Canlyniadau chwilio

169 - 180 of 1867 for "Mai"

169 - 180 of 1867 for "Mai"

  • DAFYDD ap SIANCYN (SIENCYN) ap DAFYDD ap y CRACH (fl. tua chanol y 15ed ganrif), cefnogwr plaid y Lancastriaid, a bardd , ond amheus yw ei awduraeth o'r rhain, oherwydd ymddengys mai i gyfnod diweddarach y perthynai'r personau hynny.
  • DAFYDD BENWYN (fl. ail hanner yr 16eg ganrif), un o feirdd Morgannwg Dywed ei gyfoeswr, Sils ap Siôn, mai gwr o Langeinwyr ydoedd. Ei athro barddol ydoedd Rhisiart Iorwerth o Langynwyd, mab Iorwerth Fynglwyd. Ceir peth o'i waith yn ei law ef ei hun yn Llsgr. Caerdydd 10 ac yn Llanstephan MS 164, ac y mae gennym ddau gasgliad mawr o'i awdlau a'i gywyddau, y naill yn Llsgr. Caerdydd 2 (277), a'r llall yn Llsgr. Coleg Iesu 13. Ef yw'r mwyaf toreithiog o feirdd
  • DAFYDD DARON (fl. 1400), deon Bangor yn niwedd teyrnasiad Rhisiart II. Ym mis Tachwedd 1397 cafodd brebendiaeth Llandwrog. Ynghyd â'r cabidwl rhoes gyfrif, 19 Mai 1399, o werthoedd ariannol yr esgobaeth a fuasai yn eu gofal hwy er pan fu'r esgob Swaffham farw 24 Mehefin 1398. Ar un adeg yr oedd ganddo swydd yn eglwys Clynnog Fawr. Dyna'r cwbl a ddywed hanes cyfoes amdano. Dywed Browne Willis (gan ddilyn Le Neve) iddo gael ei fwrw
  • DAFYDD DDU ATHRO o HIRADDUG (fl. cyn 1400), gŵr y cysylltir ei enw â'r gramadeg neu'r 'llyfr cerddwriaeth' cyntaf sydd gennym Hynny yw, llyfr sy'n trafod celfyddyd cerdd dafod, ac a gynnwys hefyd dalfyriad Cymraeg o'r gramadeg Lladin a ddefnyddid yn ysgolion yr Oesoedd Canol. Ni wyddom odid ddim amdano, ond gan fod Moel Hiraddug yn enw ar fryn yn ymyl Rhuddlan, efallai fod Syr Thomas Williams yn iawn pan ddywed, yn NLW MS 3029B, mai gŵr 'o Degeingyl' ydoedd. Myn y Dr. John Davies o Fallwyd yn Peniarth MS 49 ei fod yn
  • DAFYDD GAM (bu farw 1415), milwr Cymreig gwrthryfelwyr (Cal. Pat. Rolls, 11); dywed yr hanesydd Ysgotaidd, Walter Bower, iddo chwarae'i ran yn y fuddugoliaeth ar Owain Glyn Dwr ym Mhwll Melyn, gerllaw Caerbuga, 5 Mai 1405 (Scotichronicon, ed. W. Goodall, 1759, ii, 452). Y mae'r dyddiad hwn yn peri bod rhaid amau cywirdeb y stori wybyddus am ei ymosodiad ar Glyn Dwr yn y senedd a gyfarfu ym Machynlleth yn 1404; rhaid amau'r stori ar gyfrifon eraill
  • DAFYDD TREFOR Syr (bu farw 1528?), offeiriad a bardd Dafydd yntau farw yn 1527 neu yn gynnar yn 1528. Dywed Edward Lhuyd mai yn Llanallgo y claddwyd ef - 'a rhai or plwy a dhangossant i vedh.' Canodd wyth o gywyddau 'gofyn' ('i ofyn telyn a gordderch ' ydyw'r mwyaf adnabyddus o'r rhain), pedwar cywydd 'canmol' (yn eu plith un i ' Deiniol Bangor'), tri chywydd 'duwiol,' tri chywydd 'marwnad' (un ohonynt i'r brenin Harri VII), un cywydd yn disgrifio
  • DAFYDD y COED (fl. 1380), un o'r Gogynfeirdd diweddar Cadwyd pedair awdl sylweddol o'i waith a mân bethau o natur dychan yn ' Llyfr Coch Hergest.' Canodd i Rydderch ab Ieuan Llwyd o Lyn Aeron (fl. 1386-97), Hopcyn ap Thomas o Ynys Dawe (fl. 1360-90), a Gruffudd ap Llywelyn o Uwch Aeron. Cadarnheir amcan Moses Williams, yn ei Repertorium Poeticum, mai tua 1380 y blodeuai. Gwr o Ddeheubarth ydoedd fel y dengys yr awdlau uchod a'r mân ddarnau, sy'n
  • DAFYDD, EDWARD (c. 1600 - 1678?) Fargam, bardd Gellir bwrw ei eni tua 1600, a chawn gywydd o'i waith a ganodd yn 1623. Dywedai ' Iolo Morganwg ' mai ei athro barddol ydoedd Llywelyn Siôn o blwyf cyfagos Trelales. Ef yw'r amlycaf o feirdd Morgannwg yn yr 17eg ganrif, ac yn ôl pob tebyg, gellir edrych arno fel yr olaf ohonynt a oedd yn fardd wrth ei grefft. Canai awdlau a chywyddau i foneddigion Morgannwg, ond a barnu wrth gymaint o'i waith ag
  • DAFYDD, JOHN (fl. 1747), emynwyr Meibion David John (1698 - 1775) a Margared Richard, ei briod (1692 - 1774); ganwyd John Dafydd yn 1727 ac yr oedd yn fyw yn 1771. Dywedir mai cryddion oeddynt a thrigent yn y Bedw-gleision, Caeo, Sir Gaerfyrddin; cyfarfyddai seiat Fethodistaidd Caeo yn eu cartref. Enwir John yng nghofnodion Trefeca; yr oedd yn gynghorwr ym mlynyddoedd cyntaf y diwygiad Methodistaidd. Disgynnydd o Richard, eu
  • DAFYDD, OWEN (1751 - 1814?), bardd cefn gwlad a baledwr Dywedir mai o Wynfe, Sir Gaerfyrddin yr hannai, ond trigai yn Llandybïe yn 1783. Bernir mai ef yw'r ' Owen Watkin ' a briododd Joyce William o Gwm Aman, yno 21 Tachwedd 1783. Crwydrodd lawer ar hyd ei oes wrth ddilyn galwedigaeth melinydd. Bu'n byw am dymor yng Nghwmgrenig-fach, Cwm Aman, ac ar ôl hynny yn Llwyn Uchedwel gerllaw'r Glais yng Nghwmtawe; Cefn Myddfai, Llangyfelach; a Melin Gurwen
  • DAFYDD, MAURICE (fl. 1789), emynydd Daw'r emyn Cymraeg tra adnabyddus sy'n dechrau gyda'r llinell ' Am graig i adeiladu … ' o lyfryn o'i waith a gyhoeddwyd yn 1789. Ymddengys mai gyda'r Annibynwyr yn y Bala yr oedd yn aelod. Gweler y drafodaeth yn J. Thickens, Emynau a'u Hawduriaid, 138-9.
  • DAIMOND, ROBERT (BOB) BRIAN (1946 - 2020), peiriannydd sifil a hanesydd Ganwyd Bob Daimond ar 1 Mai 1946 yn Tenterden, Swydd Gaint, yr iengaf o dri o blant yr athrawon ysgol Charles Daimond (1910-1970) a Stella Ellerbeck (1908-1997). Symudodd y teulu wedyn i Wolverhampton lle daeth Charles yn Swyddog Ieuenctid a Gwasanaethau Cymunedol Awdurdod Lleol Wolverhampton a Stella yn y pen draw yn Ddirprwy Bennaeth Ysgol y Merched St Peter's. Mynychodd Bob Ysgol Gynradd St