Canlyniadau chwilio

37 - 48 of 69 for "Gwen"

37 - 48 of 69 for "Gwen"

  • JONES, EDWARD (1826 - 1902), awdur Y Gymdeithasfa, 1891, llyfr defnyddiol iawn ar hanes y Methodistiaid Calfinaidd yng Ngogledd Cymru Ganwyd yn Cae-garw, Dyffryn Ardudwy, yn fab i John a Gwen Jones. Bu farw ei dad pan nad oedd ef ond plentyn, a bu'n gweithio ar ffermydd hyd 1853, pan aeth i Goleg y Bala i'w hyfforddi at fod yn athro ysgol. Bu wedyn yng ngholeg hyfforddi Borough Road, ac am dymor byr yn athro ysgol ym Mlaenau Ffestiniog; ond yn 1854 cafodd ysgol yn Llanllechid, lle y priododd ag Elizabeth Roberts o'r lle hwnnw
  • JONES, EZZELINA GWENHWYFAR (1921 - 2012), artist a cherflunydd Ganwyd Ezzelina Jones ym Mhontarddulais ar 28 Mehefin 1921, yr ail o dair merch Godfrey Hugh Beddoe Williams, dwblwr yng ngwaith tun Clayton, a'i wraig Elizabeth Mary Williams. Roedd ganddi ddwy chwaer, Elizabeth Jane (Betty) a Rita. Yn y blynyddoedd cynnar Gwen neu Gwenhwyfar oedd hi i'r teulu. Mae'n debyg iddi gael yr enw anghyffredin Ezzelina ar ôl Ezzelina Samuel, merch i gydweithiwr i'w thad
  • JONES, GARETH RICHARD VAUGHAN (1905 - 1935), ieithydd a newyddiadurwr Ganwyd 13 Awst 1905, mab Edgar a Gwen Jones, y Barri, Sir Forgannwg. Cafodd ei addysg yn ysgol ganolradd y Barri (yr ysgol yr oedd ei dad yn bennaeth arni), Coleg y Brifysgol, Aberystwyth (B.A. gydag anrhydedd y dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg), a Coleg y Drindod, Caergrawnt (B.A. gydag anrhydedd y dosbarth cyntaf mewn Ffrangeg, Almaeneg, a Rwseg). Yn 1930 dewiswyd ef yn ysgrifennydd preifat i
  • JONES, GWENAN (1889 - 1971), addysgydd ac awdur Ganwyd Gwenan Jones ar 3 Tachwedd 1889 ar fferm Gelli Isaf, Waun, y Bala. Fe'i bedyddiwyd gan y Parch Michael D. Jones a'r enw a roddwyd arni oedd Gwen Ann, cyfuniad o enwau ei mam, Ann Catherine, a'i nain, Gwen Jones. (Yn y Coleg y dechreuodd arfer yr enw Gwenan.) Ei nain, gwraig weddw dlawd ond galluog ac amryddawn, oedd y ffigur canolog yn ei bywyd yn ifanc. Addysgwyd hi yn Ysgol Gynradd Maes
  • JONES, JOHN (Tegid, Ioan Tegid; 1792 - 1852), clerigwr a llenor Ganwyd yn y Bala 10 Rhagfyr 1792, yn ail fab i Henry a Catherine Jones; yn ôl hunangofiant Elizabeth Davis, yr oedd gan y fam fasnach bur helaeth mewn dillad merched, ac awgryma gyrfa hir 'Tegid' mewn ysgolion ei bod hi'n weddol dda ar y teulu. Enwa 'Tegid' frawd, Dafydd, a oedd yn fancer, a dwy chwaer, Gwen (a fu farw'n ifanc) ac Elen. Bu mewn 'amryw ysgolion' yn y Bala; yn 12 oed, aeth i'r
  • LLOYD, JOHN MEIRION (1913 - 1998), cenhadwr ac awdur hwyliodd ef i India ar long o'r enw Stirling Castle, yng nghwmni cenhadon eraill o Gymru, gan gynnwys Gwen Rees Roberts. Cyrhaeddodd dref Aizawl yn Mizoram yn Rhagfyr 1944. Ni chafwyd llong i'w briod hyd fis Tachwedd 1945. Ganwyd tri phlentyn iddynt yn India, sef Eirlys Ruth, Alun Meirion a Hywel John, a phan oeddynt yn ddigon hen anfonwyd nhw yn ôl i Loegr am eu haddysg. Gwelodd yn ddiymdroi anghenion
  • MARDY-JONES, THOMAS ISAAC (1879 - 1970), economegydd a gwleidydd Ganwyd yn 1879 yn fab i Thomas Isaac a Gwen Jones, Brynaman, Sir Gaerfyrddin. Lladdwyd ei dad a'i ddau dad-cu mewn damwain mewn pwll glo. Derbyniodd ei addysg gynnar yn ysgol y bwrdd, Ferndale, a dechreuodd weithio yno mewn pwll glo yn 12 mlwydd oed. Bu'n rhaid iddo gynnal teulu o chwech ar ei gyflog. Manteisiodd ar y cyfle i astudio hanes gwleidyddol ac economaidd yng Ngholeg Ruskin, Rhydychen
  • MORRIS, JOHN WILLIAM (1896 - 1979), cyfreithiwr a barnwr Ganwyd John Morris ar 11 Medi 1896 yn 189 Stryd Faulkener, Lerpwl, yr ail o blant Daniel Morris (1852-1946), rheolwr banc, a'i wraig Ellen (g. Edwards, 1857-1946.) Ganwyd ei chwaer Gwen yn 1894. Porthmadog oedd cynefin y teulu a byddent yn treulio gwyliau rheolaidd yno yn ystod ei blentyndod. Addysgwyd Morris yn y Liverpool Institute. Ei fwriad wedyn oedd mynd ymlaen i Trinity Hall, Caer-grawnt
  • MORYS, HUW (Eos Ceiriog; 1622 - 1709), bardd Ail fab Morris ap John ap John ab Ednyfed o'r Hafodgynfor ym mhlwyf Llangollen, sir Ddinbych. Er iddo dreulio'r rhan helaethaf o'i oes faith ym Mhontymeibion ym mhlwyf Llansilin, fe ymddengys nad yno y ganed Huw, eithr iddo symud yno gyda'i dad a gweddill y teulu tua 1647. Gwyddom fod i'w daid, John ap John, diroedd yng nghymydau Rhiwlas a Hafodgynfor, pan briododd â Gwen, ferch Thomas ap
  • OWEN, DANIEL (1836 - 1895), nofelydd i'r Drysorfa rhwng 1882 a 1885. Wedyn cyhoeddwyd Enoc Huws a Gwen Tomos yn Y Cymro, papur wythnosol a gyhoeddid yn Lerpwl. Bu farw 22 Hydref 1895. Cyn Daniel Owen, ni ellir dweud i ddim pwysig ymddangos ym myd y nofel Gymraeg, yn yr ystyr a roddwn i nofel heddiw. Disgrifio'r gymdeithas Gymreig a droai o gwmpas y capel a wnaeth ef yn Rhys Lewis, Enoc Huws, a'r Dreflan, a'r gymdeithas wledig yn Gwen
  • OWEN, DAVID (Dafydd y Garreg Wen; 1711 - 1741), telynor Bedyddiwyd 27 Ionawr 1711 (cofnod yn Llyfrgell Coleg y Gogledd), mab Owen Humphreys, Ynyscynhaearn, Sir Gaernarfon, a Gwen (Roberts), Isallt Fawr, Llanfihangel-y-pennant (Eifionydd) - gweler J. E. Griffith, Pedigrees, 353. Fe'i dygwyd i fyny'n delynor, ac y mae llawer o draddodiadau amdano; priodolir iddo'r alawon ' Dafydd y Garreg Wen,' ' Codiad yr Ehedydd,' a ' Difyrrwch Gwyr Cricieth.' Bu farw
  • PARRY, OWEN HENRY (1912 - 1956), cerddor jazz , Count Basie a Glenn Miller. Ceisiodd, yn ystod diwedd ei oes, berffeithio arddull debyg i eiddo Miller. Gallai gyfrif Henry Hall, Roy Fox a Geraldo ymhlith ei gyfeillion. Ei wraig gyntaf oedd Gwen Davies. Ar ôl ysgariad priododd Jessie Bradbury, cantores broffesiynol ond aeth y briodas honno i'r gwellt. Ni bu iddynt blant. Yr oedd ganddo lawer i'w ddweud wrth ei dref enedigol ond prin y câi amser i