Canlyniadau chwilio

517 - 528 of 877 for "Owen"

517 - 528 of 877 for "Owen"

  • OWEN, HENRY (1844 - 1919), hynafiaethydd Ganwyd 12 Mawrth 1844, mab ieuengaf William Owen (1796-1879), U.H., D.L., ymgymerwr a saer dodrefn, Hwlffordd, a Withybush, a'i wraig Martha Hall Owen (1806-1885). Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y Bont-faen a Choleg Corpus Christi, Rhydychen (1862-6), gan raddio'n B.A. yn 1866, B.C.L. yn 1869, a D.C.L. yn 1900. Cyfreithiwr ydoedd ac ymunodd â chwmni Jenkinson Owen, cyfreithwyr yn ninas Llundain
  • OWEN, HUGH (1575? - 1642) Gwenynog,, cyfieithydd Ganwyd tua 1575 yn fab i Owen ap Hugh ap Richard, perchennog stad fechan Gwenynog ym mhlwyf Llanfflewyn, Môn. Nid oes sicrwydd iddo erioed fod mewn prifysgol, ond dywedir ei fod yn hyddysg, nid yn unig yn y gyfraith, ond mewn mwy nag un o ieithoedd tramor, ' yr hyn ni ddyscodd gan nebyn Athro arall ond efe ei hun gartref yn ei studi ei hunan.' Yn ystod chwarter cyntaf y 17eg ganrif gweithredai am
  • OWEN, Syr HUGH (1804 - 1881), cymwynaswr addysg Cymru Ganwyd 14 Ionawr 1804 yn y Foel, Llangeinwen, sir Fôn, mab hynaf Owen Owen a Mary ei wraig (merch Owen Jones). Bu dan addysg yn ysgol Evan Richardson, ac ar ôl treulio ychydig amser gartref aeth i Lundain, Mawrth 1825, a bu'n gweithio fel clerc cyfreithwyr nes iddo dderbyn swydd, 22 Chwefror 1836, fel clerc yng Nghomisiwn Deddf y Tlodion. Daeth yn brif glerc yno yn 1853, a pharhau yn y swydd pan
  • OWEN, HUGH (1639 - 1700), pregethwr Piwritanaidd ac 'apostol Meirion.' Yr oedd o'r un teulu â'r barwn Lewis Owen, y diwinydd Dr. John Owen yn berthynas pell iddo, a phrif bobl Meirionnydd ymhlith ei gydnabod a'i gyfeillion. Ymaelododd yn Rhydychen (Coleg Iesu, 1660), dechreuodd bregethu, ond distawyd ef, ag arfer gair Calamy, gan Ddeddf Unffurfiaeth 1662. Ymunodd ag eglwys Biwritanaidd Wrecsam, ac etholwyd ef yn henuriad athrawus ynddi; yn 1668 priododd Martha Brown
  • OWEN, HUGH (1761 - 1827), clerigwr a hanesydd lleol mab Pryce Owen, meddyg, Amwythig (' Pryce Owen of Bettws,' Sir Drefaldwyn, medd Richard Williams, Montgomeryshire worthies), a'i wraig Bridget, merch John Whitfield. Er mai tenau braidd ydyw cysylltiad Owen â Chymru rhaid ei gynnwys yma pe na bai ond am ei fod yn gyd-awdur (â J. B. Blakeway) A History of Shrewsbury, gwaith gwerthfawr mewn dwy gyfrol bedwarplyg, 1825, sydd o ddiddordeb i haneswyr
  • OWEN, HUGH (1832 - 1897), cerddor Ganwyd 15 Ionawr 1832 ym Motwnnog, Sir Gaernarfon, mab Richard a Mary Owen. Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Botwnnog. Crydd ydoedd wrth ei alwedigaeth, ac ymsefydlodd yn Nhalysarn, Dyffryn Nantlle, i ddilyn ei alwedigaeth. Wedi priodi aeth i fyw i Pen-yr-yrfa, ac wedi hynny i Brynycoed. Mynychai yr Eglwys, ond oherwydd ei ddawn gerddorol penodwyd ef yn arweinydd canu yng nghapel Methodistiaid
  • OWEN, HUGH (1880 - 1953), hanesydd Ganwyd 8 Mai 1880 yn Niwbwrch, Môn, yn fab i Hugh a Jane Owen. Symudodd y teulu i Aigburth, Lerpwl, yn 1883. Addysgwyd ef yn ysgolion S. Michael's Hamlet ac Oulton, a Phrifysgol Lerpwl. Wedi derbyn tystysgrif dysgu yn 1901 bu'n athro hanes mewn ysgolion yn Llundain, Lerpwl a Threffynnon cyn ei benodi'n bennaeth yr adran hanes yn ysgol Llangefni yn 1918, swydd y parhaodd ynddi nes iddo ymddeol yn
  • OWEN, HUGH - gweler HUGHES, JOHN
  • OWEN, HUGH JOHN (1880 - 1961), cyfreithiwr, awdur a hanesydd lleol Ganwyd 5 Chwefror 1880 ym Mhwllheli, Caernarfon, yn fab i John Owen, master mariner, a'i wraig Elizabeth (ganwyd Hughes). Addysgwyd ef yn ysgol ramadeg y Bala. Ar ôl cwblhau ei dymor erthyglau gyda chwmni Robyns-Owen, Pwllheli, a'i dderbyn yn gyfreithiwr yn 1903, ymunodd ag adran gyfreithiol cyngor sir Llundain. Gwasanaethodd gartref ac yng ngwlad Groeg gyda'r R.A.O.C. yn Rhyfel Byd I ac enillodd
  • OWEN, HUMPHREY (1702 - 1768), llyfrgellydd Bodley, a phennaeth Coleg Iesu, Rhydychen Ganwyd yn 1702 yn fab i Humphrey Owen, Gwaelod, Nant-y-meichiaid, Meifod; ymaelododd yng Ngholeg Iesu 17 Tachwedd 1718 yn 16 oed; graddiodd yn 1722 (D.D. 1763); etholwyd ef yn gymrawd yn 1725. Cafodd reithoraeth Tredington (Worcs) yn 1744, a daliodd hi hyd 1763, serch ei ethol yn llyfrgellydd Bodley fis Tachwedd 1747. Etholwyd ef yn bennaeth ei goleg fis Mai 1763, a chafodd hefyd gan y coleg
  • OWEN, HUW PARRI (1926 - 1996), athronydd a diwinydd Ganwyd yng Nghaerdydd, 30 Rhagfyr 1926. Ei hanner-chwaer oedd y gyfansoddwraig, Morfydd Llwyn Owen. Addysgwyd ef yn Cardiff High School a Choleg Iesu, Rhydychen, lle graddiodd mewn Litterae Humaniores a Diwinyddiaeth. Fe'i hordeiniwyd gan eglwys y Methodistiaid Calfinaidd ar ei apwyntiad yn Athro'r Testament Newydd yn y Coleg Diwinyddol Unedig, Aberystwyth, yn 1949. Yn 1953 symudodd i Goleg y
  • OWEN, IEUAN TUDUR - gweler OWEN, IFAN TUDUR