Canlyniadau chwilio

529 - 540 of 703 for "Catherine Roberts"

529 - 540 of 703 for "Catherine Roberts"

  • ROBERTS, RICHARD (1823 - 1909), gweinidog Wesleaidd ). Ymneilltuodd yn 1885 ac ymsefydlu yn South Hampstead, Llundain, lle bu farw 28 Tachwedd 1909. Priododd (i) S. Sophia Neville Broom, Llanelli, a bu iddynt blant; (ii) Hannah Elsworth, Llundain. Pregethwr huawdl ac angerddol ydoedd R. Roberts uwchlaw pob dim arall - cyfrifid ef yn un o bregethwyr mwyaf poblogaidd ei gyfnod. Bu galw parhaus amdano ar hyd ei yrfa i wasanaethu mewn cylchwyliau a chynnal
  • ROBERTS, RICHARD (Gruffydd Rhisiart; 1810 - 1883), llenor a phregethwr gyda'r Annibynwyr Ganwyd 5 Tachwedd 1809 yn y Diosg, Llanbrynmair, mab ieuengaf John Roberts (1767 - 1834). Addysgwyd ef yn ysgol ei dad a dygwyd ef i fyny yn amaethwr, ac ef a fu â gofal y tyddyn gan mwyaf, ond fel ei frodyr 'S.R.' a 'J.R.' ymddiddorai gryn lawer mewn llenora. Brithid cylchgronau'r cyfnod, yn arbennig y Cronicl (a olygid gan ei frodyr), gan ysgrifau a chaneuon o'i eiddo. Yn 1855 cyhoeddodd nofel
  • ROBERTS, RICHARD (Bardd Treflys; 1818 - 1876) Mab Thomas Roberts, Garthmorthin, Treflys, rhwng Porthmadog a Chricieth, Sir Gaernarfon - yr oedd o deulu ' Dafydd y Garreg Wen.' Pan oedd tuag 20 oed aeth i fyw gyda'i ewythr Griffith Roberts, yn y Tŷ Mawr, Treflys, ac yno y treuliodd ei oes, yn ddibriod. Yr oedd yn aelod selog o gymdeithas lenyddol Cefn-y-meusydd - gweler Owen, Ellis. Bu farw 19 Mehefin 1876 a chladdwyd ef ym mynwent eglwys
  • ROBERTS, RICHARD (Y Telynor Dall; 1769 - 1855)
  • ROBERTS, RICHARD (GWYLFA; 1871 - 1935), gweinidog gyda'r Annibynwyr, a bardd Ganwyd 24 Mai (yn ôl y cofnod, ganddo ef ei hun mae'n debyg, yn Who's Who in Wales; dywed rhai ysgrifau coffa mai 22 Mai) 1871 ym Mhenmaenmawr, yn fab i Richard ac Ellen Roberts. Bu yn ysgol Botwnnog ac yng Ngholeg Bala-Bangor (1892). Aeth yn fugail i'r Felinheli yn 1895; o 1898 hyd ei farwolaeth, bu'n fugail y Tabernacl yn Llanelli. Yr oedd yn bregethwr poblogaidd, ac yn llenor prysur
  • ROBERTS, RICHARD ARTHUR (1851 - 1943), archifydd a golygydd Ganwyd 13 Mai 1851 yng Nghaerfyrddin yn fab i J. N. Roberts a Margaret (née Jones), ei wraig. Addysgwyd ef mewn ysgolion preifat, ac yn 1872 penodwyd ef yn glerc ar staff yr Archifdy Gwladol yn Llundain. Yn 1879 gwnaed ef yn fargyfreithiwr o'r Inner Temple. Dyrchafwyd ef i fod yn geidwad cynorthwyol yn yr Archifdy Gwladol yn 1903, ac o 1912 hyd nes iddo ymddeol yn 1916 ef oedd y prif geidwad
  • ROBERTS, ROBERT (1777 - 1836), almanaciwr ac argraffydd Ganwyd 1777, yn fab i John Roberts ('Siôn Robert Lewis'), Caergybi. Dilynodd ei dad fel cyhoeddwr a golygydd almanaciau poblogaidd Caergybi, o dan y teitlau Cyfaill Glandeg, Cyfaill Taeredd, etc., o 1805 hyd 1837. Argraffwyd y rhain gan John Jones o Drefriw gyda ffugargraffnod Dulyn arnynt er mwyn osgoi treth y Llywodraeth. Cyhoeddodd hefyd Eurgrawn Môn, neu y Drysorfa Hanesyddol, 1825-6, a
  • ROBERTS, ROBERT (1774 - 1849), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, ac emynydd , Rhosllannerchrugog; rhoes yntau ei grefft i fyny, ac fel ' Robert Roberts, Rhosllannerchrugog,' y cofir ef. Yr oedd yn bregethwr athronyddol ei naws, meddai Roger Edwards, a dug hynny ef i gryn helynt (yng nghwmni gwŷr fel John Jones o Dalsarn, John Hughes (1796 - 1860), a Morris Roberts (Remsen) yn y dadleuon diwinyddol yng nghyfarfod misol Sir y Fflint o tua 1828 hyd 1841; nid oedd ei lymder personol ef ei hunan
  • ROBERTS, ROBERT (Bob Tai'r Felin'; 1870 - 1951), canwr cerddi gwerin Ganwyd 1 Medi 1870 yn Nhai'r Felin, Cwmtirmynach, Bala, Meirionnydd, yn fab o briodas Cadwaladr Roberts, Tai'r Felin, â Betsi Rowlands, Cae Gwernog, Capel Celyn. Dilynodd grefft ei dad gartref fel melinydd a ffermwr. Ymbriododd ag Elizabeth Jane Roberts, o fferm y Fron-goch gerllaw, a magasant dri o blant. Yng nghapel Presbyteraidd Cwmtirmynach bu'n codi canu am gryn hanner can mlynedd, yn athro
  • ROBERTS, ROBERT (1800 - 1878), ysgolfeistr a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd yn ymyl Tre'r Ddôl, Llangynfelyn, 1800, mab John a Beti Roberts, ond yng Nglandŵr ger Gogerddan y magwyd ef. Addolai'r teulu ym Mhenygarn. Addysgwyd ef yn Llanfihangel-genau'r-glyn, mewn ysgol ramadeg leol o fri a gedwid gan yr athro gorau o blith ysgolheigion Ystrad Meurig. Yno y meistrolodd y clasuron. Bu am gyfnod yn athro ysgol yn Staines, lle y perffeithiodd ei Saesneg; ymaelododd yn
  • ROBERTS, ROBERT (Y Sgolor Mawr; 1834 - 1885), clerigwr a llenor Ganwyd 12 Tachwedd 1834, mab Owen Roberts a Mary ei wraig, o'r Hafod Bach, Llanddewi, sir Ddinbych. Aeth i'r Bala at Lewis Edwards yn 1847 am beth addysg, ac yna i sir Fôn yn athro preifat (1849-51) cyn mynd i'r coleg hyfforddi yng Nghaernarfon. Ar ôl dwy flynedd yno, bu'n dysgu yng Nghastell Caer Einion, Llanllechid (1853), Amlwch, a Rhuthyn (1855), ac yna aeth i Goleg S. Bees (Awst 1857) i
  • ROBERTS, ROBERT (1762 - 1802), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 12 Medi 1762, mab Robert Thomas a Catherine Jones, y Ffridd, Baladeulyn. Aeth yn fachgen i weithio i chwarel y Cilgwyn. Er bod cadw ysgol Sul ac ymgynnull i addoli yn ei gartref, yr oedd bryd Robert ar oferedd. Pan oedd tuag 16 oed ducpwyd ef gan ei frawd John (1753 - 1834) i oedfa gan David Jones o Lan-gan yng nghapel Brynrodyn, a newidiodd ei gwmni a'i ffordd o fyw. Gadawodd y chwarel