Canlyniadau chwilio

13 - 24 of 167 for "Steffan"

13 - 24 of 167 for "Steffan"

  • CHARLES, GEOFFREY (1909 - 2002), ffotograffydd syndrom y finegr yn dechrau effeithio ar rai o'i negatifau cynnar yn sbardun i fynd ati i ddigido'r casgliad cyfan, ac mae'r rhain bellach ar gael trwy wefan y Llyfrgell. Yn 1985 derbyniwyd ef yn aelod o Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanbedr Pont Steffan dan yr enw 'Sieffre o Brymbo'. Priododd eilwaith yn 1986, â Doris Thomas (1909-2000) a symudodd i'r Rhyl. Yn ei flynyddoedd olaf
  • COLEMAN, DONALD RICHARD (1925 - 1991), gwleidydd Llafur Cadeiryddion Tŷ'r Cyffredin, corff hynod o bwerus yn San Steffan. Ym 1979, blwyddyn o gael ei threchu i'r Blaid Lafur drwy'r wlad, roedd mwyafrif Donald Coleman yng Nghastell-nedd yn parhau'n 13,604 o bleidleisiau. Erbyn 1987 roedd wedi cynyddu i 20,578 mewn gornest pedwar ymgeisydd. Roedd Coleman yn ŵr Llafur cymedrol ei ddaliadau, yn hollol ymrwymedig i lwyddiant democratiaeth. Ei gariad at gerddoriaeth a
  • DAVIES, DAVID CAXTON (1873 - 1955), argraffydd a chyfarwyddwr cwmnïau Ganwyd yn Llanbedr Pont Steffan, 8 Awst 1873, yn fab i David a Margaret Davies (hi oedd yr hynaf o drigolion y dre honno pan fu farw 28 Rhagfyr 1937). Cafodd ei addysg yn ei dref enedigol. Ef oedd rheolwr y Wasg Eglwysig Gymreig yn Llanbedr Pont Steffan a chwmni Grosvenor a Chater, Llundain (1909-19), rheolwr a chyfarwyddwr cwmni William Lewis, argraffwyr, Caerdydd, a chwmni Davies, Harvey a
  • DAVIES, DEWI ALED EIRUG (1922 - 1997), gweinidog ac athro diwinyddol gyda'r Annibynwyr Ganwyd yng Nghwmllynfell, 5 Chwefror 1922, yn un o wyth plentyn Thomas Eirug Davies, gweinidog gyda'r Annibynwyr yno ac wedi 1926 yn Llanbedr Pont Steffan. Roedd ei fam Jennie yn ferch i R.H. Thomas, gweinidog (MC) Llansannan. Addysgwyd ef yn ysgol gynradd Peterwell, Llanbed, ac yn Ysgol Sir Aberaeron. Oherwydd ei safiad yn erbyn rhyfel adeg Rhyfel Byd 2, torrwyd ar ei yrfa academaidd pan
  • DAVIES, ELLIS (1872 - 1962), offeiriad a hynafiaethydd Ganwyd 22 Medi 1872 yn fab Ellis Davies, garddwr yn Nannerch, Fflint, ond cyn bo hir symudodd y teulu i Laniestyn, Llŷn. Aeth i ysgol ramadeg Botwnnog a chafodd ysgoloriaeth i Goleg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan yn 1892 lle yr enillodd wobrau bob blwyddyn. Ar ôl graddio a'i ordeinio yn 1895 bu'n gurad yn Llansilin, Colwyn a S. Giles, Rhydychen. Tra oedd yno cafodd radd B.A. (1907) yng Ngholeg
  • DAVIES, EVAN (1694? - 1770), gweinidog ac athro Annibynnol Ganwyd gerllaw Llanbedr-Pont-Steffan, a bu yn academi Hoxton dan Thomas Ridgeley a John Eames, F.R.S. Gellid meddwl iddo agor ysgol yn Hwlffordd yn 1720, ac ar 5 Mehefin 1723 urddwyd ef yn weinidog eglwys Albany yno. Yn 1741, ar ôl marw Vavasor Griffiths, symudwyd yr ' Academi Gymreig ' i Hwlffordd, i fod dan ofal Davies; ond yn 1743, pan symudodd yntau i ofalu am eglwysi Llan-y-bri a'r Bwlch
  • DAVIES, EVAN THOMAS (Dyfrig; 1847 - 1927), clerigwr ac eisteddfodwr Ganwyd yng Nghwmcefn, plwyf Llanfihangel Ystrad, Sir Aberteifi, 20 Mehefin 1847, mab Thomas Davies a Rachel ei wraig. Addysgwyd ef yn ysgol Ystrad Meurig ac yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan (B.A., 1869).Ar ôl tymor byr fel athro yn Greenock, urddwyd ef yn ddiacon yn 1870 gan yr esgob Ollivant o Landaf, ac yn offeiriad yn 1871. Bu'n gurad yn Llanwynno, Ferndale, a'r Betws cyn cymryd
  • DAVIES, GWILYM PRYS (1923 - 2017), cyfreithiwr, gwleidydd ac ymgyrchydd iaith 1959, a daeth i gysylltiad hefyd gyda Goronwy Roberts, Cledwyn Hughes a'r pwysicaf i gyd yn ei hanes, James Griffiths. Mabwysiadodd James Griffiths ef fel mab a'i gefnogi i ymgeisio am sedd i San Steffan. Ond cyn hynny gwahoddwyd ef gan Cledwyn Hughes a James Griffiths i baratoi memorandwm ar ddiwygio llywodraeth leol a lle'r cyngor etholedig yn y cynllun. Cyhoeddwyd y llyfryn Cyngor Canol i Gymru yn
  • DAVIES, JOHN (1784 - 1845), gweinidog Wesleaidd Ganwyd yn Helygain, 7 Hydref 1784, mab Thomas ac Elizabeth Davies. Aeth i'r weinidogaeth yn 1806. Sefydlwyd ef yn gyntaf ar gylchdaith Llangollen, a ymestynnai o Lanarmon-yn-Iâl i Lanidloes. Wedi dwy flynedd yno a dwy ym Miwmares, symudwyd ef i Lanbedr Pont Steffan, a threuliodd y rhan fwyaf o weddill ei oes yng nghylchdeithiau'r De. Etholwyd ef yn ysgrifennydd y dalaith, a gynhwysai Gymru gyfan
  • DAVIES, JOHN (1795 - 1861), offeiriad ac athronydd Ganwyd yn Llanddewi-brefi, Rhagfyr 1795, mab John a Jane Davies, Hendre Phylip. Bu'n ddisgybl i Eliezer Williams, mab Peter Williams, yn Llanbedr-Pont-Steffan, ac aeth i Goleg Queens ', Caergrawnt, yn 1820 (B.D. 1831, D.D. 1844). Cafodd ei ordeinio yn Norwich a'i ddewis yn rheithor S. Pancras, Chichester; yn 1840 fe'i ceir yn rheithor Gateshead, swydd Durham, a meistr ' King James's Hospital
  • DAVIES, JOHN (1860 - 1939), llyfryddwr ac achyddwr Cymreig Ganwyd 7 Awst 1860 yn Llundain-fach, Llandysul, Sir Aberteifi, mab John William a Mary Davies. Addysgwyd ef yn ysgol genedlaethol Capel Dewi ac yn ysgol Eilir, Llandysul. Bu'n gweithio ar fferm yn yr ardal ac yna fel glowr yn y Maerdy, Rhondda. Wedi dioddef effeithiau nwy yn nhanchwa 1889 ymsefydlodd fel masnachwr esgidiau a chlocsiau yn Llanbedr-Pont-Steffan. Oherwydd ei ddiddordeb dwfn mewn
  • DAVIES, JONATHAN CEREDIG (1859 - 1932), teithiwr ac achydd Ganwyd 22 Mai 1859, yn Llangunllo, Sir Aberteifi, mab J. C. Davies. Yn 1875, yn 16 oed, ymfudodd i'r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Dychwelodd i Gymru yn 1891, ac yn 1892 golygodd Yr Athrofa - yn yn hwnnw yr ymddangosodd ei ' Anturiaethau yn Nhir y Cewri ' a gyhoeddwyd wedyn yn Saesneg (Llanbedr Pont Steffan, 1892). Yn 1898 ymwelodd ag Awstralia Orllewinol ac aros yno bedair blynedd. Astudiodd