Canlyniadau chwilio

157 - 168 of 1867 for "Mai"

157 - 168 of 1867 for "Mai"

  • CYNAN DINDAETHWY (bu farw 816), tywysog Yn ôl yr achau hynaf yr oedd yn fab Rhodri, ŵyr Cadwaladr (bu farw 664). A chofio, fodd bynnag, i Rodri (Rhodri Molwynog, fel rheol) farw yn 754 ac mai yn 813 y sonnir gyntaf am Gynan, rhaid ystyried yr ach yn wallus. Mewn cysylltiad ag ymgais â Hywel (brawd iddo, yn ôl Dr. David Powel) i'w gyfrif yn bennaeth Môn y daw enw Cynan i dudalennau hanes. Yn 814, Hywel a orfu; enillodd Cynan yr ynys yn
  • CYNGAR (fl. 6ed ganrif), sant enw nawddsant eglwys Llangefni ym Môn ac eglwys yr Hôb yn Sir y Fflint. Dywed ail 'fuchedd' Cyngar Sant mai yr un oedd ef â Doccuinus Sant, ond mae'n amheus a oes rheswm digonol dros dderbyn hyn yn derfynol. Anrhydeddir Cyngar Sant hefyd yng Ngwlad yr Haf, yng Nghernyw, ac yn Llydaw. Fel canlyniad i ddryswch rhwng mwy nag un sant yn dwyn yr enw hwn, enwir 7 a 27 Tachwedd fel dydd gŵyl Cyngar Sant.
  • CYNIDR (fl. 6ed ganrif), sant Ychydig o hanes bywyd y sant hwn sydd ar gael. Dywed y ' De Situ Brecheniauc ' (Wade-Evans, Vitae Sanctorum Britanniae et Genealogiae, 313-5) a'r ' Cognacio Brychan ' (op. cit., 315-8) amdano mai mab oedd i Geingair, ferch Brychan, ond ni sonnir yno am enw ei dad. Ar y llaw arall, dengys y ' Generatio Sancti Egweni ' (op. cit., 319) mai mab oedd Cynidr i Wynllyw a Gwladys, ac felly yn frawd i
  • CYNOG (fl. 500?), sant yn ôl traddodiad, mab i Brychan, sefydlydd teyrnas Brycheiniog, a Banadlwedd, merch i un o frenhinoedd Powys. Ym Mrycheiniog y coffeir ef gan mwyaf - y mae Defynnog, Ystrad Gynlais, Penderyn, Battle, Llangynog, a Merthyr Cynog i gyd o dan ei nawdd, a dywedir mai ym Merthyr Cynog y'i claddwyd. Cyflwynwyd eglwys Boughrood yn sir Faesyfed a Llangynog yn Sir Drefaldwyn hefyd iddo; bu iddo unwaith
  • DAFYDD ab IFAN ab EINION (fl. 1440-1468), gŵr sy'n enwog am iddo amddiffyn castell Harlech ar ran plaid Lancaster (1460-8) yn Rhyfel y Rhosynnau frenhines Marged ei awdurdodi i amddiffyn Harlech. Wedi brwydr Northampton (Gorffennaf 1460) cafodd Marged loches yn Harlech, ac y mae'n bosibl mai dyna'r achlysur y cafodd Dafydd yr awdurdod hwnnw ganddi. O hynny allan bu'r castell yn noddfa i wŷr enwog plaid y frenhines, a hefyd yn ddolen rhyngddi a'i chanlynwyr. Dro ar ôl tro galwyd arno i draddodi Harlech i blaid Efrog, ond ni wnaed unrhyw ymdrech i'w
  • DAFYDD ab OWAIN (bu farw 1512), abad ac esgob , droi a chefnogi Harri Tudur yn ei raid. Bu ar un adeg yn abad Ystrad Marchell ac am ryw hyd yn abad Ystrad Fflur. Rywbryd wedi diwedd 1489 cafodd abadaeth Aberconwy ym Maenan; parhaodd yn abad yno wedi ei ddyrchafu'n esgob Llanelwy, 13 Rhagfyr 1503. Rhoed iddo, wrth enw Dafydd, esgob Llanelwy, neu Ddafydd, abad Conwy, bardwn cyffredinol, 16 Mai 1508, a thrachefn cymerodd ef a'i brif swyddogion
  • DAFYDD ab OWAIN GWYNEDD (bu farw 1203) brwydr yn Aberconwy. Ni adawyd iddo ond tri chastell, a chollodd y rhain hyd yn oed yn 1197 pan daflwyd ef i garchar gan Lywelyn. Trwy i'r archesgob Hubert gyfryngu ar ei ran fe'i rhyddhawyd yn 1198, ac ymneilltuodd i'w faenorau yn Lloegr a threulio yno weddill ei oes. Bu farw tua mis Mai 1203, wedi ennill iddo'i hun, medd Gerallt Gymro, edmygedd y ddwy genedl oblegid iddo geisio cadw'r dafol yn wastad
  • DAFYDD ap DAFYDD LLWYD (1549), bardd ac aelod o deulu bonheddig ), Sion Huws, Maes y Pandy, ger Talyllyn, a'r doctor [ David ] Powell, ymrysonau rhyngddo â Roger Cyffin a Lewys Dwnn, a cherddi crefyddol a moesol. Canodd Bedo Hafesb gywydd marwnad iddo (Bodewryd MS 1D (289). Ymddengys mai ei fab, John, biau'r englyn yn NLW MS 5270B (327).
  • DAFYDD AP GWILYM (c. 1315 - c. 1350), bardd Yr oedd Dafydd ap Gwilym yn fab i Wilym Gam ap Gwilym ab Einion Fawr o'r Tywyn ap Gwilym ap Gwrwared ap Gwilym ap Gwrwared Gerdd Gymell ap Cuhelyn Fardd. Enw ei fam oedd Ardudful, ac mae'n bosibl mai brawd iddi hi oedd y Llywelyn ap Gwilym ap Rhys ap Llywelyn ab Ednyfed Fychan a alwyd yn ewythr gan y bardd. Yr oedd hynafiaid Dafydd yn uchelwyr llewyrchus a fu'n gwasanaethu arglwyddi Normanaidd yn
  • DAFYDD ap GWILYM (fl. 1340-1370), bardd eglwys gadeiriol Bangor. Canodd i Hywel ap Goronwy, a fu'n ddeon ym Mangor. Canodd hefyd i rai o wyr a gwragedd bonheddig Ceredigion. Y gwr y canodd fwyaf iddo, yn ôl y dyb gyffredin, oedd Ifor ap Llywelyn o Fasaleg ym Morgannwg, a elwir yn Ifor Hael. Eithr erbyn hyn ni ellir bod yn sicr o gwbl mai Dafydd ap Gwilym a ganodd y cerddi i'r gwr hwnnw. Claddwyd Dafydd yn Ystrad Fflur, a chanodd Gruffudd
  • DAFYDD ap HYWEL GRYTHOR, crythor a raddiwyd yn ddisgybl disgyblaidd cerdd dant crwth yn eisteddfod Caerwys, 26 Mai 1568.
  • DAFYDD ap LLYWELYN (bu farw 1246), tywysog Cricieth. O'r herwydd, pan fu Llywelyn farw 11 Ebrill 1240, nid oedd dim yn rhwystro Dafydd rhag esgyn i'r orsedd. Cafodd gymorth cryf Ednyfed Fychan, prif gynghorwr Llywelyn, ac Einion Fychan, un o ladmeryddion rheolaidd y tywysog hwnnw, a hefyd gymorth esgob Llanelwy. Ar 15 Mai, mewn cynulliad mawr yng Nghaerloyw, cyfarfu'r brenin a'i nai, gwnaeth ef yn farchog, derbyniodd wrogaeth ganddo, a gosododd