Canlyniadau chwilio

1933 - 1944 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

1933 - 1944 of 3961 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • JONES, Syr THOMAS ARTEMUS (1871 - 1943), newyddiadurwr, barnwr, a hanesydd Ganwyd 18 Chwefror 1871 yn 22 Lôn Abram, Dinbych, yn chweched mab i Thomas Jones, saer maen. Gadawodd yr ysgol genedlaethol yn 11 oed i weithio mewn siop bapurau newydd, a thra yno, dysgodd lawfer iddo'i hun. Yn 1886 fe'i penodwyd yn ohebydd i'r Denbighshire Free Press, ac ef biau'r adroddiadau ar hanes Rhyfel y Degwm yn y papur hwnnw. Gadawodd Ddinbych yn 1889 a bu'n gweithio ar bapurau yn sir
  • JONES, THOMAS GRIFFITHS (Cyffin; 1834 - 1884), hynafiaethydd Ganwyd ef yn Llansanffraid, Sir Drefaldwyn, 12 Ionawr 1834, yn fab i David Jones, siopwr, ac Elizabeth ei wraig. Bu farw'i dad pan oedd ef yn 14 oed a chadwodd yntau'r siop weddill ei oes. Yno y bu farw 10 Medi 1884. Ychydig o ysgol a gafodd am ei fod yn blentyn afiach, ond ymrôdd i'w addysgu ei hun trwy ddarllen ac ysgrifennu llawer iawn. Casglai lyfrau a llawysgrifau ac ymddiddorai mewn llên
  • JONES, THOMAS GRUFFYDD (Tafalaw Bencerdd; 1832 - 1898), cerddor Ganwyd 6 Ionawr 1832 yn y Forge, Pen-y-cae, sir Fynwy, mab Gruffydd a Hannah Jones. Cafodd ei wersi mewn cerddoriaeth yn blentyn gan Rosser Beynon. Prentisiwyd ef yn saer, ond mewn cerddoriaeth yr ymddiddorai. Yn 16 oed penodwyd ef yn arweinydd y canu yn Sardis, Pontypridd, lle yr oedd ei dad yn weinidog. Yn 1850 dechreuodd anfon ei gyfansoddiadau i'r eisteddfodau, a chafodd ganmoliaeth y
  • JONES, THOMAS GWYNN (1871 - 1949), bardd ac un o lenorion mwyaf amlochrog Cymru, newyddiadurwr, cofiannydd, darlithiwr, ysgolhaig, athro, cyfieithydd at ei galon - Prifysgol Cymru a Phrifysgol Iwerddon. Gwnaed ef hefyd yn C.B.E. yr un flwyddyn. Cyhoeddodd Y Llenor rifyn coffa iddo yn 1949 (Cyf. 28, Rhif 2), yn cynnwys ysgrifau gan ei brif gyfeillion. Y mae llyfryddiaeth weddol gyflawn hyd 1937 yn Owen Williams, A Bibliography of Thomas Gwynn Jones, 1938; ychwanegodd David Thomas dros 260 o gyhoeddiadau hyd 1937 yn Atodiad i 'A Bibliography of
  • JONES, THOMAS HENRY (1921 - 1965), darlithydd a bardd Ganwyd 21 Rhagfyr 1921 yng nghwm Crogau, Llanafan Fawr, Brycheiniog, yr hynaf o bum plentyn Llywelyn Jones, goruchwyliwr gwaith ffordd a Ruth (ganwyd Teideman) ei wraig. Mynychodd ysgol Llanafan, bum milltir i ffwrdd, ac ysgol sir Llanfair-ym-Muallt. Yn 1939 aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ond ymunodd â'r llynges yn 1941 ac ailymaflyd yn ei astudiaethau yn 1946. Cafodd radd dosbarth
  • JONES, THOMAS HUGHES (1895 - 1966), bardd, llenor ac athro tu hwnt i'w gyfoedion hefyd yn ysgol elfennol Tan-y-garreg, Blaenpennal. Ei ysgolfeistr tan 1903 oedd John Finnemore, ond ei olynydd David Davies a berswadiodd ei dad i'w anfon i'r ysgol sir yn Nhregaron. Yno yr aeth ym mis Medi 1909 yn un o nifer o gyfoedion y mae eu henwau yn y gyfrol hon, William Ambrose Bebb, Evan Jenkins, D. Lloyd Jenkins a Griffith John Williams, a dod dan ddylanwad athrawon
  • JONES, THOMAS IVOR (1896 - 1969), cyfreithiwr yn Llundain a Chymro gwlatgar Ganwyd 13 Gorffennaf 1896, yng Nghaer-gai, Llanuwchllyn, Meirionnydd, y seithfed o blant John Morris Jones a'i briod Jane (ganwyd Jones, yng Nghefn-gwyn, Llanuwchllyn). Cafodd ei addysg yn ysgol y pentref, Llanuwchllyn, yn ysgol sir y Bala, ac yn ysgol sir Tywyn a oedd y pryd hynny'n denu disgyblion o gylch eang. Yr oedd hefyd yn dra dyledus i Owen Ellis, gweinidog (MC) Llanuwchllyn, a'i wraig
  • JONES, THOMAS JERMAN (1833 - 1890), cenhadwr am 20 mlynedd dros y Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 10 Awst 1833 yn Llangristiolus, sir Fôn, mab John Jones a Jane (Jerman). Bu'n gweithio ar y fferm i gychwyn ac wedyn fel chwarelwr yn Bethesda, Sir Gaernarfon; cafodd ddamwain yn y chwarel a bu am gyfnod heb fedru gweithio. Bu yn ysgol ' Eben Fardd,' Clynnog, ac wedyn yng Ngholeg y Bala, 1860-3. Wedi ei ordeinio bu'n gweinidogaethu i Gymry yng ngogledd Lloegr, 1863-9. Priododd - Thomas, yr
  • JONES, THOMAS JESSE (1873 - 1950), Addysgwr, ystadegydd, a sosiolegydd Ganwyd 4 Awst 1873 yn Llanfachraeth, sir Fôn. Yn 11 oed ymfudodd i U.D.A. gyda'i fam weddw, brawd, a dwy chwaer, gan ymsefydlu yn Ohio. Bu ym mhrifysgolion Washington a Lee (Virginia) a Columbia (Efrog Newydd), gan raddio yn M.A., Ph.D., ac yn B.D. (Union Theological Seminary). Bu am saith mlynedd yn yr Sefydliad Hampton, Virginia, un o'r colegau cyntaf i bobl Ddu; yno y deffrowyd ynddo
  • JONES, THOMAS JOHN RHYS (1916 - 1997), athro, darlithydd ac awdur (1919-1984), Cymraes ddi-Gymraeg – ar y pryd – ac athrawes gwyddor ty o Abertawe. Ganwyd iddynt bedwar o feibion, Rhodri Prys Jones (1948-1991), Berwyn Prys Jones (g. 1951), Meirion Prys Jones (g. 1954) a Rhoslyn Prys (g. Prys Jones, 1957). Ym 1957 fe'i penodwyd yn drefnydd iaith yn Sir Forgannwg. Er mai yng Nghaerdydd yr oedd ei swyddfa, gorllewin Morgannwg oedd prif faes ei waith. Flwyddyn yn
  • JONES, THOMAS LLECHID (1867 - 1946), offeiriad, llenor, a llyfryddwr Ganwyd 4 Rhagfyr 1867, yn y Tyddyn Uchaf, Llanllechid, Sir Gaernarfon, yn fab i Hugh Jones a Catherine ei wraig. Cafodd ei addysg yng ngholeg y Brifysgol, Bangor, a choleg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan. Wedi iddo raddio (B.A., yn 1896) yng ngholeg Dewi Sant ordeiniwyd ef (1897) i guradiaeth eglwys S.David, Blaenau Ffestiniog; daeth yn offeiriad yn 1899. Yn 1902 daeth yn gurad Llanllyfni, Sir
  • JONES, THOMAS LLEWELYN (1915 - 2009), bardd a llenor toreithiog Ganwyd T. Llew Jones, a gyhoeddodd tua hanner cant o gyfrolau i blant ac oedolion, 11 Hydref, 1915, yn 1 Bwlch Melyn, Pentre-Cwrt, Sir Gaerfyrddin, yn fab hynaf James Jones a Hannah Mary Jones ac yn frawd i Edwin Sieffre a Megan Eluned. Yr oedd ei dad yn wehydd yn Ffatri Derw ym Mhentre-cwrt. Priododd â Margaret Enidwen Jones, un o ddisgynyddion teulu'r Cilie, a chawsant ddau o feibion, Emyr