Canlyniadau chwilio

409 - 420 of 990 for "Mawrth"

409 - 420 of 990 for "Mawrth"

  • JONES, JOHN (Shoni Sguborfawr; c.1810 - 1867), un o derfysgwyr 'Beca' y Taff Vale Railway (1840) â gornest a dyrnau moelion rhwng Shoni a phencampwr Cyfarthfa, John Nash. Cofid yn y dyddiau wedyn fod Shoni'n ddiffynnwr anifeiliaid, ac iddo roi curfa i ryw helwyr am gam-drin eu ceffylau. Dygwyd ef o flaen ustusiaid Merthyr Tydfil fis Mawrth 1843 am fod yn feddw ac afreolus, ond rhyddhawyd ef ar addewid o 'fyw bywyd gwell'; eithr ym mis Mai wele ef o flaen mainc
  • JONES, JOHN (1796 - 1857), pregethwr amlwg a grymus neilltuol, a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 1 Mawrth 1796, yn Nhanycastell, Dolwyddelan, yn fab i John ac Elen Jones, a brawd David Jones, Treborth. Collodd ei dad pan yn 12 oed. Dylanwadodd diwygiad Beddgelert (1819) arno ac ymunodd â chrefyddwyr yn Llangernyw; bu'n gweithio ar y ffordd fawr rhwng Capel Curig a Llyn Ogwen ac wedyn mewn chwarel yn Nhrefriw. Dechreuodd bregethu yn 1821; ni bu mewn ysgol o gwbl, eithr cafodd ychydig
  • JONES, JOHN (Humilis; 1818 - 1869), gweinidog Wesleaidd, golygydd, cyfieithydd, ac awdur o Rwsia, 1855, Bywgraffydd Wesleyaidd, 1866, a'r Chwedleuydd, 1868. Cyhoeddwyd erthyglau ganddo yn Y Traethodydd, 1855-69. Bu farw 13 Mawrth 1869 yng Nghaerdydd.
  • JONES, JOHN (1786 - 1865), argraffydd a dyfeisiwr Ellis (1816) a Gronoviana (1860), sef yr argraffiad cyntaf o holl waith Goronwy Owen. Casglwyd y gwaith gan ei fab Edward (1826 - 1892), tad Griffith Hartwell-Jones, awdur Celtic Britain and the Pilgrim Movement (1915). Yr oedd John Jones, a oedd yn gwmnïwr diddan a diwylliedig, yn barddoni dan yr enw 'Pyll'. Wedi ei farwolaeth ar 19 Mawrth 1865, parhaodd ei fab Owen Evans-Jones y fusnes, heb lawer o
  • JONES, JOHN (1773 - 1853), clerigwr Ganwyd 31 Mawrth 1773, yn fab i Thomas a Lowri Jones, Dolgellau, Meirionnydd; yr hynaf o dri ar ddeg o blant. Gŵr busnes ac ariannwr oedd Thomas Jones, sefydlydd y banc cyntaf yn Nolgellau a pherthynas i David Richards ' Dafydd Ionawr '. Addysgwyd John Jones yn Nolgellau, ysgol ramadeg Rhuthun a Choleg Iesu, Rhydychen lle graddiodd yn B.A. yn 1796 (M.A. yn 1800). Bu wedyn yn gurad yn
  • JONES, JOHN CHARLES (1904 - 1956), Esgob Bangor erioed o'r blaen. Yr oedd y plwyfi mwyaf diarffordd yn ei adnabod, ac yr oedd yn esgob i bawb, ' yn perthyn i ni gyd ', fel y dywedodd blaenor Methodist. Yn haf 1950 dilynodd mwy na phedair mil ef ar bererindod hyd ffordd y pererinion i Aberdaron. Yr oedd yr arddangosfa o drysorau eglwysi'r esgobaeth a gynhaliwyd ym Mangor 3-5 Mawrth 1953 yn gyfle i ddwyn pawb ynghyd yn ogystal ag i bwysleisio
  • JONES, JOHN EMRYS (1914 - 1991), ysgrifennydd a threfnydd y Blaid Lafur yng Nghymru Ganwyd ef ar 12 Mawrth 1914, yn fab i William ac Elizabeth Susan Jones. Eu cartref oedd 5 Teras Harris, Penrhiwceiber yng nghwm Cynon. Addysgwyd ef mewn ysgol uwchradd yn Aberpennar, ond gadawodd yr ysgol yn bedair ar ddeg mlwydd oed. Gweithiodd fel cynorthwywr mewn siop, 1928-29, ar y rheilffyrdd, 1929-33, yn ffatri ceir Rootes, 1933-36, ac eto ar y rheilffyrdd, 1936-49. Ymunodd ag Undeb
  • JONES, JOHN HENRY (1909 - 1985), addysgydd a chyfieithydd Clasuron a chyfieithu Agamemnon, y gyntaf o dair trasiedi Oresteia Aischulos, i'r Gymraeg: darlledwyd y ddrama ar y radio gan Wasanaeth Cymreig y BBC ym mis Mawrth 1953, a'i chyhoeddi (gol. R. Telfryn Pritchard) gan y Ganolfan Astudiaethau Addysg, Aberystwyth, yn 1991. Cafwyd ganddo, hyd ddiwedd ei oes, gnwd gwiw o gyfieithiadau barddoniaeth, o Roeg (clasurol a modern) ac o Ladin, o Saesneg ac Almaeneg a
  • JONES, JOHN HERBERT (Je Aitsh; 1860 - 1943), newyddiadurwr ac awdur ddiwrnod gwaith, i'r Genedl, pan gytunodd â'r diweddar Hugh Evans yn 1906 i gymeryd gofal papur wythnosol y bwriedid ei gyhoeddi - Y Brython - a golygodd ef hyd ei ymneilltuad yn 1931. Wedi hynny parhaodd i ddarlithio yn fynych a bu ar daith yn U.D.A. yn 1932. Yn 1941 aeth i fyw, gyda'i ferch a'i gŵr, ym Mhen-y-groes, Sir Gaernarfon, lle y bu farw 23 Mawrth 1943. Cyhoeddodd (1915) destun o Lyfr y Tri
  • JONES, JOHN JAMES (1892 - 1957), athro, llyfrgellydd, ysgolhaig ac ieithydd Ganwyd 12 Mawrth 1892 yng Ngheinewydd, Ceredigion, yr ieuangaf o ddau blentyn y cyfrwywr Thomas Jones ac Elizabeth, merch John Williams, Pendre, Llwyndafydd. Addysgwyd ef yn ysgol y cyngor, Ceinewydd, ysgol ganolraddol Aberaeron (1906-10); bu'n ddisgybl athro cyn mynd i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth (1911-14), lle y daeth yn ddisgybl i'r athro enwog Hermann Ethé. Graddiodd yn B.A. gydag
  • JONES, JOHN MORGAN (1861 - 1935), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur Ganwyd 26 Mawrth 1861 ym Margam, Sir Forgannwg, ardal y bu'n gweithio ynddi am beth amser cyn myned i Goleg Arnold yn Abertawe ac oddi yno i Goleg Trefeca. Bu'n weinidog yn y Bwlch, sir Frycheiniog, ac yn Alexandra Road, Abertawe, cyn myned i Goleg S. Ioan, Caergrawnt, yn 1895; graddiodd yn B.A. yn 1898. Yn yr un flwyddyn penodwyd ef yn weinidog capel Methodistaidd Saesneg Hope, Merthyr Tydfil, a
  • JONES, JOHN MORGAN (1873 - 1946), gweinidog gyda'r Annibynwyr a phrifathro coleg Bala-Bangor merch. Yn Ionawr 1914 symudodd i fod yn athro Hanes yr Eglwys a Llenyddiaeth Saesneg yng ngholeg Annibynnol Bala-Bangor. Gyda phrifathro 'r coleg, Dr. Thomas Rees, bu a rhan flaenllaw mewn cyhoeddi'r papur pasiffistaidd Y Deyrnas rhwng Hydref 1916 a Thachwedd 1919. Ar farwolaeth Thomas Rees yn 1926 daeth yn brifathro 'i goleg a daliodd y swydd nes marw ohono yntau ar 7 Mawrth 1946. Claddwyd ei