Canlyniadau chwilio

433 - 444 of 990 for "Mawrth"

433 - 444 of 990 for "Mawrth"

  • JONES, OWEN WYNNE (Glasynys; 1828 - 1870), clerigwr, hynafiaethydd, storïwr, a bardd Ganwyd yn Tŷn-y-ffrwd, Rhostryfan, ger Caernarfon, 4 Mawrth 1828. Aeth i weithio yn y chwarel pan oedd yn 10 oed, a'i gadael yn 17 a mynd i ysgol Bron-y-foel. Ni wyddys yn sicr a fu ef yn ysgol 'Eben Fardd' yng Nghlynnog, ond aeth i Goleg Hyfforddi Caernarfon, i baratoi bod yn athro yn ysgolion yr Eglwys. Bu'n athro ysgol yng Nghlynnog, ac 'Eben Fardd' yn gymydog iddo. Symudodd i gadw ysgol yn
  • JONES, PHILIP (1618 - 1674), cyrnol ym myddin y Senedd ac aelod o Ail Dŷ Cromwell anawsterau a gododd ynghylch ficeriaeth Meidrim a bywoliaeth Llangunllo ym Maesyfed (Awst 1649), ac i wneud cyfiawnder ag offeiriad helbulus Llangadog ym Mrycheiniog (Mawrth 1650). Cyn hynny yr oedd Jones wedi dod ei hun yn aelod o bwyllgorau pwysig, nid llai na'r pwyllgor a gydiai yn nhiroedd y Brenhinwyr a phennu dirwyon arnynt (Rhagfyr, 1648), y ' Committee for Compounding,' a'r pwyllgor arbennig i
  • JONES, REES CRIBIN (1841 - 1927), gweinidog (U) ac athro . Plentyn o'i briodas gyntaf â Mari Jones (10 Ionawr 1873) oedd Watcyn Samuel Jones; bu hi farw 11 Mawrth 1898. Bu farw ei ail wraig, Mary Ann, ar 8 Chwefror 1945 ac yntau 11 Awst 1927. I'w lysfam y cyflwynodd y mab ei lyfr, Helyntion hen bregethwr a'i gyfoedion, 1940.
  • JONES, REES JENKIN (1835 - 1924), pregethwr, ysgolfeistr, hanesydd, emynydd a'r Trecynon Seminary (yn iaith y werin ' Ysgol Jones'). Ymhlith ei fyfyrwyr bu (Syr) T. Marchant Williams, Pennar Griffiths, a T. Botting. Ymddeolodd o'r weinidogaeth yn 1909. Priododd Anne (bu farw 7 Mawrth 1899), merch Evan Griffith, The Poplars, Aberdâr, a bu iddynt bump o blant. Golygodd Yr Ymofynydd (yr ail waith) o 1881 hyd 1887. Cyhoeddodd Emynau Mawl a Gweddi, 1878, Emynau ac Odlau, 1895 (y
  • JONES, RICHARD IDWAL MERVYN (1895 - 1937), athro ysgol, bardd, a dramaydd Sant yn yr un dref, 1909-11. Bu wedyn am dro yn glerc cyfreithiwr yn Llanbedr Pont Steffan, ac ar ôl hynny yn glerc gyda'i dad yn y fusnes lo, gan i'w dad adael swydd ysgolfeistr ysgol y Felin-fach oherwydd anghydfod rhyngddo a llywodraethwyr yr ysgol. Ymunodd Idwal Jones â'r fyddin ym mis Mawrth 1915 a bu'n gwasnaethu gyda hi yn nwyrain Affrica; gadawodd y fyddin ym mis Mawrth 1919. Aeth i Goleg
  • JONES, RICHARD LEWIS (1934 - 2009), bardd ac amaethwr Ganwyd Richard Jones, neu Dic fel y'i hadnabyddid drwy Gymru gyfan, ar ddydd Gwener y Groglith, 30 Mawrth 1934 ar fferm Pen-y-graig ger Tre'r-ddôl yng ngogledd Ceredigion. Un o ferched y teulu Isaac o Ben-y-graig oedd ei fam, Frances Louisa (1910-1986). Athrawes oedd wrth ei galwedigaeth ac ar ôl iddi symud i swydd yn Ysgol Blaen-porth priododd ag amaethwr lleol, Alban Lewis (Abba) Jones (1911
  • JONES, ROBERT (1806 - 1896), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac awdur areithiai lawer ar bynciau gwleidyddol, crefyddol, a chymdeithasol. Bu farw 3 Mawrth 1896.
  • JONES, ROBERT (1810 - 1879), clerigwr ac awdur Abermaw o 1840 hyd 1842. Yn y flwyddyn honno dyrchafwyd ef yn ficer Eglwys All Saints, Rotherhithe, Llundain, ac yno y bu hyd ei farwolaeth 28 Mawrth 1879. Claddwyd ef ym mynwent Eglwys All Saints. Yn ystod ei dymor yn Abermaw cyhoeddodd gasgliad o salmau ac emynau Cymraeg, ac, yn 1864, adargraffiad o lyfr y Dr. John Davies, Flores Poetarum Britannicorum. Yn 1876 cyhoeddodd The Poetical Works of Goronwy
  • JONES, ROBERT (1560 - 1615), offeiriad o urdd yr Ieswitiaid genhadaeth Ieswitaidd yng Nghymru a Lloegr, 30 Mawrth 1609, mewn argyfwng yn helyntion y Pabyddion. Yn 1608 ail-ddechreuwyd dienyddio offeiriaid, a rhoddwyd dwysach grym yn y llw teyrngarwch gan broclamasiwn 2 Mehefin 1610. Heuai'r llywodraeth hadau anghytundeb yn ddirgel ymhlith y Pabyddion erlidiedig; bu cryn ddiddordeb trwy Ewrob benbaladr yn y dadlau ynghylch y llw, a chymerth cyfaill Jones, y Cardinal
  • JONES, ROBERT (1891 - 1962), aerodynamegydd nes ymddeol yn 1953. Priododd, 17 Rhagfyr 1918, â Madeline Broad, a bu iddynt un ferch, a anwyd 9 Mawrth 1920. Gwnaeth ei gartref yn Ashford. Drwy gydol ei fywyd bu'n aelod gweithgar yn yr Eglwys Gynulleidfaol gan gadw cysylltiad agos â Chymru a'r iaith. Bu farw 17 Mawrth 1962 yn Stanwell. Ar ddamcaniaeth fathemategol sefydlogrwydd awyrennau y bu gwaith cyntaf Robert Jones yn y Labordy Ffisegol
  • JONES, ROBERT AMBROSE (Emrys ap Iwan; 1848 - 1906), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, llenor a beirniad llenyddol Ganwyd 24 Mawrth 1851 ger Abergele (ei dad yn arddwr yn Bryn Aber), mab hynaf John a Maria Jones. Priodasai hendaid Emrys â Ffrances a drigai yng nghastell y Gwrych, a bu gwybod hyn yn help i ennyn ei ddiddordeb yn Ffrainc ac Ewrop. Ar ôl ymadael â'r ysgol elfennol yn Abergele, aeth ' Emrys ' yn 14 oed yn negesydd siop ddillad yn Lerpwl, ond dychwelodd ymhen blwyddyn i arddio ym Modelwyddan. Aeth
  • JONES, ROBERT EVAN (1869 - 1956), casglwr llyfrau a llawysgrifau enwedig mewn astudiaethau Celtaidd. Cyfrannodd yn helaeth hefyd ar lyfryddiaeth ac astudiaethau Cymraeg i bapurau newydd a chylchgronau. Priododd, 12 Awst 1920, yn eglwys Maentwrog, â Sissie Hughes, merch Richard ac Elizabeth Hughes, Llys Twrog, Maentwrog, a bu iddynt un ferch. Bu farw 27 Mawrth 1956 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Maentwrog.