Canlyniadau chwilio

481 - 492 of 572 for "Morgan"

481 - 492 of 572 for "Morgan"

  • THOMAS, DAVID (Dafydd Ddu Eryri; 1759 - 1822), llenor a bardd symud i fyw i'r Merddyn Coch ar dir Llwyn-celyn ef a ofalai am eu hachos yno. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy a cheir ei hanes yn pregethu gyda Siarl Marc a Thomas Evans y Waun Fawr yn y cyfarfod misol cyntaf yn Llanberis yn 1777. Bu farw yn 1831 yn 82 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn Llanberis.) Cafodd 'Dafydd Ddu' wyth mis o ysgol gyda John Morgan, curad Llanberis. Yno y cyfarfu ag Abraham Williams o'r
  • THOMAS, DAVID (bu farw 1780?), gweinidog gyda'r Annibynwyr Congregation' - tybed mai benthyg, dan log blynyddol, ond i'w faddau ar farw Thomas ? Ymhlith papurau Thomas Morgan ' Henllan y mae rhestr (NLW MS 5453C) o weinidogion yng Nghymru a fu farw ar ôl 1760. Yr olaf ond un ohonynt yw 'Mr. David Thomas of Llanedy'; ni roddir dyddiad, fel y digwydd, ond rhestr yn nhrefn amser yw hi, ac y mae enw Thomas rhwng 1779 a 1781.
  • THOMAS, DAVID ALFRED (is-iarll RHONDDA 1af), (1856 - 1918), gŵr busnes a gwleidydd hynaf, SAMUEL THOMAS (1800 - 1879), ei addysg yn y Bont-faen a daeth yn siopwr yn Merthyr Tydfil, eithr yn ddiweddarach (c. 1842) dechreuodd gloddio am lo. Priododd, yn ail wraig, Rachel, merch Morgan Joseph, peiriannydd mwynawl, Merthyr Tydfil, a chafodd drwyddi 17 o blant - David Alfred Thomas yn bymthegfed plentyn. Ganed ef 26 Mawrth 1856 yn Ysgubor-wen, Aberdâr, lle y cloddiasai Samuel Thomas a'i
  • THOMAS, EZEKIEL (1818 - 1893), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur; Ganwyd 1818, mab Morgan a Catherine Thomas, Pwll-mawr, Llansamled, Morgannwg. Prentisiwyd ef yn saer maen, ond dechreuodd bregethu yn ieuanc yng nghapel y Cwm, Llansamled. Ordeiniwyd ef yn sasiwn y Bont-faen, 1857, ond ni bu â gofal eglwys erioed. Cyfrifid ef yn feddyliwr praff, ac ymddiddorai mewn pynciau allan o'r cyffredin. Ei lyfr cyntaf oedd Daeareg Parth Gorllewinol Morganwg (Cwmafan, 1875
  • THOMAS, FREDERICK HALL (Freddie Welsh; 1886 - 1927), paffiwr ysgafnbwys y Byd. Cyflawnodd ' Welsh ' lawer camp ym myd paffio. Yn 1907 ymladdodd â thri o wrthwynebwyr mewn un diwrnod a'u gorchfygu; eu henwau oedd Evan Evans (ysgafnbwys), Charlie Weber (is-ganolbwys), a Gomer Morgan (trymbwys). Yn ddiweddarach aeth i fyw i America, a daeth yn gyfarwyddwr ar 'health farm' yn Bayside, Long Island. Yr oedd hefyd yn brif gyfarwyddwr yr adran ymarfer corff yn y ' Walter
  • THOMAS, GEORGE ISAAC (Arfryn; 1895 - 1941), cerddor a chyfansoddwr Ganwyd yn Spencer House, Llanboidy, Caerfyrddin, 29 Tachwedd 1895, yn fab i Rhys Morgan a Margaret (ganwyd Jones) Thomas. Cafodd ei addysg yng Ngholeg y Brifysgol yng Nghaerdydd, 1920-22, ac yn y Coleg Cerdd Brenhinol, 1923-26. Daeth yn A.R.C.M. fel cyfeilydd ym mis Medi 1924, ac yn A.R.C.O. ym mis Gorffennaf 1926. Pasiodd yr arholiad theori yn 1927 ond cyn cwblhau ei gwrs F.R.C.O. collodd ei
  • THOMAS, ISAAC (1911 - 2004), gweinidog (Annibynwyr) ac athro coleg . Ymddangosodd ei gyfrol Y Testament Newydd Cymraeg 1551-1620 yn 1976, a dyfarnwyd iddo radd DD Prifysgol Cymru amdani, ac yna cwblhaodd ei astudiaethau yn y maes erbyn blwyddyn dathlu pedwar canmlwyddiant cyfieithiad yr Esgob William Morgan yn 1988, Yr Hen Destament Cymraeg 1551-1620. Derbyniodd Wobr Goffa Vernon Hull gan y Bwrdd Gwybodau Celtaidd ddwy waith am y campweithiau hyn. Dywedodd yr Athro J. E
  • THOMAS, JOSEPH MORGAN (LLOYD) (1868 - 1955), gweinidog (U) a Chatholig Rhydd, a chynghorwr a dyn cyhoeddus Ganwyd 30 Mehefin 1868, yn un o wyth o blant John ac Elizabeth Thomas, Blaen-wern, Llannarth. (Mabwysiadwyd yr enw ' Lloyd ', enw morwynol ei fam, pan fu farw ei frawd o'r un enw). Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg Ceinewydd a Choleg Crist, Aberhonddu. Cwblhaodd ei brentisiaeth yn y gyfraith gyda Mri. Walter H. Morgan a Rhys, cyfreithwyr, Pontypridd. Dechreuodd ymddiddori mewn crefydd, a chenhadu
  • THOMAS, MICAH (1778 - 1853), gweinidog ac athro gyda'r Bedyddwyr Ionawr 1807 aeth i'r Fenni, i wneuthur gwaith mawr ei fywyd fel llywydd academi'r Bedyddwyr yno (a agorwyd yn 1807 ac a symudwyd i Bontypŵl pan ymddiswyddodd ef yn 1836) a gweinidog eglwys Saesneg y Bedyddwyr yn Frogmore Street. Priododd ddwywaith; ei wraig gyntaf oedd Sophia Wall, o Ross; ei ail wraig oedd Rachel, ferch John Harris o'r Gyfeilon ac ŵyres Morgan Harry, gweinidog Blaenau Gwent. Dyn
  • THOMAS, MORRIS (1874 - 1959), gweinidog (MC), llenor a hanesydd phenodwyd ef i ysgrifennu hanes henaduriaeth Llŷn ac Eifionydd, gwaith a adawyd heb ei orffen gan Henry Hughes, Bryncir. Yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun, diflasodd Morris Thomas ar y gwaith ac ar y dasg o geisio datrys nodiadau Henry Hughes, a throes y deunydd yn nofel. Hanes Methodistiaeth gynnar Llŷn yn nyddiau Morgan Gruffydd yw Toriad y Wawr. Ysgrifennodd nofel arall, Y clogwyn melyn, ond nis
  • THOMAS, NICHOLAS (bu farw 1741), argraffydd a chyhoeddwr llyfrau Yn 1714 argraffodd John Rogers yn Amwythig, Dirgelwch … sef Llyfr y Tri Aderyn (Morgan Llwyd o Wynedd) dros Nicholas Thomas a Lewis Thomas (gwerthwr llyfrau teithiol, a'i gartref yn Llangrannog, Sir Aberteifi, oedd Lewis Thomas), ac ychydig yn ddiweddarach, sef 1718, yr oedd Nicholas Thomas yn dysgu crefft argraffu yn Amwythig, naill ai yn swyddfa y John Rogers uchod neu yn swyddfa John Rhydderch
  • THOMAS, RACHEL (1905 - 1995), actores darllediad hwn a chollwyd cofnod parhaol o'i pherfformiad. Er hynny, darparodd y sgrin fach gyfle iddi droi ei llaw at bortreadu Beth Morgan o nofel Richard Llewellyn pan ymddangosodd gydag Eynon Evans yng nghynhyrchiad Dafydd Gruffydd a'r BBC o How Green Was My Valley ym 1960. Trist nodi i hwn fod yn gynhyrchiad arall a gollwyd o archifau'r BBC. Gwelir yn ystod ei gyrfa ei thuedd bersonol, a hefyd natur y