y cymerwyd ei dreftadaeth oddi arno am iddo wrthwynebu Llywelyn II yn 1256 (gweler Llywelyn Fawr a Llywelyn Fychan, arglwyddi Meirionnydd). Trigai Llywelyn yn Lloegr - yn un o bensiynwyr y brenin; wedi ei farw yn 1263 parhaodd ei fab, Madog, mewn ffafr yn llys y brenin. Yn ystod 1277 gwnaethpwyd
  • MADOG BENFRAS (fl. c. 1320-60), bardd o Farchwiail yn sir Ddinbych. Rhoddir ei achau yn Powys Fadog : ' Madog Benfras ap Gruffudd ap Iorwerth, arglwydd Sonlli, ab Einion Goch ab Ieuaf ap Llywarch ab Ieuaf ap Niniaw ap Cynfrig ap Rhiwallawn.' Yr oedd ei ddau frawd, Llywelyn Llogell (person plwyf March'wiail) ac Ednyfed, yn feirdd hefyd, a dywedir gan ' Iolo Morganwg ' mai Llywelyn ap Gwilym o Emlyn oedd eu hathro barddonol hwy ill tri
  • MADOG FYCHAN ap MADOG ap GRUFFYDD (bu farw 1269) ŵyr Gruffydd Maelor I a brawd Gruffydd Maelor II. Pan fu ei dad farw yn 1236 ymunodd Madog Fychan yn y rhannu a ddilynodd ar Powys Fadog. Yr oedd ei osgo ef ar broblemau gwleidyddol mawr y cyfnod yn gyffelyb i eiddo Gruffydd Maelor I. Yn 1245 ceir ef ymhlith cynghreiriaid Dafydd II; yn 1258 yr oedd ar ochr Llywelyn II. Nid oedd y ffaith i'w ymrwymiad ar ran Tudur ab Ednyfed gael ei dderbyn gan
  • MAELGWN ab OWAIN GWYNEDD (bu farw 1173) Mab Owain Gwynedd a Gwladus ferch Llywarch ap Trahaearn, brawd unfam i Iorwerth Drwyndwn ac ewythr Llywelyn I. Pan rannwyd y tiroedd y teyrnasai ei dad drostynt rhoddwyd Môn i Faelgwn, eithr gyrrwyd ef allan o'r ynys yn 1173 gan ei hannerbrawd, Dafydd I. Ffodd i Iwerddon, dychwelodd yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn, a chymerwyd ef yn garcharor. Ni wyddys mo'i hanes wedi hynny.
  • MAELGWN ap RHYS (c. 1170 - 1230), arglwydd Ceredigion tir hwn wedi iddo helpu John i ennill buddugoliaeth ar Lywelyn yn 1211 a barodd iddo, y mae'n fwy na thebyg, fynd drosodd ac ymuno â phlaid Llywelyn. Gwelir, fodd bynnag, nad oedd cred Llywelyn ynddo ddim yn ddiysgog oblegid pan aethpwyd i rannu tiroedd yr arglwydd Rhys o dan nawdd Llywelyn yn 1216 cadwyd Maelgwn allan o'r holl diroedd uwchlaw afon Aeron. Bu farw yn Llannerch Aeron yn 1230; claddwyd
  • MAELGWN ap RHYS (fl. 1294), gwrthryfelwr mab Rhys Fychan, arglwydd olaf Genau'r Glyn yng ngogledd sir Aberteifi, a disgynnydd Maelgwn ap Rhys ap Gruffydd. Yn 1294, pan dorrodd gwrthryfel (o dan arweiniad Madog ap Llywelyn yng Ngogledd Cymru a Morgan ap Rhys ym Morgannwg) yn erbyn llywodraeth estron, fe'i gwnaeth Maelgwn ei hun yn arweinydd y gwrthryfelwyr yn Sir Aberteifi. Yn ystod yr ymgyrch yng ngorllewin Cymru bu gwarchae caled
  • MAP, WALTER (1140? - 1209?), archddiacon phetrusai chwaith feirniadu'r Eglwys, ac yn enwedig yr urddau mynachaidd, yn bur hallt. Edrydd hefyd nifer o storïau am Gymru, ac y mae'n ddiddorol ar Gruffudd ap Llywelyn. Nid oes ddadl nad oedd Map yn ysgolhaig da; rhifodd M. R. James gryn ddeugain o feirdd a llenorion Lladin, o'r cyfnod clasurol a chyfnod y Tadau, y mae dyfyniadau neu atseiniau ohonynt yn y De Nugis - heb sôn am yr adnabyddiaeth