Canlyniadau chwilio

181 - 192 of 566 for "Dafydd"

181 - 192 of 566 for "Dafydd"

  • EVANS, DANIEL (Eos Dâr; 1846 - 1915), cerddor Ganwyd mewn bwthyn to gwellt o'r enw Tŷ Coch, ger Cyffordd Caerfyrddin, mab Dafydd ac Esther Evans. Symudodd y teulu i fyw i Aberdâr, a dechreuodd y mab yn 8 oed weithio yn y lofa. Argraffydd yn swyddfa'r Gwron a Seren Gomer ydoedd y tad, a magwyd y mab yng nghwmni ' Llew Llwyfo ' ac eraill o enwogion y swyddfa. Yn 11 oed ymunodd â chôr ' Llew Llwyfo ' a oedd yn perfformio ' Storm Tiberias
  • EVANS, DANIEL SIMON (1921 - 1998), ysgolhaig Cymraeg ymchwil yn dangos parch yr awdur at ei bwnc, sef hanes y cylch a'r capel, ond yn fwy arbennig mae'n arwydd o bwysigrwydd y diwylliant ymneilltuol a Chalfinaidd y cafodd ei fagu ynddo i'w werthoedd ef ei hun, fel yr oedd bob amser yn barod iawn i gydnabod. Bu farw D. Simon Evans yng Nghaerfyrddin 4 Mawrth 1998. Bu farw ei wraig Frances (Evans, o Lanedi) o'i flaen. Bu iddynt un mab, Dafydd, sydd yntau'n
  • EVANS, DAVID (fl. 1750), bardd o Goedbychan, Llanfair Caereinion. Yr oedd yn un o ddisgynyddion Wmffre Dafydd ab Ifan o Lanbrynmair. Ymddangosodd rhai o'i gerddi yn almanaciau Evan Davies ('Philomath'). Ceir un o'i gerddi, 'Chwech o Benhillion a ddanfonwyd mewn llythyr o Flanders yn amser y Frenhines Anne, at fy Mam, ac mi welais gyffhelyb i'r peth ar ôl hynnu yn Flanders yn amser Brenhin George yr Ail, ar Galon Drom,' yn NLW
  • EVANS, DAVID (Dewi Dawel; 1814 - 1891), teiliwr, tafarnwr, bardd, etc. Gleision.' Cymerodd ddiddordeb yn hanes plwyf Talyllychau, a gohebodd ag Alcwyn C. Evans (Caerfyrddin), a David Lewis Jones (ficer Myddfai), ac eraill. Ychydig cyn ei salwch olaf dAnfonodd draethawd ar hanes y plwyf i eisteddfod a gynhaliwyd 24 Ebrill 1891. Yr oedd dau o'i feibion yn ysgolfeistri, THOMAS MORGAN EVANS (1838 - 1892) yng Nghwmdu, a DAFYDD EVANS (1842 - 1893) yn Nhalyllychau. Mab arall oedd
  • EVANS, DAVID (1778 - 1866), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Na chymysger ef â'r David Evans arall a fu'n weinidog yn yr un lle (ac yn Heol-y-prior, Caerfyrddin) o 1765 hyd 1793. Ganwyd Dafydd Evans yn Nant-y-fen, Cynwyl Elfed, yn fab i Stephen a Jane Evans, a bu yn ysgol Arthur Evans yng Nghynwyl. Dechreuodd bregethu tua 1808, ac yn wythnos y Pasg 1811 urddwyd ef yn gyd-weinidog yn Ffynnon-henri. Yn 1846, fel protest yn erbyn dyfarniad cyfreithiol a oedd
  • EVANS, DAVID ALLAN PRICE (1927 - 2019), ffarmacogenetegydd meddygol Ewropeaidd. Ymhyfrydai yn ei Gymreictod a darllenai gylchgronau Cymraeg yn rheolaidd. Prynodd dyddyn Pen yr Allt, Llangristiolus, Môn ym 1963 a theithiai yn gyson ar y penwythnosau i ofalu am anghenion ffermio. Dan ei gynllunio gofalus, cynyddodd y tyddyn hyd at dros hanner can erw, a byddai ei rieni yn cael cryn bleser ar eu hymweliadau cyson â'r lle. Nid rhyfedd iddo fabwysiadu'r enw 'Dafydd o
  • EVANS, DAVID DELTA (Dewi Hiraddug; 1866 - 1948), newyddiadurwr, awdur, gweinidog (U) Ymofynnydd gan ei gyfraniadau, wedi'u sgrifennu dan yr enwau Delta, D D E, a Dewi Hiraddug. Enwau eraill a ddefnyddiai oedd ' Cadfan Rhys ', ' Deiniol Ddu ', ac ' An old sinner '. Mabwysiadu'r enw 'Delta' a wnaeth. Dafydd Evans oedd ei enw gwreiddiol. Ysgrifennai golofn wythnosol i'r Kentish Independent am flynyddoedd o dan yr enw ' An old philosopher '. Cyfrannodd erthygl ar ' Phrenyddeg ' yn ail argr. Y
  • EVANS, EBENEZER GWYN (1898 - 1958), gweinidog (MC) Ganwyd 31 Mai 1898 yng Ngellilenor Fawr, Llangynwyd, Morgannwg, mab ieuangaf Benjamin a Gwenllian Evans - y fam o gyff Dafydd Morris yr Hendre (1787 - 1858). Addysgwyd ef yn ysgol elfennol ac ysgol sir Maesteg, ac ar ôl dechrau gweithio ar fferm ei dad bu'n athro ysgol am dymor. Ymunodd â'r fyddin yn ystod Rhyfel Mawr I, ac ar ddiwedd y rhyfel aeth i Goleg y Brifysgol, Aberystwyth (lle graddiodd
  • EVANS, EVAN (1804 - 1886), gweinidog gyda'r Annibynwyr ac awdur Ganwyd 8 Mawrth 1804 yn Gellillyndu, Llanddewi-brefi, Sir Aberteifi, mab Dafydd Evans a ymfudodd i America yn 1833. Yn 1824 aeth i sir Fynwy a bu'n cadw ysgol ym Mhontypŵl, y Goetre, a Nantyglo. Yr oedd ei rieni wedi bod yn aelodau gyda Daniel Rowland yn Llangeitho a dechreuodd yntau bregethu gyda'r Methodistiaid Calfinaidd yn 1825. Tua 1830 daeth yn ddirwestwr, ac erlidiwyd llawer arno oherwydd
  • EVANS, HARRY (1873 - 1914), cerddor ' Atalanta in Calydon,' a chafodd yr anrhydedd o arwain y symffoni gorawl (digyfeiliant) ' Vanity of Vanities ' (Syr Granville Bantock), a chyflwynodd y cyfansoddwr y gwaith iddo. Meddai ar graffter arbennig fel beirniad, a gelwid am ei wasanaeth yng ngŵyliau cerddorol Cymru, Lloegr, yr Alban, ac Iwerddon. Cyfansoddodd y gweithiau cyflawn, ' Victory of St. Garmon ' a ' Dafydd ap Gwilym,' amryw anthemau a
  • EVANS, JOHN (1770 - 1799), teithiwr ac asiant trefedigaethol Sbaenaidd Ganed yn Waunfawr, Sir Gaernarfon - fe'i bedyddiwyd 14 Ebrill 1770, yn fab Thomas Evans, cynghorwr gyda'r Methodistiaid, ac Anne, merch Evan Dafydd, yntau'n gynghorwr gyda'r Methodistiaid. Yn 1792 cytunodd ag Edward Williams ('Iolo Morganwg') i fynd gydag ef ar daith i ymweled â'r 'Indiaid Cymreig' tybiedig y dywedid eu bod yn byw yng nghyrion uchaf yr afon Missouri. Pan dynnodd ' Iolo ' yn ôl
  • EVANS, JOHN VICTOR (1895 - 1957), bargyfreithiwr ymaelododd yng Ngholeg Crist, Rhydychen, ac astudio hanes a graddio yn yr ail ddosbarth yn 1922. Disgleiriodd yng nghymdeithas ddadlau'r Undeb yn Rhydychen, ac etholwyd ef yn olynol yn ysgrifennydd, llyfrgellydd iau, a llywydd (yn 1922). Bu hefyd yn llywydd Cymdeithas Dafydd ap Gwilym. Galwyd ef i'r bar yn 1924. Yr oedd yn areithiwr huawdl, ac yn etholiad 1929 bu'n ymgeisydd Rhyddfrydol dros Bontypridd, a