Canlyniadau chwilio

349 - 360 of 572 for "Morgan"

349 - 360 of 572 for "Morgan"

  • MORGAN, THOMAS (Afanwyson; 1850 - 1939), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, hanesydd, a llenor Ganwyd yng Nghwmafan, 9 Mawrth 1850, yn fab i Walter a Jane Morgan ac yn nai i David Michael ('Dewi Afan '). Derbyniwyd i Goleg Pontypŵl yn 1875 a'i ordeinio yng Nghaersalem, Dowlais, 1878. Symudodd yn 1895 i Ainon, Caerdydd, lle y dewiswyd ef gyda'r athro Thomas Powel i ad-drefnu llyfrgell Salisbury yng Ngholeg y Brifysgol yno. Oddi yno, yn 1900, aeth i Horeb, Sgiwen, lle yr arhosodd hyd ei
  • MORGAN, THOMAS (1737 - 1813), gweinidog Undodaidd Ganwyd 2 Tachwedd 1737 ym mhlwyf Llannon, Sir Gaerfyrddin. Ychydig dros ben a wyddys am ei yrfa yn 30 mlynedd cyntaf ei fywyd, ac y mae'r hanes a adroddir gan William Williams ('Carw Coch') yn ei Weddillion Llenyddol (68-86) yn anghyson ag ef ei hunan ac â ffeithiau hysbys. Ysgolfeistr a gwehydd oedd Thomas Morgan ar y cyntaf; yr oedd iddo hefyd gryn enw fel llysieuegwr a meddyg gwlad, a dywedir
  • MORGAN, THOMAS (1769 - 1851), caplan yn y llynges Ganwyd 6 Rhagfyr 1769, yn fab i Philip Morgan o Ddefynnog - gweler ach y teulu yn Theophilus Jones, History of the County of Brecknock (3ydd arg.), iv, 134-8, a chymharer yr ysgrif 'Morgan, G. E. F.', uchod. Addysgwyd ef yn ysgol Coleg Crist, Aberhonddu, dan David Griffith, ac yng Ngholegau Wadham a Iesu yn Rhydychen; graddiodd yn 1790 (D.D. 1824), ac urddwyd ef; ond torrodd ei iechyd i lawr, ac
  • MORGAN, THOMAS (bu farw 1833), cenhadwr gyda'r Methodistiaid Wesleaidd a gweinidog
  • MORGAN, THOMAS (1752 - 1821), llyfrgellydd - gweler MORGAN, THOMAS
  • MORGAN, THOMAS JOHN (1907 - 1986), ysgolhaig a llenor Cymraeg Ganwyd T. J. Morgan ar 22 Ebrill 1907 ym mhentre'r Glais, Cwm Tawe, cymdogaeth fwy neu lai uniaith Gymraeg y pryd hynny, yr ieuengaf o ddau fab William Morgan, glöwr, a'i wraig Annie. Cafodd ei addysg gynnar yn yr ysgol gynradd leol ac yna yn ysgol uwchradd Pontardawe cyn mynd i Goleg Prifysgol Abertawe lle y chwaraeodd yn nhîm rygbi'r coleg ac ennill gradd dosbarth cyntaf yn y Gymraeg yn 1928
  • MORGAN, THOMAS OWEN (1799 - 1878), bargyfreithiwr ac awdur mab Thomas Morgan. Pan ffurfiwyd y Powysland Club yn 1867 dewiswyd Morgan yn gyd-ysgrifennydd â Morris Charles Jones. Yr oedd hefyd yn aelod o Gymdeithas Hynafiaethol Cymru, a cheir erthyglau ganddo yn Archæologia Cambrensis, 1851, 1854, 1856, ac 1867 ('History of the Lordship of Cyfeiliog ' yn un o ddwy sydd yn Archæologia Cambrensis, 1867). Cofir ef yn bennaf oherwydd ei A New Guide to
  • MORGAN, THOMAS REES (1834 - 1897), peiriannydd, gwneuthurwr peiriannau, a dyfeisydd . Ymfudodd i U.D.A. yn 1865 a sefydlu yn Pittston, Pa., gan weithio yn siopau-gwaith cwmnïau rheilffyrdd. Bu wedyn yn y Cambria Iron Works (Johnstown) ac yn yr Atlas Works, Pittsburgh. Yn 1868 dechreuodd ei fusnes ei hun gan wneuthur morthwylion a weithir gan ager; o'r cychwyn syml hwn y datblygodd gwaith mawr y Morgan Engineering Company a chwmnïau eraill. Daeth ei ffyrm yn ymgymerwr mawr, gan wneuthur
  • MORGAN, TREFOR RICHARD (1914 - 1970), rheolwr cwmni Ganwyd 28 Ionawr 1914 ar Donyrefail, Morgannwg, yn bumed plentyn i Samuel ac Edith (ganwyd Richards) Morgan. Hanai teulu'r tad o ardal Llanbedr-y-fro? a theulu'r fam o Lanilltud Faerdref. Saer maen oedd y tad a fu farw yn 1918 o'r afiechyd a ysgubodd dros y wlad yn sgîl Rhyfel Byd I. Bu raid i'r fam ymdrechu i fagu saith o blant mewn tlodi mawr. Bedyddwyr ymroddedig oedd y teulu o'r ddau du
  • MORGAN, WALTER (fl. 1695), awdur nawddogaeth pan gyflwynodd deon a chabidwl Caerloyw ŵr o'r enw James Harries i'r fywoliaeth, a sefydlwyd y diwethaf, 7 Mehefin 1695 (Llandaff Subscription Books, iv), ac arhosodd ef yno hyd 1728. Ni wyddys yn sicr ai'r Walter Morgan hwn yw'r un a enwir gan Foster, mab Thomas Morgan o Landeilo, a ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, 30 Mai 1682, yn 21 oed, neu ddyn o'r un enw a fu'n rheithor Eglwysilan
  • MORGAN, Syr WALTER VAUGHAN (1831 - 1916), arglwydd faer Llundain Ganwyd 3 Mai 1831, yn chweched mab i Thomas Morgan o Pipton, y Clas-ar-Ŵy (Glasbury), Brycheiniog, a'i wraig Elizabeth (Vaughan) - yr wythfed mab oedd OCTAVIUS VAUGHAN MORGAN, F.S.A. (1837 - 1896), aelod seneddol Rhyddfrydol dros Battersea, 1885-92; ar y teulu, gweler Theophilus Jones, History of the County of Brecknock (3ydd arg.), iii, 90. Yn wyneb colledion y teulu, aeth amryw o'r meibion i
  • MORGAN, WILLIAM (1750 - 1833), actiwari a gwyddonydd Ganwyd William Morgan yng Nghastellnewydd, Penybont-ar-Ogwr, Morgannwg, ar 26 Mai 1750, y trydydd o wyth o blant a mab cyntaf William Morgan (1708-1772), apothecari a meddyg, a'i wraig Sarah (ganwyd Price, 1726-1803), chwaer yr athronydd Richard Price. Rhoddir union ddyddiad ei eni gan Caroline Williams, bywgraffydd y teulu a gor-nith i William, ond y dyddiad ar ei feddrod yw 6 Mehefin 1750. Yr