Canlyniadau chwilio

313 - 324 of 408 for "Môn"

313 - 324 of 408 for "Môn"

  • ROBERT, GRUFFYDD (c. 1527 - 1598), offeiriad, gramadegydd a bardd Ngholeg Eglwys Crist rhwng 1550 a 1555, yno y graddiodd Morys Clynnog a Siôn Dafydd Rhys, ac nid yw'n annichon mai Eglwys Crist oedd coleg Gruffydd Robert yntau. Yn Nhachwedd 1558, tra oedd eto mewn is-urddau, penodwyd Gruffydd Robert gan yr archesgob Reginald Pole yn archddiacon Môn; ond gan i'r frenhines Mari farw ryw fis wedi hynny, gellir bwrw mai byr fu ei arhosiad yno. Gwrthododd gydnabod awdurdod
  • ROBERT, GRUFFYDD (c.1522 - c.1610), offeiriad, gramadegydd, a bardd yng Nghaergrawnt. Yn 1558, fe'i penodwyd yn archddiacon Môn, ond gan i'r frenhines Mari farw ryw fis wedi hynny, gellir bwrw mai byr fu ei arhosiad yno. Gwrthododd gydnabod awdurdod y frenhines Elisabeth mewn materion ysbrydol, ac aeth ef a Morys Clynnog i'r Cyfandir. Arhosodd Morys Clynnog yn Brussels a Louvain, ac efallai mai dyna hanes Gruffydd Robert, yntau, er y gellid barnu wrth a ddywedir ar
  • teulu ROBERTS Mynydd-y-gof, a nith i Simon Lloyd o'r Bala. Cyfrifid mai ef, ymhell cyn diwedd ei oes, oedd pen blaenor y Methodistiaid Calfinaidd ym Môn; dyn difrif, cynnil ond nid cybyddlyd, tipyn o deyrn efallai - ar ryw olwg, ymgorfforiad o hen Fethodistiaeth yr ynys. Bu farw 12 Ionawr 1869 'yn ei 81 mlwydd' meddai ei fab Robert, a chladdwyd yn Llanfachraeth. Cafodd deulu mawr (gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 383 - ond
  • ROBERTS, IEUAN WYN PRITCHARD (1930 - 2013), newyddiadurwr a gwleidydd Ganwyd Wyn Roberts ar 10 Gorffennaf 1930 yn Llansadwrn, Ynys Môn, yn fab i'r Parchedig Evan Roberts a'i wraig Margaret (g. Jones). Roedd ei dad yn weinidog Methodistaidd yng nghapel Penucheldref ac yn awdur colofn wythnosol yn Y Goleuad. Athrawes yn yr ysgol leol oedd ei fam, a'r ysgoldy oedd cartref y teulu. Mynychodd Ysgol Sir Biwmares nes iddo ennill ysgoloriaeth i Ysgol Harrow yn Llundain
  • ROBERTS, DAVID (Dewi Ogwen; 1818 - 1897), gweinidog gyda'r Annibynwyr daith honno y dechreuodd bregethu, yn Nolwyddelan. Derbyniodd alwad i Seion a Seilo, Môn, ac urddwyd ef yno 7 Mai 1839. Yn 1842 symudodd i'r Tabernacl, Gartside Street, Manceinion ond yn 1845 dychwelodd i Fôn yn weinidog Cemaes a Seion. Yn 1850 ymsefydlodd ym Mhendref Caernarfon, yn olynydd i 'Caledfryn.' Yno daeth i'w ran anhwyldeb poenus a gorfu iddo fyned dan driniaeth i'w wyneb a gwisgo plât aur
  • ROBERTS, EVAN (1923 - 2007), cemegydd ymchwil a diwydiannwr dewisodd safle caeau-gwyrdd yn Llangefni, Ynys Môn. Agorodd y ffatri newydd yn 1971, gan gyflogi bron i gant o bobl, yn rhan fwyaf wedi eu recriwtio'n lleol. Gwnaeth gyfraniad canolog i ddatblygiad Vitamin D3 - ar un adeg cyflenwai Peboc 70% o anghenion y byd - ac roedd yn awdurdod blaenllaw arno. Teithiodd yn helaeth i hyrwyddo'r cwmni, a dyfarnwyd Gwobr y Frenhines am Allforio a Thechnoleg i'r cwmni yn
  • ROBERTS, GLYN (1904 - 1962), hanesydd a gweinyddwr parod, gŵr hoffus, rhadlon a chymwynasgar ydoedd yn y bôn. Priododd ddwywaith: (1) â Mary Davida Alwynne Hughes ar 6 Medi 1933, ac wedi ei marwolaeth (2) â'i chwaer, Carys Eryl Hughes ar 28 Gorffennaf 1954. Bu farw 13 Awst 1962 ym Mhorthaethwy a chladdwyd ef ym mynwent Llantysilio, Ynys Môn.
  • ROBERTS, HUGH GORDON (1885 - 1961), llawfeddyg a chenhadwr Un o feibion David Roberts o Ddolenog, Llanidloes, Trefaldwyn, a'i wraig Jane Sarah, merch Thomas Price Jones o Lerpwl. Cofnodwyd ei enedigaeth yn Nosbarth Cofrestru Gorllewin Derby yn nhrydedd chwarter 1885, ond magwyd ef yn Lerpwl. Yr oedd yn orwyr i David Roberts (1788 - 1869), meddyg ym Modedern, Môn, ac yr oedd Syr William Roberts, F.R.S. (1830 - 1899), a oedd yn feddyg blaenllaw ym
  • ROBERTS, HUW (fl. c. 1555-1619), bardd, awdur, a chlerigwr Ni wyddys unrhyw fanylion am ei fywyd cynnar, ond ymddengys iddo fynd yn ' servitor ' i Goleg Eglwys Crist, Rhydychen, a graddio'n B.A. yno ar 6 Chwefror 1577-1578. Wedi derbyn ohono urddau eglwysig dywedir iddo fynd yn beriglor Aberffraw ym Môn; cafodd radd M.A. yn 1585. Cadwyd llawer o'i gerddi mewn llawysgrifau, a'r rhan fwyaf ohonynt yn gywyddau i aelodau o deuluoedd bonheddig gogledd Cymru
  • ROBERTS, JOHN (1910 - 1984), pregethwr, emynydd, bardd . 'Rhaid fod mewn emyn ddiwinyddiaeth,' meddai, 'diwinyddiaeth wedi bod drwy ffwrnais profiad.' Y cydymdeimlad profiadol ffyddiog a geir ynddynt a wnaeth ei emynau'n ffefrynnau mor ddefnyddiol gan gynulleidfaoedd brau'r cyfnod diweddar. Ei emyn enwocaf oll, nid hwyrach, yw “Gweddi Heddiw” ('O, tyred i'n gwaredu, Iesu da'), y gwobrwywyd Haydn Phillips yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Ynys Môn, 1983, am
  • ROBERTS, LEWIS (1596 - 1640), masnachwr ac economydd uchod) wedi diflannu, a Gabriel Roberts oedd un o brif fasnachwyr ei dref, onid yn wir y prif. Yn wahanol i'w deidiau Seisnig y Johnsoniaid, nid ymgymerai ef â masnach dramor, eithr fe'i cyfyngai ei hunan i brynu nwyddau yng Nghaerlleon a'u dosbarthu ym Môn. Yr oedd nid yn unig yn fwrdais ond (cyn 1612) yn 'capital burgess,' h.y. yn aelod o gyngor y dref. Casglodd gyfoeth mawr, a chymerth y cam nesaf
  • ROBERTS, MICHAEL (bu farw 1679), pennaeth Coleg Iesu yn Rhydychen Mab Evan Roberts ac Alice ei wraig o blwyf Llanffinan ym Môn - dyddiad ei eni'n anhysbys. Bu am dymor yng Ngholeg Caius, Caergrawnt, a Choleg y Drindod, Dulyn, lle y graddiodd yn B.A. 1620, M.A. 1623; ar sail hyn, corfforwyd ef yn aelod o brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt, ill dwy yn 1624; daeth yn gymrawd o Goleg Iesu, Rhydychen, 1625 - yno y bu tan 1638, pan gollodd ei le oherwydd rhyw