Canlyniadau chwilio

529 - 540 of 877 for "Owen"

529 - 540 of 877 for "Owen"

  • OWEN, IFAN (IEUAN) TUDUR (bu farw 1625?), bardd a bonheddwr
  • OWEN, Syr ISAMBARD (1850 - 1927), ysgolhaig o feddyg, a saernïwr prifysgolion Ganwyd yng Nghasgwent 28 Rhagfyr 1850, i William George Owen, peiriannydd o fri, disgybl i Isambard Brunel, ac un o brif ddynion y G.W.R. Aeth i ysgolion Caerloyw a Rossall, graddio yng Nghaergrawnt (1872), a throi at astudiadau meddygol yn ysbyty S. George's, Llundain, lle y tyfodd yn awdur ac arbenigwr, yn ddarlithydd, deon, a cheidwad yr amgueddfa, a myned mor bell â chyfleu cynllun i sefydlu
  • OWEN, JAMES (1654 - 1706), gweinidog ac athro Ymneilltuol, a diwinydd Ganwyd 1 Tachwedd 1654 yn y Bryn (Brynmeini), Abernant, Caerfyrddin, yn ail fab i John Owen. Yr oedd ei fam (na wyddys mo'i henw) yn nith i'r esgob Thomas Howell ac i'r llythyrwr James Howell; ei thref-tad hi oedd y Bryn, a berthynai i'w thaid Thomas Howell, ficer Cynwyl Elfed ac Abernant a chyn hynny curad Llangamarch - llithrodd Ant. Wood gan ddweud mai yn y Bryn, Abernant, y ganed James Howell
  • OWEN, JEREMY (fl. 1704-44), gweinidog Presbyteraidd ac awdur Mab David John Owen o'r Bryn, Abernant, Caerfyrddin (1651? - 1710), ac felly nai i James Owen ac i Charles Owen. Bu'r tad (a breswyliai ym Mhwllhwyaid) am amser maith yn henuriad athrawiaethol yng nghynulleidfa Henllan Amgoed, cyn ei urddo'n fugail arni tua 1705. Fel ei frawd James, yr oedd ef yn dilyn Baxter yn ei ddiwinyddiaeth, ac yn Bresbyteraidd ei syniadau ar drefn eglwysig. Ond yr oedd yn
  • OWEN, JOHN (1698 - 1755), canghellor eglwys Bangor Ganwyd yn Llanidloes yn 1698 yn fab i Pierce Owen; yn ôl Foster (Alumni Oxonienses), ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, fel ' John Owens,' 21 Mawrth 1718/9, yn 21 oed, ond annhebyg i'r eithaf yw cynnig Foster iddo raddio yn 1722 dan yr enw ' Joseph Owen.' I'r gwrthwyneb, yng nghofnodion A. Ivor Pryce (The Diocese of Bangor during Three Centuries), ni roddir gradd o gwbl iddo yn 1723; eithr
  • OWEN, JOHN (1757 - 1829), ysgrifennwr ar bynciau crefyddol Methodistiaid Calfinaidd. Heblaw'r uchod, cyhoeddodd John Owen Difrifol Ystyriaeth, 1789; Tair Cerdd Newydd, 1795; a Golygiad ar Athrawiaeth y Drindod ac ar Berson Crist, 1820. Ŵ yr iddo oedd D. C. Lloyd-Owen.
  • OWEN, JOHN (1733 - 1776), pregethwr cyntaf Methodistiaid sir y Fflint Clwyd. Ar 22 Rhagfyr 1763 priododd â Mary Edwards, Plas Llangwyfan, ac aethant i fyw i'r Berthen Gron yn ei blwyf genedigol, ac yn fuan agorwyd y tŷ i'r diwygwyr o'r Deheudir. Yr oedd Mary Owen yn wraig anghyffredin; aeth ar ei merlen saith o weithiau i Langeitho, pellter o dros 200 milltir yn ôl a blaen, i geisio pregethwyr i ddod i'r Berthen a Dyffryn Clwyd. Yn 1766 dechreuodd John Owen bregethu
  • OWEN, JOHN (1564? - 1628?), epigramydd mab Thomas Owen, Plas Du, Llanarmon, Sir Gaernarfon (gweler yr ysgrif ar y teulu). Yr oedd yn 'ysgolor' yng Ngholeg Winchester yn 1577, ymaelododd yn New College, Rhydychen, yn 1582, a daeth yn ' jurist fellow ' o'r coleg yn 1584; cymerodd radd B.C.L. yn 1590. Bu'n athro ysgol yn Trelech, sir Fynwy, hyd 1595, pryd y daeth yn bennaeth ysgol Warwick. Er i'w ddeg llyfr o epigramau gael eu cyhoeddi
  • OWEN, JOHN (1616 - 1683), diwinydd Piwritanaidd (Annibynnwr) 'Gyda Baxter a Howe, saif ar flaen y diwinyddion Piwritanaidd'. Ganwyd yn 1616, a bu farw 24 Awst 1683. Adroddir ei yrfa'n llawn yn y D.N.B., ond nid oes a fynno hi ddim â Chymru, ond yn yr ystyr mai ar weithiau diwinyddol John Owen y magwyd cenedlaethau o bregethwyr Calfinaidd enwocaf Cymru. Ond yr oedd gwaed Cymreig ynddo. Mab oedd ef i Henry Owen, ficer Stadhampton (swydd Rhydychen), ŵyr felly
  • OWEN, JOHN (bu farw 1759), bardd, telynor, llythyrwr nai i Forrisiaid Môn (mab i'w chwaer Ellen a'i phriod Owen Davies); ganwyd, yn ôl pob tebyg, yng Nghaergybi yn ystod tridegau cynnar y 18fed ganrif (y mae'r cofnodion plwyfol cyn 1737 ar goll). Pan oedd yn fachgen ifanc aeth i fyw at Lewis Morris yng Ngheredigion a bu'n cynorthwyo ei ewythr yno, ac wedi hynny yn Llundain, gyda'r ymgymeriadau diwydiannol a'i helbulon cyfreithiol. Eithr oerodd y
  • OWEN, JOHN (1788 - 1867), clerigwr ac awdur Ganwyd yn 1788 yn fab Owen ac Elinor Owen, Cilirwysg, Llanfihangel Ystrad, Sir Aberteifi - y rhieni yn aelodau gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Cymerth dau o'r meibion urddau eglwysig (sef John a David Owen). Aeth John i ysgol Ystrad Meurig, i'w addysgu gan John Williams ('Yr hen Syr'). Ordeiniwyd ef yn Llanelwy gan yr esgob Cleaver; diacon 1811, offeiriad 1812. Bu'n gurad i ddechrau yn Hirnant
  • OWEN, JOHN (1807 - 1876) Tyn-llwyn,, gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac ysgrifennwr ar amaethyddiaeth Ganwyd 1 Awst 1807 yn y Gwindy, Llecheiddior, Eifionydd, yn fab i William Owen a'i wraig Margaret, nith i Robert Jones, Rhoslan. Dechreuodd ddarllen yn fore ac yn helaeth, a sgrifennai'n gynnar i Seren Gomer ym mhlaid rhyddfreinio'r Pabyddion. Bu mewn amryw ysgolion, gan gynnwys ysgol Evan Richardson ym Mrynengan, ac ysgol yng Nghaerlleonfawr, lle y bu'n gyd-ddisgybl ac yn gyfaill i 'Glan Alun