Canlyniadau chwilio

169 - 180 of 572 for "Morgan"

169 - 180 of 572 for "Morgan"

  • JAMES, DANIEL (Gwyrosydd; 1847 - 1920), bardd Ganwyd yn Nhreboeth, Abertawe, 13 Ionawr 1848, yn fab i Daniel James, saer maen, a'i wraig Mary (Morgan). Yr oedd ei rieni yn aelodau yn hen eglwys Mynyddbach, lle y canodd 'Gwyrosydd' lawer amdano. Collodd ei dad yn ifanc ac aeth i weithio fel pwdler yng ngwaith haearn Treforus i helpu magu'r plant eraill. Yna gweithiodd am flynyddoedd yng ngwaith alcam Glandwr. Trwythodd ei hun yn Ysgol Farddol
  • JAMES, DAVID (1787 - 1862), cerddor Ganwyd yn 1787, a dygwyd ef i fyny gan ei fodryb ym Mhenrallt, Pont Saison, ger Brynberian, Sir Benfro. Cafodd dri mis o ysgol yn blentyn, a thrwy hunan-ddiwylliant daeth yn rhifyddwr da, a thipyn o seryddwr. Dafydd Siencyn Morgan a roddodd iddo ei wersi cyntaf mewn cerddoriaeth. Galwyd ef yn 1804 i Hwlffordd i fynd dan ddisgyblaeth filwrol, a chafodd gyfarwyddyd a gwersi mewn cerddoriaeth gan
  • JAMES, JAMES (Iago ap Iago; 1818 - 1843), prydydd . Ysgrifennodd ei frawd, Morgan James, fywgraffiad byr iddo, a chasglu ei waith prydyddol. Golygwyd y cwbl gan I. Jenkins, a'i gyhoeddi gan Thomas Williams, Crughywel, yn 1844.
  • JAMES, PHILIP (1664 - 1748), gweinidog cynnar gyda'r Bedyddwyr Ganwyd yn ardal Pontarddulais, ac addysgwyd (meddir) yn yr ysgol a gedwid gan Robert Morgan (1621 - 1711). Digiodd ei rieni wrtho am ei Ymneilltuaeth, a thua 1685 aeth i Lerpwl, i wasnaethu meddyg o Fedyddiwr o'r enw Ebenezer Fabius (a fu farw 1691); aeth yn feddyg ei hunan, a phregethai, yn agos i Lichfield. Yn ôl David Jones (Hanes y Bedyddwyr yn Neheubarth Cymru, 524), bu am dymor yn un o
  • JAMES, ROBERT (Jeduthyn; 1825 - 1879), cerddor Ganwyd 7 Mawrth 1825 yn Aberdâr, mab Morgan ac Ann James. Derbyniodd ei addysg gerddorol yn nosbarthiadau Rosser Beynon. Meddai lais da, a dewiswyd ef yn arweinydd canu yng nghapel Bethesda, Merthyr, yn 1845. Sefydlodd gymdeithas gerddorol ac enillodd lawer o wobrwyon mewn eisteddfodau. Cyhoeddodd y gymdeithas Organ y Cysegr, sef casgliad o alawon cysegredig wedi eu trefnu gan Robert James. Yr
  • JAMES, THOMAS DAVIES (Iago Erfyl; 1862 - 1927), offeiriad, pregethwr a darlithydd poblogaidd iawn; 1892. Bu'n gurad Llanfair Caereinion o Ragfyr 1891 hyd Hydref 1896; yn gurad Llaneurgain, Sir y Fflint, 1896-7; ac yn gaplan eglwys Gymraeg S. Martin, Caer, o 1897 hyd 1901 pan benodwyd ef gan yr Arglwydd Ganghellor yn offeiriad plwy Llanerfyl, Sir Drefaldwyn (un o fywiolaethau'r Goron), ac yno y treuliodd weddill ei oes. Ef a ddewiswyd i ddilyn Penfro (William Morgan) fel deon gwlad Caereinion, 1918
  • JAMES, WILLIAM (1836 - 1908), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd llywydd cymdeithasfa'r De yn 1902-3, yn llywydd y gymanfa gyffredinol yn 1895, ac yn ' Ddarlithydd Davies ' yn 1902. Heblaw y ddarlith honno (Christianity the Goal of Nature), cyhoeddodd ddwy ran o Llawlyfr yr Efengylau, 1888-90, a chyda John Morgan Jones, Cofiant a Phregethau David Saunders (ei ragflaenydd ym Methania), 1894; a chryn nifer o ysgrifau yn y cyfnodolion. Fel pregethwr yr enillodd fwyaf o
  • JENKINS, JENKIN (bu farw 1780), athro academi Caerfyrddin mathemategol a gwyddonol y gwaith (y rhoddid cryn bwys arnynt yn y cyfnod hwnnw) yn cael eu hesgeuluso - efallai nad ymhoffai ynddynt; ond ar y llaw arall gwrthodai'n ystyfnig gymryd cynorthwywr. Yr oedd hefyd yn drwm iawn ei glyw ac yn bregethwr sâl (meddai Thomas Morgan o Henllan), ac yn gynyddol lac ei ddisgyblaeth. Aeth yn ffrwgwd fawr rhyngddo a'r Bwrdd Presbyteraidd o 1775 ymlaen (y mae llawer adlais
  • JOHN ap JOHN (1625? - 1697), Apostol y Crynwyr yng Nghymru ' Siôn ap Siôn ' y gelwir ef gan Ellis Pugh yn ei Annerch i'r Cymru (1721); ganwyd ym Mhencefn, trefgordd Coed Cristionydd, plwyf Rhiwabon. Yn nyddiau'r Werinlywodraeth ymunodd â'r ' Piwritaniaid ' a dyfod yn aelod o gynulleidfa Morgan Llwyd yng Ngwrecsam. Ar 21 Gorffennaf 1653 aeth gydag un arall, ar ran Morgan Llwyd, i Swarthmore, swydd Lancaster, i gyfarfod â George Fox, y Crynwr. Llwyddodd
  • JOHN, BRYNMOR THOMAS (1934 - 1988), gwleidydd Llafur wasanaethu fel swyddog o fewn cangen addysg yr Awyrlu Brenhinol, ac roedd yn bartner gyda chwmni o gyfreithwyr rhwng 1960 a 1970. Ac yntau'n bartner o fewn cwmni Morgan, Bruce a Nicholas, Pontypridd, arbenigedd Brynmor John oedd achosion yn ymwneud â damweiniau diwydiannol. Ymunodd â'r Blaid Lafur pan oedd yn ddeunaw oed ac roedd yn ysgrifennydd cangen y Blaid Lafur yng Ngholeg y Brifysgol, Llundain
  • JOHN, DAVID (1782? - 1853), gweinidog gyda'r Undodwyr, Siartydd, a gof wrth ei alwedigaeth Suliau a chyda'r nos ar ddyddiau gwaith, dysgid pynciau a fyddai o fudd i weithwyr gyda'u gwahanol orchwylion. Yr oedd ei feibion, DAVID JOHN a MATTHEW JOHN, yn flaenllaw ymysg y Siartwyr. Bu David John, a oedd yn danbaid ei natur fel Siartydd, yn gyd-gyhoeddwr (gyda Morgan Williams) Udgorn Cymru, 1840-2, papur Siartaidd, ac un Saesneg, The Advocate and Merthyr Free Press, 1840; pum rhifyn o'r un
  • JOHN, GEORGE (1918 - 1994), gweinidog (Bed.) a phrifathro coleg gael ei ddyrchafu'n bennaeth y Coleg yn olynydd i D. Eirwyn Morgan yn 1980. Bu'n llywydd Cymanfa Arfon yn 1982. Ymddeolodd i fyw yn Llandysul yn 1984, gan barhau i ddarlithio yn ei bwnc yng Ngholeg Prifysgol Llanbedr-pont-Steffan am gyfnod. Ar y cyfan, gŵr yn hoffi'r encilion ydoedd, ond roedd yn bregethwr dawnus a sylweddol. 'Pregethu: Yr Uchel Alwedigaeth' oedd y testun a ddewisodd wrth draddodi