Canlyniadau chwilio

13 - 24 of 67 for "Mair"

13 - 24 of 67 for "Mair"

  • EVANS, WILLIAM (1823 - 1900), ficer Rhymni a chanon mygedol yn eglwys gadeiriol Llandaf brodor o Langeler, Sir Gaerfyrddin. Addysgwyd ef yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, lle'r oedd yn ysgolor blaenaf ('senior scholar') ac enillwr y wobr am yr Hebraeg a diwinyddiaeth. Ordeiniwyd ef yn 1848 i guradiaeth S. Mair, Aberteifi. Bu'n gurad Gelligaer, 1850-3, a Throed-yr-aur, 1854-6. Penodwyd ef yn ficer Rhymni yn 1856, ac arhosodd yno hyd ei farw. Yr oedd yn un o glerigwyr
  • EVANS, WILLIAM EMRYS (1924 - 2004), banciwr a ffilanthropydd ato yn gyffredinol, gydag anwyldeb, fel 'Evans Banc y Midland'. Er iddo brofi cryn afiechyd yn ei flynyddoedd olaf ymdrechodd i gadw ei ymrwymiadau. Priododd Mair Thomas yn 1946 a chawsant un ferch. Yn Llundain y trigai Emrys a Mair Evans tra oedd ym mhrif swyddfa'r banc ond yna symud i dde Cymru yn 1972 gan ymgartrefu yn Ninas Powys mewn ty a enwyd ar ôl cartref ei fachgendod. Bu farw yn ei gartref
  • FITZGERALD, MICHAEL CORNELIUS JOHN (1927 - 2007), brawd o Urdd Carmel, offeiriad, athronydd a bardd Tad Gregory O. Carm.), Bridget Cecilia (y chwaer Bridget Mary o urdd Crefyddwragedd Calon Sanctaidd Mair), a Mary Catherine (Mrs Pryer). Dan ddylanwad eu hewythr Conleth FitzGerald, Uchel Bennaeth Taleithiol Carmeliaid Iwerddon a gŵr a ddaeth i swydd uchel yn y Fatican, taniwyd diddordeb y ddau frawd Gregory a John yn urdd Carmel, ac yn 1940, yn 13 oed a chan ddilyn Gregory, anfonwyd John i Goleg y
  • FRANCIS, GRIFFITH (1876 - 1936) Ganwyd y brodyr ym Mryn-y-Wern, Cwm Pennant, Sir Gaernarfon - Griffith ym mis Rhagfyr 1876, ac Owen ar 15 Mehefin 1879, meibion William a Mary Francis. Yr oedd y tad yn gerddor da, a swyddog yn chwarel y Moelfre, a'u mam - 'Mair Alaw' - yn gantores o Nantlle. Chwarelwyr oedd y brodyr, a'r ddau yn gantorion rhagorol. Bardd hefyd oedd Griffith, yn y mesurau caeth a rhydd. Cyhoeddodd lyfr o'i
  • GOUGH, MATHAU (fl. hanner cyntaf y 15fed ganrif), milwr Llundain, pan oedd yn amddiffyn dinas Llundain yn erbyn Jack Cade a'i gyd- wrthryfelwyr, ar nos Sul 5-6 Gorffennaf 1450 a chladdwyd ef yng nghôr Mair y Brodyr Carmelaidd yn Llundain. Dywed William o Worcester, y croniclydd, i'w farw beri galar cyffredinol yng Nghymru. Y mae'r sylw mawr a roddir iddo gan groniclyddion cyfoes Ffrainc yn gryfach prawf o'i enwogrwydd. Am flynyddoedd wedi ei farw coffeid yr
  • GOWER, HENRY (1278? - 1347), esgob Tyddewi helaethaf o lawer o'i fywyd fel esgob. Bu farw yno yn 1347 (ar 1 Mai, meddai Yardley), a chladdwyd ar ochr ddeheuol y côr. Ei haelioni a'i ysblander fel adeiladydd yw ei glod pennaf; dywed E. A. Freeman iddo adael mwy o'i ôl ar Dyddewi yn hynny o beth na neb un arall. Helaethodd 'gapel Mair' y brifeglwys, a chwanegu siantri ato; efo biau'r groglofft odidog o faen; cododd uchder muriau'r eglwys a
  • GRIFFITH, HUW WYNNE (1915 - 1993), gweinidog (MC) ac eciwmenydd amlwg cyfnod hwn (1941-44) bu'n Ysgrifennydd a Llywydd Cymdeithas Genhadol Coleg Westminster. Treuliodd flwyddyn yng Ngholeg y Bala a llwyddo i gwblhau ei radd BD. Ordeiniwyd ef yn 1945 a bu'n gweinidogaethu yng nghapeli Bethania, Glan-y-fferi a Seion, Llan-saint (1945-51), Sir Gaerfyrddin, a Siloh (Seilo), Aberystwyth (1951-1983), Ceredigion. Priododd Mair Benson-Evans (1918-2003), merch y Dr a Mrs Benson
  • GRIFFITH, MORGAN WILLIAM (Pencerdd Mynwy; 1855 - 1925) mlynedd. Penodwyd ef yn organydd yr eglwys Bresbyteraidd yn 1880, ac yn 1885 yn organydd a chôrfeistr eglwys S. Mair, Dolgellau. Enillodd radd baglor cerddoriaeth, Prifysgol Toronto. Cyfansoddodd lawer, a bu ei ganeuon ' Gwlad y Bryniau ' a'r ' Ynys Wen ' a'i ddeuawd ' Chwi feibion dewrion,' yn boblogaidd. Cyfansoddodd hefyd anthemau a cherddoriaeth eglwysig. Ffaith ddiddorol amdano yw fod ganddo gryn
  • GRIFFITHS, WINIFRED MAIR (1916 - 1996), gweinidog (A) a phrifathrawes Ganwyd Mair Griffiths yng Nghaerdydd 6 Mehefin 1916 yn un o ddwy ferch a aned i Griffith William ac Alice Maud Griffiths. Daethai'r tad yn ŵr ifanc i weithio i Gaerdydd o Faldwyn, lle'r oedd ei rieni'n amaethu fferm y Forge, nid nepell o Bontrobert, ar y ffordd i Feifod. Diddorol yw cofio, yn y cyswllt hwn, fod brawd un o hendeidiau tad Mair wedi priodi merch ifanc o Ddolannog o'r enw Ann Thomas
  • HAYDEN, HENRY SAMUEL (1805 - 1860), cerddor Ganwyd yn Llanelwy, ei fam yn Gymraes, a'i dad yn Almaenwr ac yn organydd yn Llanelwy. Yn 15 oed penodwyd y mab yn organydd eglwys S. Mair, Caernarfon, a llanwodd y swydd am 40 mlynedd; bu hefyd yn organydd eglwys S. Ann, Llandegai. Cyfieithodd gyfundrefn gerddorol Wïlhelm yn Gymraeg, a chynhaliodd ddosbarthiadau i'w dysgu. Bu'n athro yng Ngholeg Hyfforddiadol Caernarfon, a chyhoeddodd Casgliad o
  • HEATH, CHARLES (1761 - 1830), argraffydd Tintern Abbey, 1793, Account of the scenery of the Wye, 1795, The Excursion down the Wye, 1796, Accounts… of Monmouth, 1804, ac ailargraffiad o bamffled 1607, Lamentable Newes out of Monmouthshire in Wales - the great overflowing of waters in the said countye, 1829. Bu'n faer Trefynwy ddwywaith (1819 a 1821). Bu farw 31 Rhagfyr 1830 a'i gladdu yn eglwys S. Mair, Trefynwy. Bum mlynedd ar hugain ar ôl ei
  • IOLO GOCH (c. 1325 - c. 1400), bardd nawdd Mair a'r apostolion ar Ddydd y Farn, ac mae ei weddi am nawdd Crist a'r saint rhag angau efallai'n adlewyrchu'r pryder a achoswyd gan y Pla Du yn ystod ei oes. Cyfraniad mwyaf Iolo Goch i'r traddodiad barddol oedd sefydlu'r cywydd yn gyfrwng ar gyfer canu mawl, gan drosglwyddo iddo rai o ddulliau awdlau Beirdd y Tywysogion. Roedd yn ei elfen yn dathlu campau milwrol ei noddwyr, ac mae un