Canlyniadau chwilio

1921 - 1932 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1921 - 1932 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • JONES, THOMAS (1742 - 1803), peintiwr golygfeydd Ganwyd 26 Medi 1742 yn ail fab Thomas a Hannah Jones, Trefonen, ym mhlwyf Cefnllys yn sir Faesyfed. Symudodd ei rieni i fyw i Bencernig ym mhlwyf Llanelwedd yn yr un sir, plasty sydd yn dal hyd heddiw'n eiddo i'r teulu. Aeth yn ddisgybl i'r ysgol golegol yn Aberhonddu yn 1753 ac yno dechreuodd ddangos diddordeb mewn darluniau. Aeth i ysgol Jenkin Jenkins yn Llanfyllin yn 1758, ac oddi yno i Goleg
  • JONES, THOMAS (1648? - 1713), almanaciwr, gwerthwr llyfrau, argraffydd, a chyhoeddwr Ganwyd yn Tre'r Ddôl, gerllaw Corwen, 1 Mai 1648 (fel y tybir). Dywedir iddo fyned i Lundain pan oedd yn 18 oed i weithio fel teiliwr; wedi hynny fe'i ceir yn mynychu ffeiriau yng Nghaer, Amwythig, Wrecsam, a Bryste - yn gwerthu llyfrau, etc., o bosibl. Y mae H. R. Plomer (Dict. of Printers and Booksellers … at work … from 1668 to 1725) yn cysylltu ei enw â The Character of a Quack Doctor, 1676
  • JONES, THOMAS (1860 - 1932), bardd a llenor Ganwyd yn Tynygors, Nantglyn, sir Ddinbych, 10 Mehefin 1860, mab Thomas a Margaret Jones - y fam yn ferch Tynygors, a'r tad yn fab Llidiard-y-gwartheg, Cerrig-y-drudion. Magwyd gyda'i daid a'i nain, gan symud i Tai Isaf (1872). Cafodd hanner blwyddyn o ysgol ym Mhentrefoelas, a dau hanner yn Cerrigydrudion. Priododd Mary, merch Elin ac Abel Jones, Llanfihangel, fis Rhagfyr 1882, gan fyw yn Tai
  • JONES, THOMAS (1756 - 1807), mathemategwr Ganwyd yn Aberriw 23 Mehefin 1756, yn fab gordderch. Erys ansicrwydd ynghylch ei rieni. Yn ôl y traddodiad a gofnodir gan Williams, Montgomeryshire worthies, yr oedd yn fab gordderch i Owen Owen, Llifior, Aberriw a cheir cofnod yng nghofrestr bedyddiadau Aberriw 29 Mehefin 1756 'Thomas son of Catherine Evans of Llivior'. (Yr oedd Owen wedi priodi aeres Llifior.) Yn 1760 bu achos yn erbyn
  • JONES, THOMAS (Taliesin o Eifion; 1820 - 1876), bardd Ganwyd 13 Medi 1820 yn Llanystumdwy, Sir Gaernarfon, yn fab i ŵr a enillasai fedal Trafalgar pan oedd yn aelod o'r gerddorfa ar fwrdd y Victory. Yn 1826 symudodd ei rieni i Langollen, lle, ar ôl derbyn addysg dda, y dilynodd 'Taliesin' grefft ei dad, 'plumber and decorator' yr ardal, a gwelwyd ôl ei law ar arwydd llawer tŷ tafarn. Dysgodd y gynghanedd yn ifanc, a'i weithiau cynganeddol yw ei
  • JONES, THOMAS (1752 - 1845), clerigwr Ganwyd yng Nghefn yr Esgair, Hafod, Sir Aberteifi, 2 Ebrill 1752, mab John Thomas. Yn 1765 aeth i ysgol Ystrad Meurig, ac ar ôl naw mlynedd yno, urddwyd ef yn ddiacon, Medi 1774, a'i drwyddedu'n gurad Eglwysfach a Llangynfelyn yn esgobaeth Tyddewi. Yn 1779 aeth i Leintwardine, sir Henffordd, ac ar ôl gwasnaethu yn Longnor (Sir Amwythig), Croesoswallt, a Loppington, aeth i Great Creaton yn swydd
  • JONES, THOMAS (bu farw 1676), clerigwr Penodwyd ef yn ficer Llangamarch, sir Frycheiniog, 24 Ionawr 1661, a phenodwyd olynydd iddo yn Llangamarch 17 Awst 1676, ac yntau wedi marw. Mae ar gael gywydd o'i waith, ' Cywydd o foliant o Dduw am iechyd Rowland Gwynne o Lan braen,' a dau englyn i'w frawd, Dafydd Jones o Faes Mynys (ger Llanfair-ym-Muellt).
  • JONES, THOMAS (1818 - 1898), clerc plwyf Llanfaethlu, sir Fôn. Bu'n byw yn Tynllan ac yn Newhavren, Llantrisant, sir Fôn, cyn dyfod yn glerc plwyf Llanfaethlu. Haedda ei goffáu yn rhinwedd y casgliad helaeth o lawysgrifau cerddoriaeth a ysgrifennodd ef â'i law ei hun neu a gynhullodd, casgliad o dros ddeugain o gyfrolau a roddwyd i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1919 gan yr archdeacon Albert Owen Evans. Er mai mewn caniadaeth eglwysig a
  • JONES, THOMAS (1910 - 1972), ysgolhaig Cymraeg Ganwyd Thomas Jones yn yr Allt-wen, Pontardawe, Morgannwg, yr hynaf o saith plentyn William ac Elizabeth Jones, y tad yn un o frodorion Sir Gaerfyrddin a oedd wedi ymfudo i weithio yn y gweithiau tun yng nghwm Tawe. O ysgol ramadeg Ystalyfera ac wedi ennill Ysgoloriaeth y Wladwriaeth, aeth Thomas Jones i Goleg Prifysgol Cymru Aberystwyth, yn 1928 lle y graddiodd gydag anrhydedd yn y dosbarth
  • JONES, THOMAS (1908 - 1990), undebwr llafur a milwr yn Rhyfel Cartref Sbaen Er ei fod yn Gymro Cymraeg balch, ganwyd Tom Jones yn Ashton-in-Makerfield, Sir Gaerhirfryn, ar 13 Hydref 1908, yn fab i löwr o Gymru a morwyn gegin o Loegr. Roedd ei dad, William Jones, yn frodor o ardal yr Wyddgrug, Sir y Fflint, a oedd wedi symud i Sir Gaerhirfryn gyda'i wraig Mary (g. Clayton), a anwyd yn Swydd Stafford, oherwydd y cyflogau uwch a dalwyd ym mhwll glo Bryn Hall bryd hynny
  • JONES, THOMAS (Canrhawdfardd; 1823 - 1904), cerddor Ganwyd 2 Gorffennaf 1823 yn Bwlch-y-creigiau ger Nannerch, Sir y Fflint, mab John a Mary Jones. Dysgodd ddarllen cerddoriaeth yn ieuanc, ac arweiniai y canu yng nghapel y Wesleaid yn 16 oed. Cynhaliai ddosbarthiadau cerddorol yn ardaloedd cylchynnol ei gartref. Yn 1849 dechreuodd bregethu gyda'r Wesleaid. Yn 1851 symudodd i fyw yn agos i Dreffynnon, ac oddi yno aeth i Lixwm. Yn 1864 symudodd i
  • JONES, THOMAS (c. 1622 - 1682), dadleuwr Protestannaidd Ganwyd yng Nghroesoswallt, yn fab i John Williams (fab William ap Meredith o Bwllheli), ac yn ôl pob tebyg yn nai i Henry Williams, clerc tref Croesoswallt yn 1623. Torrwyd ar ei yrfa yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, gan y Rhyfel Cartrefol, ond aeth i Rydychen drachefn yn 1646, pryd yr arwyddodd y Cyfamod ac y cafodd gymrodoriaeth yng Ngholeg University gan ymwelwyr y Senedd, cyn cymryd ei radd ar 23