Canlyniadau chwilio

1825 - 1836 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1825 - 1836 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • JONES, JOHN SHARE (1873 - 1950), milfeddyg Ganwyd 25 Awst 1873, mab Thomas Jones, Plas Kynaston, Cefn-mawr, sir Ddinbych. Addysgwyd ef ym mhrifysgolion Lerpwl a Llundain. Bu iddo ran yn sefydlu adran neu ysgol astudiaethau milfeddygol ym mhrifysgol Lerpwl. Penodwyd ef yn gyfarwyddwr astudiaethau milfeddygol yn y brifysgol honno yn 1917, ac yn athro anatomeg milfeddygol yn 1919. Yr oedd yn gymrawd o'r Coleg Brenhinol Milifeddygol, a bu'n
  • JONES, JOHN VIRIAMU (1856 - 1901), gwyddonydd, a phrifathro cyntaf Coleg y Brifysgol yng Nghaerdydd Ganwyd 2 Ionawr 1856 ym Mhentre-poeth, Abertawe, yn fab i Thomas Jones (1819 - 1882); dull brodorion Erromanga o gynanu cyfenw John Williams y cenhadwr a barodd i'w dad roi'r enw 'Viriamu' iddo; brawd iddo oedd Syr David Brynmor Jones. Cafodd yrfa addysgol hynod ddisglair; graddiodd yn Llundain yn 19 oed, gydag anrhydedd yn y dosbarth blaenaf mewn daeareg; yn 1874 aeth yn ' Brackenbury Scholar
  • JONES, JOHN WILLIAM (1883 - 1954), llenor, casglwr llythyrau ac amryfal bapurau, cyhoeddwr, hynafiaethydd a bardd gwlad ); Rolant Wyn : Dŵr y Ffynnon (Blaenau Ffestiniog, 1949), ac R.R. Morris : Caneuon R. R. Morris (1951). Un o'i gyfeillion agos oedd Ellis Humphrey Evans ('Hedd Wyn') a chynorthwyodd J.R. Jones gyda chyhoeddi Cerddi'r bugail. Rhoddodd beth cymorth i gasglu cynnwys O Drum i Draeth Eliseus Williams ('Eifion Wyn') ac i wneud cofiannau i Owen Griffith Owen ('Alafon') a John John Roberts ('Iolo Caernarfon
  • JONES, JOHN WILLIAM (1868 - 1945), adeiladydd Ganwyd John William Jones 16 Mawrth 1868 yn Cae'r Hafod, Cyfylliog ger Rhuthun, a symudodd yn 1886 i Lerpwl i weithio fel saer coed yng nghwmni David Roberts (1806-1886) a'i fab John Roberts (1835-1894) a fu yn Aelod Seneddol Bwrdeistref Fflint, 1878-92. Mynychodd JW, fel y daethpwyd i'w alw, ysgolion nos ac ysgolion technegol gan ddysgu'n gyflym, ac o fewn wyth mlynedd cychwynnodd fel adeiladydd
  • JONES, JOHN WILLIAM (1827 - 1884), golygydd Y Drych, newyddiadur y Cymry yn U.D.A. Ganwyd 11 Ionawr 1827 yn Bryn Bychan, Llanaelhaearn, Sir Gaernarfon. Symudodd gyda'i rieni i Ty'n Llwyn, Llanllyfni, lle bu ei dad yn cadw ysgol. Yn 1845 ymfudodd i U.D.A. gyda mintai o deuluoedd o siroedd Caernarfon a Meirion. Bu yn Racine (Wisconsin) yn gweithio ar ffermydd, yn ymyl Chicago yn gweithio ar gamlas, ac yn Utica (N.Y.) yn gweithio fel saer dodrefn. Cafodd beth addysg yn ysgol
  • JONES, JOHN WILLIAM (Andronicus; 1842 - 1895), llenor
  • JONES, JONATHAN (1745 - 1832), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd ger Capel Llanfihangel ym mhlwyf Abergwili, 1745, yr ieuengaf o bum plentyn John a Mary Morgan. Addolai ei rieni yng nghapel Pant-teg. Prentisiwyd ef yn of fel ei dad, a bu'n gweithio i William Thomas, Llanllwni, a phan symudodd hwnnw i Lanwenog cymerodd yntau at ei efail. Ymaelododd gyda'r Annibynwyr ym Mhencader ac anogwyd ef i bregethu. Galwyd ef i fod yn weinidog yn Rhydybont
  • JONES, JOSEPH (1799 - 1871), offeiriad Catholig Ag Ysgeifiog y cysylltir enw Joseph Jones. Yno, mae'n debyg, y ganwyd ef yn 1799 ac yno, neu heb fod ymhell oddi yno, y bu'n byw am ran o'i oes wedi dod i oedran dyn. Fel eraill o ardaloedd y mwyngloddiau yn Sir y Fflint, symudodd Joseph Jones hefyd, yn laslanc, i'r Mwynglawdd (Minera) i weithio yn y gweithydd plwm am fod yno, bryd hynny, well cyfle gwaith i fwynwyr. Yn y Mwynglawdd ymaelododd
  • JONES, JOSEPH (1877 - 1950), prifathro Coleg Coffa, Aberhonddu Aberhonddu. Breintiwyd Joseph Jones â doniau eithriadol. Daeth i amlygrwydd mawr fel pregethwr, addysgydd, gwladweinydd eglwysig ac arweinydd cymdeithasol. Prin y gellir croniclo'r holl swyddi a'r safleoedd y galwyd ef iddynt. Bu'n amlwg iawn ym mywyd sir Frycheiniog - aelod o'r cyngor sir, 1913-48 : cadeirydd y cyngor sir, 1940-42; henadur, 1948-50; cadeirydd pwyllgor addysg y sir, 1919-50. Yr oedd yn
  • JONES, JOSEPH DAVID (1827 - 1870), athro a cherddor Ganwyd yn 1827 yn Bryncrugog, plwyf Llanfaircaereinion, Sir Drefaldwyn, mab Joseph a Catherine Jones. Gwehydd oedd y tad, a phregethai gyda'r Wesleaid. Yn 14 oed mynychai Joseph gyfarfod canu a gynhelid yn Nolanog, rhyw ddwy filltir o'i gartref. Dangosodd y tad wrthwynebiad mawr iddo fynd i'r cyfarfodydd canu, ac ni allai oddef iddo golli ei waith gyda cherddoriaeth. Symudodd y teulu i Pantgwyn
  • JONES, JOSIAH (1830 - 1915), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd 2 Gorffennaf 1830 yn Ffynnonddwrgi, Cwmcoy, y Drewen, Sir Aberteifi. Prentisiwyd ef yn saer coed. Dechreuodd bregethu yn 17 oed. Aeth i ysgol ramadeg Castellnewydd Emlyn ac wedyn am dymor i ysgol yn Aberteifi; derbyniwyd ef i Goleg Aberhonddu yn 1850 ac ef oedd un o'r rhai cyntaf i basio 'matriculation' Prifysgol Llundain; oherwydd afiechyd nid aeth am radd. Urddwyd ef yn weinidog y Graig
  • JONES, JOSIAH (TOWYN) (1858 - 1925), gweinidog gyda'r Annibynwyr ac aelod seneddol Ganwyd 28 Rhagfyr 1858 yn Ceinewydd, Sir Aberteifi, mab John Jones, crydd, ac Elizabeth ei wraig. Gadawodd yr ysgol pan oedd yn 11 oed. Wedi cyfnod fel bugail ifanc daeth yn was-caban ar y llongau bychain, ' Elizabeth ' a ' James a Mary,' a oedd yn tradio rhwng porthladdoedd deheuol Cymru ac Iwerddon. Yn 1874 collodd ei le ar y llong am dorri llestri bwyta. Aeth wedyn i ysgol ramadeg Tywyn