Canlyniadau chwilio

37 - 48 of 109 for "Iago"

37 - 48 of 109 for "Iago"

  • HYWEL ap IEUAF (bu farw 985), brenin Gwynedd mab Ieuaf ap Idwal Foel. Yn 979 dialodd ar elynion ei dad trwy garcharu ei ewythr, Iago ap Idwal, a dechrau teyrnasu ei hunan yng Ngwynedd. Dilynwyd ef gan ei frawd, Cadwallon (bu farw 986), gŵr na bu iddo yntau ychwaith aer uniongyrchol. Dygwyd y llinach ymlaen gan etifeddion ei ewythr, Meurig ap Idwal Foel.
  • IAGO ab IDWAL ap MEURIG (bu farw 1039), brenin Gwynedd gor-wyr i Idwal Foel. Wedi i dreiswyr yn olynol gipio'r awdurdod yng Ngwynedd rhwng 986 a 1033 - gweler Maredudd ab Owain, Llywelyn ap Seisyll, Rhydderch ap Iestyn - adferwyd yr hen linach ym mherson Iago. Teyrnasiad byr o chwe mlynedd a gafodd cyn ei lofruddio ac i Gruffydd ap Llywelyn ap Seisyll gymryd ei le. Mab iddo oedd Cynan, tad Gruffydd ap Cynan, y tywysog a lwyddodd o'r diwedd i ail
  • IAGO ab IDWAL FOEL (fl. 942-79) Gyrrwyd ef o Wynedd gyda'i frawd, Ieuaf, gan Hywel Dda pan fu Idwal Foel farw, yn 942, eithr cawsant ddychwelyd pan fu Hywel farw yn 950. Dilynodd rhyfel cartrefol a gorchfygwyd Ieuaf yn 969. Carcharwyd Iago yn ei dro yn 979 gan Hywel, mab Ieuaf, a daeth Hywel yn frenin Gwynedd. Iago yw'r unig Gymro y gellir bod yn weddol sicr ei fod gyda'r isbenaethiaid eraill a blygodd lin i Edgar, yng Nghaer
  • IAGO ap DEWI - gweler DAVIES, JAMES
  • IAGO ap IAGO - gweler JAMES, JAMES
  • IAGO ap IEUAN - gweler JAMES, EVAN
  • IAGO BENCERDD - gweler HUGHES, JAMES
  • IAGO EMLYN - gweler JAMES, JAMES
  • IAGO ERFYL - gweler JAMES, THOMAS DAVIES
  • IAGO MOCHNANT - gweler JONES, JAMES
  • IAGO TRICHRUG - gweler HUGHES, JAMES
  • IDWAL ap MEURIG (bu farw 996) mab Meurig ab Idwal Foel. Bu farw mewn alltudiaeth yn ystod cyfnod teyrnasiad Maredudd ab Owain dros Wynedd. Daeth ei fab Iago yn frenin ar Gwynedd yn nes ymlaen.