Canlyniadau chwilio

13 - 24 of 54 for "Garth"

13 - 24 of 54 for "Garth"

  • GRUFFUDD FYCHAN Syr (bu farw 1447), milwr . Yn y llyfrau achau rhoir i Syr Gruffudd ddwy wraig: Margred ferch Madog o'r Hôb, Worthen, a Margred ferch Gruffudd ap Siancyn, arglwydd Brochdyn. Gadawodd dri mab, Cadwaladr, o'r hwn y disgynnodd Llwydiaid y Maesmawr, Rheinallt, o'r hwn y daeth Wyniaid y Garth yng Nghegidfa, a Dafydd Llwyd, hynaf Llwydiaid y Llai a'r Hafodwen. Cymerodd Rheinallt a Dafydd Llwyd eu pardwn gan y brenin, 21 Rhagfyr
  • GWYNN, EIRWEN MEIRIONA (1916 - 2007), gwyddonydd, addysgwr ac awdur arddangosfa Celf a Chrefft yr Eisteddfod Genedlaethol - ei phrif ddiddordeb celfyddydol oedd paentio portreadau a thirluniau. Erbyn y cyfnod hwn roedd y teulu wedi gadael Rhos-lan a symud yn gyntaf i Isgaer, Ffordd Garth Uchaf, Bangor (1962-1970) ac yna i Dyddyn Rhuddallt, Llanrug (1970-1987), cyn symud i Dal-y-bont, Ceredigion (1987-2007) ar ôl marwolaeth Harri yn 1985, i fod yn agosach at Iolo a'r teulu
  • GWYNN, HARRI (1913 - 1985), llenor a darlledwr Ganwyd Harri Gwynn yn 63, Maryland Road, Wood Green, gogledd Llundain, ar 14 Chwefror 1913, yn fab i Hugh Jones (m. 1916), a weithiai fel sortiwr llythyrau ar y trên post rhwng Llundain a Chaergybi, a'i wraig Elizabeth (Beti) (g. Williams), y ddau yn enedigol o ardal Penrhyndeudraeth. Yn sgil marw sydyn y tad o anhwylder ar y galon ym mis Rhagfyr 1916, symudodd y fam a'r mab i Garth Celyn
  • teulu GWYNNE GARTH, Llanlleonfel, Faesllech (Gweler yr achau yn Theophilus Jones, Hist. of Brecknock, 3ydd arg., ii, 238-40; iv, 269-70), teulu na pherthynai ar y cychwyn i dylwyth Glanbrân (gweler Gwynne o Lanelwedd), ond a ymunodd ag ef yn ddiweddarach. Ymddengys y cyfenw 'Gwyn' yn nheulu'r Garth tua 1545. Yr oedd rhyw REES GWYNNE o'r Garth yn grwner Brycheiniog yn y 17eg ganrif, a chanddo fab, MARMADUKE GWYNNE (1643? - 1712), ymwthiwr
  • teulu GWYNNE LANELWEDD, farw 24 Ionawr 1725-6 'within the Fleet,' h.y. yn fethdalwr. Beth yn union a ddaeth o Lanelwedd ar y pryd, nid eglurir yn unman, ond daw i'r golwg yn nes ymlaen yn eiddo i Gwynniaid y Garth.
  • HOWELL, DAVID (Llawdden; 1831 - 1903) Gaerdydd yn 1875 a mynd yn ficer Wrecsam, sir Ddinbych, lle y bu tan 1891, a symud wedyn i ficeriaeth gyfagos Gresford. Yn 1877 cafodd radd B.D. gan archesgob Caergaint; yn 1885 gwnaed ef yn brebendari Garth Felyd, ac yn ganon anrhydeddus Llanelwy, ac yn 1889 gwnaed ef yn archddiacon Wrecsam. Yn 1897 penodwyd ef yn ddeon Tyddewi. Lluniodd 'Llawdden' englynion a cherddi ym more ei oes; yr oedd ei dad
  • HUET, THOMAS (bu farw 1591), cyfieithydd yr Ysgrythurau o'r Garth.'
  • HUGHES, DEWI ARWEL (1947 - 2017), diwinydd ac arweinydd Cristnogol Ganwyd Dewi Arwel Hughes ar 1 Ionawr 1947 yn Bugeilfod, Llangwm, Sir Ddinbych, yr ieuengaf o bedwar o blant Gruffudd Evans Hughes (1912-1975), gwerthwr nwyddau amaethyddol, a'i wraig Annie (g. Edwards, 1908-1957), gwniadwraig. Roedd ganddo dair chwaer, Elen Haf, Lona Wyn a Gwenan Arwel. Flwyddyn wedi ei eni, symudodd y teulu i Garth Isa, Frongoch ger y Bala. Bu farw ei fam yn 1957, pan oedd Dewi
  • HUGHES, ROBERT ARTHUR (1910 - 1996), meddyg cenhadol yn Shillong, Meghalaya, Gogledd-ddwyrain India ac arweinydd dylanwadol yn Eglwys Bresbyteraidd Cymru Ganwyd ef a'i efaill, John Harris Hughes, yng Nghroesoswallt ar 3 Rhagfyr 1910, yn feibion i'r Parchedig Howell Harris Hughes, gweinidog yn y dref, a'i briod, Mrs Annie Myfanwy Hughes (gynt Davies) o Garth, ger Llangollen, a fu'n brifathrawes yn Rhosllannerchrugog. Symudodd y teulu yn fuan o Groesoswallt i Fangor pan aeth eu tad yno'n weinidog eglwys y Tabernacl ac yn Ysgol y Garth y cafodd y
  • HUGHES, THOMAS ISFRYN (1865 - 1942), gweinidog Wesleaidd Ganwyd 16 Hydref 1865 yng Nghlocaenog, sir Ddinbych, mab John Hughes, gwerinwr goleuedig a diwinydd praff. Dechreuodd bregethu yn ddeunaw oed, derbyniwyd i'r weinidogaeth yn 1887, ac wedi tymor yng ngholeg diwinyddol Handsworth gwasanaethodd gylchdeithiau Abergele (1890), Llanfaircaereinion (1891), y Rhyl (1893), Tywyn (1895), Coed-poeth (1896), Tre-garth, (1899), Mynydd Seion, Lerpwl (1902
  • JAMES, THOMAS DAVIES (Iago Erfyl; 1862 - 1927), offeiriad, pregethwr a darlithydd poblogaidd iawn; Mab Thomas James a'i wraig; ganwyd ym Manafon, Sir Drefaldwyn, 13 Awst 1862. Yn fuan wedyn symudodd y teulu i Wyddi-goed, Llanfechain, ond gan iddo golli ei rieni yn gynnar, gyda'i daid a'i nain, yn y Garth Isaf, Rhosybrithdir, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, y magwyd ef. Dechreuodd bregethu gyda'r Wesleaid yn Rhosybrithdir; aeth i goleg Didsbury, Manceinion, ac wedi mynd trwy'r arholiadau'n
  • JONES, JOHN WILLIAM (1868 - 1945), adeiladydd Springwood, rhan o stad fawr Speke, Larkhill a Lisburn yn West Derby yn ogystal â stadau tai yn Huyton a Bootle. Ymddiriedai yr awdurdodau lleol yn llwyr ynddo. Adeiladodd strydoedd o dai preifat yn Wavertree, Mossley Hill, Woolton ac Allerton. Ef a adeiladodd Garth Drive, Allerton lle y bu ei gartref ei hun am gyfnod yn rhif 10. Rhoddodd yr enw Hiraethog ar y tŷ. Adeiladodd Tanat Drive cysylltiol gan