Canlyniadau chwilio

289 - 300 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

289 - 300 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • CYNAN ab IAGO (bu farw 1060?), tywysog a alltudiwyd mab Iago ab Idwal, yn disgyn o Rodri Mawr, ac arglwydd Gwynedd o 1033 hyd 1039. Pan lofruddiwyd Iago yn 1039 gan ei wŷr ei hun a dyfod Gruffydd ap Llywelyn, o linach arall, i awdurdod, ffoes Cynan i blith Daniaid Dulyn. Yno priododd Ragnhildr, ŵyres Sitric 'â'r farf sidanog' (bu farw 1042), ac felly daeth i berthyn i'r teulu brenhinol. Yn ôl David Powel (Historie of Cambria) fe ymdrechodd
  • CYNAN ap HYWEL (bu farw 1242?), tywysog ymuno â William Marshall pan oedd yr iarll yn goresgyn y De; bu'n anrheithio Is-Aeron a roddwyd wedi hynny yn ei feddiant, a chafodd Emlyn ac Ystlwyf (rhwng Cynin a Chywyn) yn dâl am ei gymorth. Ar 18 Tachwedd hysbysodd y brenin ddarfod i Gynan dalu gwrogaeth am ei dreftadaeth briod ac nad oedd neb i amharu arno. Yr oedd yn dal tiroedd yn Ne Cymru ym Mehefin 1225, pryd y rhoddwyd comisiwn i Lywelyn
  • CYNDDELW BRYDYDD MAWR (fl. 1155-1200), pencerdd pwysicaf Cymru yn y 12fed ganrif Cyfeirir ato gan feirdd o'r ddwy ganrif ddilynol (The Myvyrian Archaiology of Wales, 111 A, 164 A, a 204 B) fel un o brif feistri'r canu mawl i dywysogion. Canai ar fesurau awdl ac englyn. Geilw'r gramadegwyr fesur clogyrnach yn 'ddull Cynddelw,' ac ef hefyd oedd y cyntaf hyd y gwyddom i wneud defnydd helaeth o fesur englyn unodl union. Gwelir dau draddodiad yn cyfarfod yn ei waith, sef y canu
  • CYNDEYRN, sant Coffeir y sant hwn yn Llangyndeyrn yn Sir Gaerfyrddin. Yn ôl achrestrau'r cyfnod canol diweddar yr oedd yn fab i Sant Cyngar ap Garthog ap Ceredig ap Cunedda Wledig. Dethlid ei wyl ar 25 Gorffennaf, yn ôl yr hen ddull. Heddiw cynhelir y ffair yn gysylltiedig â'i wyl ar 5 a 6 Awst yn Llangyndeyrn. Ni ddylid cymysgu rhwng ei dad, Cyngar, a'r sant Cyngar / Docwin / Dochau.
  • CYNGAR (fl. 6ed ganrif), sant enw nawddsant eglwys Llangefni ym Môn ac eglwys yr Hôb yn Sir y Fflint. Dywed ail 'fuchedd' Cyngar Sant mai yr un oedd ef â Doccuinus Sant, ond mae'n amheus a oes rheswm digonol dros dderbyn hyn yn derfynol. Anrhydeddir Cyngar Sant hefyd yng Ngwlad yr Haf, yng Nghernyw, ac yn Llydaw. Fel canlyniad i ddryswch rhwng mwy nag un sant yn dwyn yr enw hwn, enwir 7 a 27 Tachwedd fel dydd gŵyl Cyngar Sant.
  • CYNIDR (fl. 6ed ganrif), sant Gadog Sant. Y tebygolrwydd yw mai Cynidr Sant yw'r Keneder y sonnir amdano ym 'muchedd' Cadog fel un o'r seintiau a gefnogai Gadog yn ei anghydfod â'r brenin Arthur. Dengys yr hanes mai yn sir Frycheiniog y gwnaeth Cynidr ei brif waith, ac yno ceir fod eglwysi Llangynidr, Aberysgir, Llanywern, Cantref, a'r Clas-ar-Wy i gyd ar y cychwyn wedi eu henwi arno. Gwelir olion traddodiad Cynidr hefyd yn
  • CYNLLO (fl. 550?), sant enghraifft o sefydlydd mynachaidd na wyddys ddim amdano ond y bu iddo bwysigrwydd lleol dros ran helaeth o'r wlad. Ni cheir mo'i enw yn nhestunau hynaf ' Bonedd y Saint,' eithr efe oedd nawddsant Nantmel, Llangynllo, Llanbister, ac, efallai, Rhaeadr Gwy yn sir Faesyfed, a Llangynllo a Llangoedmor yn Sir Aberteifi. Pan ychwanegir eu capelau at yr eglwysi hyn fe welir i gylch dylanwad y sant
  • CYNOG (fl. 500?), sant yn ôl traddodiad, mab i Brychan, sefydlydd teyrnas Brycheiniog, a Banadlwedd, merch i un o frenhinoedd Powys. Ym Mrycheiniog y coffeir ef gan mwyaf - y mae Defynnog, Ystrad Gynlais, Penderyn, Battle, Llangynog, a Merthyr Cynog i gyd o dan ei nawdd, a dywedir mai ym Merthyr Cynog y'i claddwyd. Cyflwynwyd eglwys Boughrood yn sir Faesyfed a Llangynog yn Sir Drefaldwyn hefyd iddo; bu iddo unwaith
  • CYNWAL, RICHARD (bu farw 1634), bardd o Faes y Garnedd(?), Capel Garmon, sir Ddinbych. Ac yntau'n fardd y mesurau caeth canodd y rhan fwyaf o'i gerddi i wahanol foneddigion Gogledd Cymru. Ymfalchïai yn arbennig yn ei swydd fel bardd teulu Plas Rhiwedog (ger y Bala), a chanwyd ymryson rhyngddo a Rhisiart Phylip am hyn. Canodd fawl Tomas Prys o Blas Iolyn a marwnad Sion Phylip o Ardudwy. Cyfansoddodd Rhisiart Phylip a Rowland Fychan
  • CYNWAL, WILIAM (bu farw 1587 neu 1588), bardd O Ysbyty Ifan, sir Ddinbych, disgybl i Ruffudd Hiraethog a disgybl pencerddaidd ail eisteddfod Caerwys (1568). Cadwyd nifer mawr o'i gerddi, yn y mesurau caeth gan mwyaf, a llawer ohonynt yn llawysgrif y bardd (e.e., NLW MS 3030B). Testunau ei farddoniaeth oedd mawl, marwnad, a gofyn i wahanol foneddigion Gogledd Cymru, crefydd, serch, dychan, ac ymryson. Yr enwocaf o'r ymrysonau yw'r un hir
  • CYNWRIG BENCERDD, telynor o Dreffynnon, Sir y Fflint. Efe oedd y prif gerddor yn eisteddfod fawr Caerfyrddin, 1451. Yn y The Myvyrian Archaiology of Wales ceir 'Dechrau Caniad Cynwrig Bencerdd.'
  • DAFYDD ab IEUAN ab IORWERTH (bu farw 1503), esgob Llanelwy Yn ôl yr achau yr oedd yn disgyn o Dudur ap Rhys Sais. Yn Trefor, ger Llangollen, yr oedd cartref y teulu - yn ' Gavella Rosseriet,' efallai (gweler G. P. Jones, Extent of Chirkland, 15). Daeth Dafydd ab Ieuan yn warden ysgol Rhuthyn ac yn abad Valle Crucis, gan ddilyn John ap Richard (gweler Peniarth MS 176 (53)), yn Valle Crucis. Yr oedd yr abad yn noddwr hael i'r beirdd ac y mae Gutun Owain a