Canlyniadau chwilio

385 - 396 of 403 for "Môn"

385 - 396 of 403 for "Môn"

  • WILLIAMS, JOHN RICHARD (J.R. Tryfanwy; 1867 - 1924), bardd cylchgronau eraill. Enillodd ddeg o gadeiriau (yn eisteddfod yr Eifl, y Ddraig Goch, Lerpwl, Môn, y Fflint, a mannau eraill) Cyhoeddodd ddwy gyfrol o'i farddoniaeth, sef Lloffion yr Amddifad, 1892, ac Ar Fin y Traeth, 1910. Bu'n wrthrych gofal a charedigrwydd ei gyfaill ' Eifion Wyn ' am gyfnod maith.
  • WILLIAMS, OWEN (Owain Gwyrfai; 1790 - 1874), hynafiaethydd chyfeillion eraill £50 i gael cof-golofn ar ei fedd a dadorchuddiwyd honno ar 7 Mawrth 1879. Yn 1904 cyhoeddodd ei fab, Thomas Williams, ei hanes a pheth o'i waith yn Gemau Gwyrfai, ac yn 1911 drachefn cyhoeddodd gyfrol arall, Gemau Môn ac Arfon, yn cynnwys ysgrifau ar faterion hynafiaethol a barddoniaeth a godasai Owen Williams o hen lawysgrifau. Bu Owen Williams yn ddiwyd iawn yn ystod ei oes faith o 84
  • WILLIAMS, OWEN (1774 - ar ôl 1827), cerddor Ganwyd Gorffennaf 1774 yn y Cwirt, plwyf Llandyfrydog, Môn, mab Owen ac Ellen Jones. Cofrestrir ei fedydd yn eglwys Llandyfrydog fel a ganlyn - ' July 11, 1774, Owen Jones (son of) Owen Jones & Ellen, Quirt, husbandman, Nic: Owen, Rector.' Dechreuodd ddysgu cerddoriaeth yn ieuanc a dywed na chafodd esmwythyd i'w feddwl hyd oni chyfrannodd i'w gydwladwyr y dalent a dderbyniodd. Yn 1817 dug allan
  • WILLIAMS, OWEN (GAIANYDD) (1865 - 1928), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a llenor Llanerchymedd (Cymdeithas Eisteddfod Môn, 1906); Ein Pobl Ieuainc … (Caernarfon, 1906); Dafydd Jones o Drefriw (1708-1785) (Caernarfon, 1907); Dewis Aelod Seneddol: Drama Gymreig (Conwy, 1910), Cymeriadau'r Hen Destament … (Conwy, 1926). Yr oedd yn ŵr priod a ganwyd iddo ddau fab ac un ferch.
  • WILLIAMS, OWEN HERBERT (1884 - 1962), llawfeddyg ac athro llawfeddygaeth Ganwyd 2 Ionawr 1884 ym Modrwnsiwn, Llanfaelog, Môn, yn fab i Owen a Jane Williams, teulu o dras amaethyddol. Bu'r tad farw cyn i'r bachgen gyrraedd blwydd oed, ac ar hyd ei oes talai deyrnged i ymdrechion dygn ei fam i sicrhau addysg iddo. Ar ôl gorffen yn ysgol Llanfaelog aeth i ysgol ramadeg Beaumaris, ac oddi yno i Brifysgol Caeredin i astudio meddygaeth, a graddiodd M.B., Ch.B., yn 1906
  • WILLIAMS, PETER BAILEY (1763 - 1836), cherigwr a llenor , 1832, ar hanes Môn, ac yn nhrafodion y Cymmrodorion (1843), ar fynachdai ac abatai Cymru. Cyfieithodd ddau o lyfrau Baxter yn Gymraeg : Traguyddol Orphwysfa'r Saint, 1825, a Galwad i'r Annychweledig, 1825. Er nad oes lawer o wreiddioldeb yn ei waith, haedda glod am wrthod cymryd ei ddenu gan orgraff William Owen Pughe ac am weled mai ffug a thwyll oedd honiadau ' Iolo Morganwg ' am orsedd y beirdd
  • WILLIAMS, ROBERT ARTHUR (Berw; 1854 - 1926), clerigwr a bardd Ganwyd 8 Ebrill 1854 yng Nghaernarfon, mab John Williams, morwr. Bu farw ei fam pan nad oedd ond tairblwydd oed, a magwyd ef gan ei fodryb ym Mhentre Berw, Môn. Prentisiwyd ef yn siopwr yn y Gaerwen, a dechreuodd ymddiddori mewn prydyddiaeth. Symudodd i Fangor i weithio, a daeth dan ddylanwad y deon H. T. Edwards. Aeth yn 1880 i Goleg S. Aidan, Birkenhead, i baratoi ar gyfer y weinidogaeth
  • WILLIAMS, ROWLAND (Hwfa Môn; 1823 - 1905), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd yn Pen y Graig, Trefdraeth, Môn, Mawrth 1823. Pan oedd yn 5 oed symudodd y teulu i fyw i Ros-tre-Hwfa, ger Llangefni, a chyda'r Methodistiaid Calfinaidd y magwyd ef nes oedd yn 14 oed. Prentisiwyd ef yn saer coed gydag un John Evans, Llangefni; bu'n gweithio wrth ei grefft wedyn ym Mangor, Deiniolen, Porthdinorwig, a lleoedd eraill. Yn 1847 dychwelodd i Fôn ac yn fuan codwyd ef i bregethu
  • WILLIAMS, THOMAS (fl. niwedd y 18fed ganrif) Lanidan, twrnai ac un o brif lywiawdwyr y diwydiant copr Fel mab (ganwyd 13 Mai 1737) i Owen Williams o'r Cefn Coch yn Llansadwrn, a pherchennog hefyd ar Dregarnedd a Threffos, a'i fam yn ferch Hendre Hywel ger Llangefni, gwaith cymharol hawdd fu i Thomas Williams fyned i fyny llawes gwŷr mawr Môn; ef oedd prif drefnydd papurau stad Bodior; ef a wariodd gryn 10 mlynedd yn ceisio cael rheswm allan o'r ddeuddyn ystyfnig, William Hughes, sgwïer y Plas
  • WILLIAMS, WILLIAM (c. 1625 - 1684), hynafiaethydd of the Anglesey Antiquarian Society and Field Club, 1948; a hanes, llygad-dyst o bosibl, o'r gwrthryfel ym Môn yn 1648, a ymddengys fel atodiad i gerdd Richard Llwyd, ' Beaumaris Bay.'
  • WILLIAMS, WILLIAM (1738 - 1817) Llandygái, llenor, hynafiaethydd, a swyddog pwysig ar gloddfa lechi Cae-braich-y-cafn Ganwyd 1 Mawrth 1738 yn Nhrefdraeth, Môn, o rieni tlodion, a main iawn oedd ei fyd yn ei ddyddiau cynnar. Bu'n wehydd dros dro, ac yna'n brentis cyfrwywr yn Llannerch-y-medd am saith mlynedd. Daeth yn un o ddisgyblion prydyddol Huw Hughes y ' Bardd Coch ', ac yn bur gyfeillgar â Robert Hughes, sef ' Robin Ddu yr ail ', a thrwy'r cyfeillgarwch hwnnw y daeth yn aelod gohebol o Gymdeithas
  • WILLIAMS, WILLIAM MATTHEWS (1885 - 1972), cerddor Ganed 9 Rhagfyr 1885 yn Pen y Bonc, Burwen, ger Amlwch, Môn, yn fab i Richard ac Ellen Williams, Victoria House, Amlwch. Amlygodd ddawn gerddorol yn ifanc. Ar anogaeth John Matthews, prifathro'r Ysgol Fwrdd, prynodd ei rieni organ fach 'Americanaidd' iddo, ac fe'i dysgodd ei hun i'w chanu; erbyn iddo gyrraedd ei wythmlwydd yr oedd yn cyfeilio'n rheolaidd yn y Capel Mawr, Amlwch. Yn 1898 enillodd