Canlyniadau chwilio

13 - 24 of 233 for "Gwynedd"

13 - 24 of 233 for "Gwynedd"

  • CADFAN (fl. 620), tywysog Mab Iago ap Beli (bu farw 613) o linach Maelgwn Gwynedd. Gwyddys iddo deyrnasu dros Wynedd, ond nid oes dim arall o'i hanes ar gael. Y mae ei garreg fedd (dechrau'r 7fed ganrif) yn eglwys Llangadwaladr, sir Fôn, ac arni'r arysgrif: 'Catamanus rex sapientisimus opinatisimus (“mwyaf enwog”) omnium regum.' Rhydd traddodiad le iddo ym mucheddau'r santes Gwenffrewi a'r sant Beuno; ffug gan mwyaf
  • CADFAN GWYNEDD - gweler HUGHES, HUGH
  • CADWALADR (bu farw 664), tywysog Mab Cadwallon ap Cadfan. Pan fu farw tad Cadwaladr yn 633 syrthiodd Gwynedd i ddwylo anturiaethwr, Cadafael ap Cynfedw, a deyrnasodd hyd nes iddo orfod cilio'n ôl mewn gwaradwydd o frwydr Winwedfeld yn 654. Daeth Cadwaladr i'w etifeddiaeth yr adeg hon, ond daeth pla mawr 664 a chollodd ei fywyd. Er mai teyrnasiad di-ddigwyddiad a gafodd, daeth Cadwaladr yn ŵr pwysig yng ngolwg beirdd a barddas
  • CHRISTINA Ail wraig Owain Gwynedd, merch Gronw (bu farw 1124) ab Owain ab Edwin, ac felly'n gyfnither i'w gwr. Ni chydnabyddid y briodas gan yr Eglwys a cheisiodd yr archesgob Becket a'r pab Alexander III ganddynt ymwahanu, beth amser cyn marw Owain. Eithr parhaodd Owain, a garai ei wraig yn fawr, yn ystyfnig; o'r herwydd bu farw o dan ysgymundod. Wedi ei mynd yn weddw rhoes Christina gynhorthwy sylweddol
  • teulu CLARE (1243 - 1295), ' yr Iarll Coch,' ganwyd 2 Medi 1243; ei wraig gyntaf oedd Alice, o deulu William de Valence, y teulu a ddilynodd y Marshaliaid yn iarllaeth Penfro. Yr oedd tad a thaid yr Iarll Coch, yn eu hymlyniad wrth achos y barwniaid yn Lloegr, braidd wedi esgeuluso perygl nes atynt yng Nghymru, sef twf tywysogaeth Gwynedd. Iddynt hwy, offerynnau hwylus oedd y ddau Lywelyn yn y dynfa rhwng
  • CUNEDDA WLEDIG (fl. 450?), tywysog Prydeinig Yn ôl ' Achau'r Saeson ' yn rhai o lawysgrifau ' Nennius ' a briodolir gan rai ysgolheigion i'r 7fed ganrif, daeth ' Cunedag,' un o hynafiaid Maelgwn Gwynedd (bu farw 547?), gyda'i wyth mab o'r Gogledd, h.y. Manaw Gododdin, 146 o flynyddoedd cyn i Faelgwn deyrnasu, ac ymlid y Sgotiaid, h.y. y Gwyddelod, o Wynedd gyda'r fath laddfa fel na ddaeth neb ohonynt yn ôl. Rhydd achau o'r 10fed ganrif y
  • CURIG (fl. 550?), sant Nawddsant Llangurig, plwyf mawr yn ne Arwystli ac efallai hefyd Eglwys Fair a Churig yn Sir Gaerfyrddin a Capel Curig yn Sir Gaernarfon. Adwaenid ef wrth y cyfenwau Curig Lwyd (sef y gwynfydedig) a Curig Farchog; yn ' Buchedd Curig ' (sydd yn waith diweddar) dygir ef i gysylltiad â Maelgwn Gwynedd. Yn amser Gerallt Gymro trysorid ei bawl bugeiliol - a addurniesid ag aur ac arian ac a oedd yn
  • CYNAN ab IAGO (bu farw 1060?), tywysog a alltudiwyd mab Iago ab Idwal, yn disgyn o Rodri Mawr, ac arglwydd Gwynedd o 1033 hyd 1039. Pan lofruddiwyd Iago yn 1039 gan ei wŷr ei hun a dyfod Gruffydd ap Llywelyn, o linach arall, i awdurdod, ffoes Cynan i blith Daniaid Dulyn. Yno priododd Ragnhildr, ŵyres Sitric 'â'r farf sidanog' (bu farw 1042), ac felly daeth i berthyn i'r teulu brenhinol. Yn ôl David Powel (Historie of Cambria) fe ymdrechodd
  • CYNAN ab OWAIN (bu farw 1174), tywysog mab Owain Gwynedd, ond ni wyddys pwy oedd ei fam. Yn 1145 ymosododd ef a Hywel ei frawd ar Aberteifi; anrheithiwyd y dref ond ni chymerwyd mo'r castell. Ddwy flynedd yn ddiweddarach goresgynnodd y brodyr Feirionnydd a bwrw allan eu hewythr Cadwaladr; gan iddynt ymosod o gyfeiriadau gwahanol ymddengys fel petai Cynan wedi ymsefydlu yn Ardudwy. Yn 1150 dywedir ei garcharu gan ei dad. Cymerth ran
  • CYNAN DINDAETHWY (bu farw 816), tywysog Gwynedd a Deheubarth yn y Canol Oesoedd.
  • CYNDDELW BRYDYDD MAWR (fl. 1155-1200), pencerdd pwysicaf Cymru yn y 12fed ganrif i ganu clod Owain Gwynedd, a gwelir ei awen yn ei hanterth ym ' Marwnad Owain ' (1170). O hynny ymlaen i ddiwedd y ganrif fe'i ceir yn canu i amryw o brif dywysogion Gwynedd, Powys, a Deheubarth, ac ar un olwg, felly, Cynddelw yw bardd cyntaf Cymru gyfan, a barnu wrth yr hyn sydd ar gadw o'n barddoniaeth. Canodd awdlau hefyd i Dduw. Mawl Feifod yn bennaf yw ei 'Gân Tysiliaw.' 'Marwysgafn Cynddelw
  • DAFYDD ab OWAIN GWYNEDD (bu farw 1203) Mab Owain Gwynedd a'i wraig Christina, merch Gronw ab Owain ab Edwin. Gan fod y tad a'r fam yn gefnder a chyfnither nid oedd eu priodas yn cael ei harddel gan yr Eglwys ac felly ystyrid y plant yn anghyfreithlon. Clywir sôn am Ddafydd y tro cyntaf yn 1157 pryd y cymerth ran yn ymgyrch sydyn coed Penarlâg lle y bu Harri II agos â cholli ei fywyd. Yn 1165 yr oedd wedi ymsefydlu yn nyffryn Clwyd