Canlyniadau chwilio

1813 - 1824 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1813 - 1824 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • JONES, JOHN JAMES (1892 - 1957), athro, llyfrgellydd, ysgolhaig ac ieithydd Ganwyd 12 Mawrth 1892 yng Ngheinewydd, Ceredigion, yr ieuangaf o ddau blentyn y cyfrwywr Thomas Jones ac Elizabeth, merch John Williams, Pendre, Llwyndafydd. Addysgwyd ef yn ysgol y cyngor, Ceinewydd, ysgol ganolraddol Aberaeron (1906-10); bu'n ddisgybl athro cyn mynd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1911-14), lle y daeth yn ddisgybl i'r athro enwog Hermann Ethé. Graddiodd yn B.A. gydag
  • JONES, JOHN MATHER (1826 - 1874), perchennog Y Drych Ganwyd 9 Mehefin 1826 ym Mangor, Sir Gaernarfon. Ymfudodd i America yn 1849 gan gartrefu yn Utica, Efrog Newydd. Prynodd Y Drych, yn 1865, gan John William Jones a ddaeth yn olygydd y papur o hynny ymlaen, yn cael ei gynorthwyo gan Thomas B. Morris ('Gwyneddfardd'). Yn 1866 cyhoeddodd John Mather Jones lyfr Cymraeg ar hanes y Rhyfel Cartref a ysgrifenwyd gan ddau olygydd Y Drych ar ei gais ef. Ar
  • JONES, JOHN MORGAN (1861 - 1935), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur Ganwyd 26 Mawrth 1861 ym Margam, Sir Forgannwg, ardal y bu'n gweithio ynddi am beth amser cyn myned i Goleg Arnold yn Abertawe ac oddi yno i Goleg Trefeca. Bu'n weinidog yn y Bwlch, sir Frycheiniog, ac yn Alexandra Road, Abertawe, cyn myned i Goleg S. Ioan, Caergrawnt, yn 1895; graddiodd yn B.A. yn 1898. Yn yr un flwyddyn penodwyd ef yn weinidog capel Methodistaidd Saesneg Hope, Merthyr Tydfil, a
  • JONES, JOHN MORGAN (1873 - 1946), gweinidog gyda'r Annibynwyr a phrifathro coleg Bala-Bangor Ganwyd 23 Hydref 1873 yn Albert Cottage, Cwmaman, Sir Gaerfyrddin, yn chweched plentyn ac ail fab Joseph Jones, peiriannydd, a Mary ei wraig. Wedi cyfnod o addysg yn ysgol y Tŷ Marchnad bu'n gweithio mewn swyddfa gwaith alcam yn y cylch. Dechreuodd bregethu ym Methel Newydd, Garnant, o dan weinidogaeth y Parch. J. Towyn Jones yn 1889 ac aeth wedyn i ysgol y Gwynfryn, Rhydaman. Fe'i derbyniwyd i
  • JONES, JOHN MORGAN (1838 - 1921), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd yn Llanddewi-brefi, Sir Aberteifi. Symudodd y teulu i Dowlais a bu yntau'n gweithio yno fel saer coed cyn cynnig ei hun i'r weinidogaeth (1864). Cafodd ei addysg yng Ngholeg Trefeca, 1866-9; ordeiniwyd ef yn 1870, a bu'n gweinidogaethu yn Deri (1869), Ystalyfera (1871), a Trefforest (1873), cyn mynd i eglwys Pembroke Terrace, Caerdydd, lle y bu'n fugail o 1875 hyd 1912. Yn ystod 14 mlynedd
  • JONES, JOHN OWEN (1857 - 1917), gweinidog ac athro gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a llenor bu'n athro yn yr ysgol sir yno; bu farw 6 Mawrth 1917, a chladdwyd yng Nghaeathro. Ei brif nodwedd oedd gweithgarwch dygn. Yr oedd yn athro da a llwyddiannus, ond yn ddisgyblwr llym na allai oddef ffyliaid. Ac yr oedd yn rhy ddidderbynwyneb i blesio gwŷr mawr ei gyfundeb, fel na chafodd unrhyw swydd ynddo - dymunodd yn ofer, fwy nag unwaith, am gadair yng Ngholeg y Bala. Pregethai'n sylweddol, ond
  • JONES, JOHN OWEN (OWEN BRYNGWYN; 1884 - 1972), datganwr Ganwyd yn Llangwm, sir Ddinbych, 7 Chwefror 1884, yn fab i Owen Jones, saer coed ar ystad Garthmeilo, Llangwm, ac Esther Margaret (Roberts), unig ferch Ellis Roberts (Elis Wyn o Wyrfai). Yn 1890 symudodd y teulu i Lanegryn, Meirionnydd, pan benodwyd y tad yn oruchwyliwr ystad Peniarth, swydd y bu ynddi am 32 o flynyddoedd. Magwyd ef ar aelwyd gerddorol. Yr oedd y tad, a fu farw yn 1922, yn arwain
  • JONES, JOHN PULESTON (1862 - 1925), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, llenor, a diwinydd Ganwyd yn y Berth, Llanbedr Dyffryn Clwyd, 26 Chwefror 1862, mab Evan Jones, saer ac adeiladydd, a Mary Ann Puleston, (Mair Clwyd), un o ddisgynyddion Pilstyniaid Emral, Sir y Fflint, a chwaer Syr John Puleston. Symudodd y teulu i'r Bala, a phan oedd Puleston yn 18 mis oed cafodd ddamwain a'i gwnaeth yn berffaith ddall. Dysgodd ei fam iddo wneuthur popeth a allai drosto'i hun, heb gymorth neb
  • JONES, JOHN RICE (1759 - 1824), cyfreithiwr a gwladychydd yng ngorllewin canol yr Amerig Ganwyd Chwefror 1759, yr hynaf o bedwar plentyn ar ddeg John Jones, swyddog tollau, Mallwyd, Sir Feirionnydd. Yn ôl traddodiad teuluol bu ym mhrifysgol Rhydychen, ond ni ellir cadarnhau hyn. Ym mis Ionawr 1781, yn Aberhonddu, priododd Eliza, merch Richard a Mary Powell o'r dref honno. Yn 1782 yr oedd yn gyfreithiwr yn Aberhonddu a swyddfa ganddo hefyd yn Thanet Place, Strand, Llundain. Hwyliodd i
  • JONES, JOHN RICHARD (1765 - 1822), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Gweinidog Ramoth, Llanfrothen, Sir Feirionnydd. Ganwyd yn y Bryn Melyn, plwyf Llanuwchllyn, 13 Hydref 1765. Yr oedd ynddo gryn dipyn o reddf yr ysgolhaig o'i febyd. Yn llanc gallai ddarllen ac ysgrifennu Saesneg a medrai rifyddiaeth; gwyddai fesurau cerdd dafod a chyfrinion tôn ac alaw, a'i lais yn berorol. Bu'n aelod ac yn bregethwr gyda'r Annibynwyr yn yr 'Hen Gapel,' Llanuwchllyn, ond
  • JONES, JOHN ROBERT (Alltud Glyn Maelor; 1800 - 1881), llenor ac emynydd Ganwyd yn Llanarmon yn Iâl yn 1800; yr oedd yn perthyn i ' Ehedydd Iâl ' (William Jones, 1815 - 1899). Prentisiwyd ef yn grydd, a bu'n grydd hyd ei flynyddoedd diwethaf. Priododd (cafodd chwe mab), ac aeth i fyw i'r Cefnmawr, lle yr ymunodd (1827) â'r Bedyddwyr. Symudodd i'r Brymbo yn 1834, a bu yno weddill ei oes. Cynullwyd eglwys i'r Bedyddwyr, yn ei dy, yn 1836 - ar gyfer yr achlysur hwnnw y
  • JONES, JOHN ROBERT (1911 - 1970), athronydd a chenedlgarwr Ganwyd 4 Medi 1911 ym Mhwllheli, Caernarfon, mab William a Kate Jones. Addysgwyd ef yn ysgol Troed-yr-allt ac yn yr ysgol sir, Pwllheli. Oddi yno aeth i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth lle y graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth cyntaf mewn athroniaeth. Cafodd radd M.A. gyda chlod yn yr un coleg ac oddi yno, gyda chymrodoriaeth Prifysgol Cymru, aeth i Goleg Balliol, Rhydychen, lle yr enillodd