Canlyniadau chwilio

553 - 564 of 703 for "Catherine Roberts"

553 - 564 of 703 for "Catherine Roberts"

  • ROBERTS, THOMAS (1835 - 1899), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd yn y Green, ger Dinbych, 19 Awst 1835, mab John a Jane Powel Roberts. Bu am ychydig yn ysgol Jonah Lloyd, pregethwr gyda'r Annibynwyr; yna am flwyddyn yn was ar ffarm ei ewythr, y Tŷ Draw, ger yr Wyddgrug. Wedi hynny aeth i Ysgol Frutanaidd yn Ninbych. Bu'r athro, Macaulay, yn garedig wrtho. Prentisiwyd ef yn swyddfa Thomas Gee. Bu yno 1850-9, yn gysodydd i gychwyn, yna'n gynorthwywr i Gee
  • ROBERTS, THOMAS (1884 - 1960), addysgwr ac ysgolhaig Ganwyd 26 Rhagfyr 1884 yn y Pandy, Llanuwchllyn, Meirionnydd, yn fab i John Roberts. Addysgwyd ef yn ysgol Llanuwchllyn, ysgol sir y Bala a Choleg y Brifysgol, Bangor. Cafodd radd B.A. gydag anrhydedd yn y Gymraeg yn 1907, a gradd M.A. yn 1910. Bu'n athro ysgol yn Abertyswg, Mynwy, 1907-08, ac mewn ysgol yn Llundain 1908-10. Yna penodwyd ef yn athro Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg yn y Coleg Normal
  • ROBERTS, THOMAS (Scorpion; 1816 - 1887), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd yn Ninbych, bedyddiwyd 25 Awst 1816, mab Harri Roberts, gŵr o hunan-ddiwylliant nodedig a dreuliodd gryn 20 mlynedd yn y fyddin. Prin fu manteision addysg 'Scorpion' ar y dechrau; bu mewn ysgol a gedwid gan 'Caledfryn' (William Williams) yng nghapel y Methodistiaid Calfinaidd, ond casglwn mai ei dad fu ei brif hyfforddwr gan iddo golli ei fam ac yntau'n ddim ond 12 oed. Bu am ysbaid yn
  • ROBERTS, THOMAS (bu farw c. 1775), Bedyddiwr cyntaf ym Môn
  • ROBERTS, THOMAS (1765/6 - 1841) Llwyn-'rhudol,, pamffledwr Mab William Roberts, Llwyn'rhudol, ym mhlwyf Abererch, Sir Gaernarfon, twrnai, a Jane ei wraig. Bedyddiwyd ef, yn breifat, ar 16 Awst 1767, eithr, gan y dywedir ei fod yn 76 oed pan fu farw ar 24 Mai 1841, ymddengys iddo gael ei eni yn 1765 neu yn 1766. Claddwyd ei dad ar 16 Ionawr 1778. Dywed Thomas Roberts iddo fynd i Lundain cyn bod yn 14 oed (h.y. o fewn blwyddyn ar ôl marw ei dad). Y mae'n
  • ROBERTS, THOMAS (1760 - 1811), argraffydd Ni wyddys i sicrwydd ymhle y ganwyd ef, ond bu yn Nhrefeca, a chymysgir ef yn fynych â'r Thomas Roberts sydd yn yr ysgrif a flaen hon. Aeth i Gaernarfon yn 1796, ac ymddengys iddo ddechrau argraffu yno yn 1797. Argraffodd, yn 1800, rifyn o Greal, neu Eurgrawn, yr unig ran a ymddangosodd o'r cylchgrawn hwnnw. Yn 1807 efe oedd argraffydd cylchgrawn arall - Trysorfa Gwybodaeth, neu Eurgrawn Cymraeg
  • ROBERTS, THOMAS (1735 - 1804), aelod o Deulu Trefeca Ganwyd yn y Plas Bach, Llansantffraid Glan Conwy, 31 Mawrth 1735, yn drydydd mab i WILLIAM ROBERTS, rhydd-ddeiliad a argyhoeddwyd yn 1748 gan Peter Williams ac a lynodd wrth Howel Harris yn ymraniad 1750 - gymaint felly nes galw ei fab Thomas adref o wasanaeth yn nhref 'Rowlandaidd' y Bala. Yn 1759, gadawodd William Roberts ei diroedd yng Nglanconwy i'w feibion hynaf, ac aeth ef a'i wraig a'i
  • ROBERTS, THOMAS FRANCIS (1860 - 1919), prifathro Coleg y Brifysgol, Aberystwyth Ganwyd yn Aberdyfi 25 Medi 1860, mab hynaf Thomas Roberts, sersiant yn yr heddlu ac Anne ei wraig. Cafodd ei addysg yn Nhywyn ac yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac yn 1879 enillodd ysgoloriaeth i Goleg S. Ioan, Rhydychen. Cafodd anrhydedd yn y dosbarth cyntaf yn yr arholiad cyntaf (1881) a'r ail (1883) yn y clasuron, a graddio yn 1883. Ar derfyn ei dymor yn Rhydychen penodwyd ef yn
  • ROBERTS, THOMAS OSBORNE (1879 - 1948), cerddor Ganwyd 12 Chwefror 1879 yn Weston Rhyn, ger Croesoswallt, mab Evan Thomas a Hephsibah Roberts. Yn 1890 symudodd y rhieni i Ysbyty Ifan, sir Ddinbych i gadw siop. Cafodd ei addysg yn ysgol sir, Llanrwst, ac wedi hynny yn y Salop School, Oswestry, ysgol sir Porthmadog, a choleg y Brifysgol, Bangor. Wedi ei gwrs addysg prentisiwyd ef yn swyddfa breifat ystad y milwriad Barnes yn y Waun, ac yno y
  • ROBERTS, THOMAS ROWLAND (Asaph; 1857? - 1940), cofiannydd
  • ROBERTS, WILLIAM (1585 - 1665), esgob Bangor Ganwyd yn Maes Maen Cymro, Llanynys, mab Symon Roberts a Sisle, merch Edward Goodman, Rhuthyn. Aeth i Goleg Queens, Caergrawnt, Pasg 1605, a graddio'n B.A. yn 1609, M.A. yn 1612, B.D. yn 1621, D.D. yn 1626, a dyfod yn gymrawd ei goleg, 1611-30. Ordeiniwyd ef yn Peterborough yn 1616, a daeth yn brebendari Lincoln ac yn is-ddeon Wells, 1619-38. Trwy ddylanwad Laud, gŵr y cydolygai Roberts ag ef
  • ROBERTS, WILLIAM (1809 - 1887), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, golygydd, ac awdur