Canlyniadau chwilio

313 - 324 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

313 - 324 of 3960 for "Sir William Williams, 1st Baronet, of Gray"

  • DAFYDD BENWYN (fl. ail hanner yr 16eg ganrif), un o feirdd Morgannwg Morgannwg, a chanodd gerddi o fawl i'r rhan fwyaf o deuluoedd bonheddig y sir ac i uchelwyr Gwent. Er ei fod yn ddisgybl i Risiart Iorwerth (a hefyd i Lewis Morgannwg, efallai), ac er iddo etifeddu dysg yr hen benceirddiaid, canu cyffredin, ystrydebol, a geir ganddo. Nid oes dim yn dangos yn well y dirywiad a fu ym Morgannwg yn ail hanner yr 16eg ganrif na chymharu ei awdlau a'i gywyddau ef â gwaith Lewis
  • DAFYDD DDU ATHRO o HIRADDUG (fl. cyn 1400), gŵr y cysylltir ei enw â'r gramadeg neu'r 'llyfr cerddwriaeth' cyntaf sydd gennym Hynny yw, llyfr sy'n trafod celfyddyd cerdd dafod, ac a gynnwys hefyd dalfyriad Cymraeg o'r gramadeg Lladin a ddefnyddid yn ysgolion yr Oesoedd Canol. Ni wyddom odid ddim amdano, ond gan fod Moel Hiraddug yn enw ar fryn yn ymyl Rhuddlan, efallai fod Syr Thomas Williams yn iawn pan ddywed, yn NLW MS 3029B, mai gŵr 'o Degeingyl' ydoedd. Myn y Dr. John Davies o Fallwyd yn Peniarth MS 49 ei fod yn
  • DAFYDD EMLYN (fl. 1603-22), prydydd ac, yn ôl Moses Williams, offeiriad [Gweler hefyd: Moses Williams.] Y mae'r ffugenw Emlyn yn awgrymu ei fod yn hanu o gyffiniau Teifi. Canodd yn y mesurau caeth i deuluoedd yng Nghemais, megis Henllys (1603), Llwyn Gwair, Tre Wern (1614) a Phen-y-benglog (1618, 1622), yn Nhrum Saran, ac ym Margam. Gellir gweld peth o'i waith yn ei law ei hun yn Llanstephan MS 38 a B.M. MS. 48.
  • DAFYDD FYNGLWYD (fl. c. 1500-50), bardd Mab i fardd, a brodor, y mae'n debyg, o Ddeheubarth Cymru. Ni wyddys dim am ei fywyd, ond cedwir peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau. Yn ei phlith ceir englynion moliant i blas Gruffudd Dwn o Ystrad Merthyr (Llanstephan MS 40 (60)), cywydd i Syr Harri ap Syr Thomas Johns o Abermarlais (Llanstephan MS 30 (444)), a chywydd i Syr John Perrot o Sir Benfro (Llanstephan MS 30 (447)).
  • DAFYDD GAM (bu farw 1415), milwr Cymreig ganrif a hanner bu tylwyth Games yn wyr pwysig ym Mrycheiniog - yn Aberbrân, Newton (gerllaw Aberhonddu), Tregaer, Buckland, a Phenderyn - hyd nes i linach y gwrywod ddarfod o'r tir. Yr uchel-siryf diwethaf o'r enw oedd Hoo Games (1657). Trwy i'w ferch Gwladus briodi Syr William ap Thomas o Raglan daeth Dafydd yn gyndad i'r Herbertiaid i gyd.
  • DAFYDD LLWYD ap LLYWELYN ap GRUFFUDD (c. 1420 - c. 1500) Fathafarn, Ef oedd awdur tua 50 o'r 200 o gywyddau brud ei gyfnod sydd ar gael, a dyna ei enwogrwydd pennaf Dafydd ap Ieuan ap Einion, a'r un modd ei elyn, William Herbert : ond y mae'n gwbl gyson yn y bôn, am na faliai fawr am yr ymrafael 'rhosynnaidd' Seisnig, ond yn unig fel y gallai roi ei gyfle i waredwr cenedl y Cymry. Dyhead am undod a gwaredigaeth ei genedl, a dig at y Saeson am ei difreinio, oedd prif gymelliadau ei frudio a'i awen. Heblaw ei gywyddau, ni cheir o'i waith yn aros ond un awdl wych i
  • DAFYDD LLWYD MATHAU, MATHE, neu MATHEW (fl. 1601-29), prydydd a chlerwr Hanoedd, yn ôl y Prifathro J. H. Davies, o Gilpyll, Llangeitho. Priodolir iddo gerddi sydd yn moli teuluoedd Morfa Mawr, sir Fôn (1601), Llewenni, sir Ddinbych (1602), Mawnseliaid Margam, Poweliaid Llan Dw, Phylipiaid Gelli'r-fid, Llandyfodwg, ym Morgannwg; ac, ym Mhenfro, Henllys (1603, 1606, 1611), Tre Wern, Pont Gynon (1615), Pen-y-benglog (1629), a Thomas ap Risiart o Farlas. Lluniodd
  • DAFYDD LLWYD SYBYLLTIR (fl. c. 1610), bardd a brodor o'r Sybylltir yn sir Fôn. Cynnwys ei waith dair can rydd serch, sef ' Cwynfan gŵr mewn cariad,' ' Ymddiddan rhwng gwr a'r ehedydd,' a ' Cwest ynghylch cariad mab a merch.'
  • DAFYDD LLYFNI (fl. diwedd yr 16eg ganrif), bardd
  • DAFYDD MEIFOD (fl. c. 1600), bardd brodor o Feifod yn Sir Drefaldwyn. Un darn o'i waith yn unig a gafwyd yn y llawysgrifau, a hwnnw'n gywydd duwiol. (Priodolir yr un cywydd mewn rhai llawysgrifau eraill i bum bardd arall.)
  • DAFYDD NANCONWY (fl. 17eg ganrif), cywyddwr Dywedir ei fod yn fab i Domas Dafydd ap Ieuan ap Rhys ap Gronnw ap Meyrick ap Llewelyn ap Richard ap Dafydd o Bwll-y-crochan yn y Llechwedd Isaf yn Arllechwedd, Sir Gaernarfon. Yr oedd y tad hefyd yn fardd, a gwyddys iddo ganu cywydd yn 1654. Ychydig o waith y mab sydd ar gael; canodd gywydd i'r Capten William Myddelton o Waenynog a fu farw yn 1637. Ceir ei waith yn NLW MS 3050D, a gopïwyd yn
  • DAFYDD NANMOR (fl. 15fed ganrif), bardd a phlaid Iorc arno yn 1468. Gan i'r brwydro yn Ffrainc ddarfod yn 1453, deil T. Roberts fod yn rhaid amseru ymadawiad Dafydd o Wynedd cyn y flwyddyn honno, a chyfrif gywyddau Gwen fel ei gyfansoddiadau cynharaf (The Poetical Works of Dafydd Nanmor, xvii-xix). Cafodd nawdd yn y De, yn llysoedd Rhys ap Meredudd o'r Tywyn (ger aber afon Teifi), ei feibion, a'i geraint. Nodir y Tŷgwyn-ar-Daf fel y man