Canlyniadau chwilio

577 - 588 of 703 for "Catherine Roberts"

577 - 588 of 703 for "Catherine Roberts"

  • ROBERTS, WILLIAM JOHN (Gwilym Cowlyd; 1828 - 1904), bardd, argraffydd, llyfrwerthwr, llyfrbryf, a gŵr hynod Ganwyd yn Trefriw, Sir Gaernarfon ym 1828, yn fab i John Roberts, Tyddyn Gwilym. Yr oedd yn nai i 'Ieuan Glan Geirionydd.' Sefydlodd Orsedd Geirionydd (1863) mewn gwrthwynebiad i Orsedd Beirdd Ynys Prydain, a honnai ef oedd yn sefydliad gau. O dan ei lywodraeth ef, fel 'Prif Fardd Pendant,' cynhelid arwest Glan Geirionydd, gwrth-eisteddfod, gyda'i gorsedd ei hun, bob blwyddyn yn yr awyr agored ar
  • ROBERTS, WILLIAM JOHN (1904 - 1967), gweinidog (Methodist Wesleaidd) ac eciwmenydd Ganwyd W. J. Roberts 7 Rhagfyr 1904 yn 27 Y Sgwâr, Blaenau Ffestiniog, Meirionnydd, yr hynaf o dri phlentyn William Roberts, chwarelwr, a'i wraig Ellen Jones. Cyhoeddodd ei daid, William Roberts, Maentwrog, yntau'n chwarelwr, a fuasai'n bregethwr lleyg adnabyddus gyda'r Wesleaid, gasgliad o'i bregethau dan y teitl Cyfraith y Ty (1905). Addysgwyd W. J. (fel y câi ei adnabod trwy ei fywyd) yn ysgol
  • ROBERTS, WILLIAM MORGAN (1853 - 1923), cerddor Ganwyd Hydref 1853 yng Nghwm Rhiwaith ger Llangynog, Sir Drefaldwyn, mab Robert a Margaret Roberts. Hanoedd o deulu cerddorol; ysgrifennodd ei daid werslyfr ar gerddoriaeth, a pherthynai ei dad i seindorf bres. Bu'r teulu'n byw yng Nghorwen ac wedi hynny yn Wrecsam, ac ymroddodd yntau i ddysgu cerddoriaeth. Cafodd wersi gan David Jenkins a ' Pencerdd Gwynedd ' (J. H. Roberts), a dysgodd ganu'r
  • ROBERTS, WILLIAM RHYS (1858 - 1929), athro Groeg Ganwyd 11 Gorffennaf 1858 yn Wimbledon, mab y Parch. J. Gwilym Roberts. Cafodd ei addysg yn y City of London School a Choleg y Brenin, Caergrawnt, lle'r enillodd amryw o brif wobrau clasurol y brifysgol; bu'n gymrawd o'r coleg hwn, 1882-8. Bu'n athro Groeg yng Ngholeg y Gogledd, Bangor, 1884-1904, ac athro'r clasuron ym Mhrifysgol Leeds, 1904-22. Hoffai ddyfynnu diarhebion Cymraeg yn ei
  • ROCH, WALTER FRANCIS (1880 - 1965), gwleidydd a thirfeddiannwr Ganwyd 20 Ionawr 1880 yn ail fab i William Francis Roch, Y.H., Butter Hill, Penfro (bu farw 1889) ac Emily Catherine (bu farw 1938), ail ferch Walter R.H. Powell, Maesgwynne, Llanboidy, Sir Gaerfyrddin, yr aelod seneddol (Rh.) dros sir Gaerfyrddin, 1880-85, a Gorllewin y sir, 1885-89. Addysgwyd ef yn Harrow. Yn 1908, ac yntau'n 28 oed, cafodd ei ethol yn aelod seneddol (Rh.) dros sir Benfro, a
  • RODERICK, JOHN (1673 - 1735), almanaciwr, gramadegwr, bardd, ac eisteddfodwr 1726. Ysgrifennodd lawer o farddoniaeth ei hunan, e.e. marwnad Huw Morys o Bontymeibion, ac amryw eraill sydd yn aros mewn llawysgrifau. Cyhoeddodd 'bapurlen' ar rifyddeg tuag 1716. Dichon mai hon oedd y drafodaeth Gymraeg gyntaf ar rifyddeg ond nid oes copi ar gael. Cyfeirir ati yn John William Thomas, (1805 - 1840), Elfennau rhifyddiaeth (Caerfyrddin, 1832), 6, a John Roberts (1731 - 1806
  • ROOS, WILLIAM (1808 - 1878), peintiwr portreadau ac ysgythrwr ), a R. W. Price (Rhiwlas), yn ogystal ag amryw o'i ysgythriadau, yng nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol. Cynigiodd ei ddarlun olew o Christmas Evans i'r Parch. William Roberts ('Nefydd') yn 1870 am ddwy bunt. Bu farw yn Amlwch, 4 Gorffennaf 1878.
  • ROWLAND, DAVID (1795 - 1862), gweinidog hynod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd yn y Bala yn 1795 (bedyddiwyd 11 Mehefin), yn fab i David Rowland 'y trumpeter ' a'i wraig Jane Roberts, Cwmtylo, Llanuwchllyn; chwaer iddo oedd mam 'Ioan Pedr' (John Peter). Wedi marw ei fam ac yntau'n blentyn, magwyd ef yng Nghwmtylo gan ei nain. Bu am ysbeidiau mewn ysgolion, gan gynnwys ysgol yr Hen Gapel yn Llanuwchllyn, ond ar y fferm y bwriodd y rhan fwyaf o'i amser. Dygwyd ef at
  • ROWLANDS, JANE HELEN (Helen o Fôn”; 1891 - 1955), ieithydd, athrawes a chenhades (gyda'r MC) Charles Williams yn drwm ar Helen. Mynychai'r holl oedfaon ac ennill gwobrau yn yr arholiad sirol. O ysgol ramadeg Biwmares enillodd ysgoloriaeth i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru gan ymaelodi ym mis Hydref 1908. Cyfeiria Dr. Kate Roberts, a gyd-oesai â hi, at ei 'gallu anarferol'. Enillodd radd dosbarth I mewn Ffrangeg a dyfarnwyd Ysgoloriaeth George Osborne Morgan iddi i'w galluogi i fynd i Goleg
  • SALUSBURY, Syr CHARLES JOHN (1792 - 1868), clerigwr a hynafiaethydd Ganwyd yn 1792, mab Robert Salusbury (wedi hynny, sef yn 1795, Syr Robert Salusbury, barwnig) a'i wraig Catherine Vaun, aeres Llanwern, sir Fynwy. O ochr ei dad yr oedd yn disgyn o ail briodas Catherine o'r Berain. Dilynodd ei frawd, Syr Thomas Robert Salusbury, ail farwnig, yn 3ydd barwnig yn 1835. Yr oedd yn llenor ac yn hynafiaethydd, yn cymryd diddordeb arbennig yn hanes sir Fynwy. Y mae yn
  • SAUNDERS, DAVID (Dafydd Glan Teifi; 1769 - 1840), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, bardd, a llenor yntau yng nghapel Seion, 12 Medi 1837, yn 10 mis oed; (2), 9 Mehefin 1829, Catherine Joseph, gwraig weddw arall, o Ferthyr Tydfil (bu farw 1841?). Y mae ei ewyllys (dyddiwyd 29 Mawrth 1838), profwyd 30 Mawrth 1840), yn sôn am dai o'i eiddo yn Merthyr Tydfil, ac yn cyfeirio at ei wraig Catherine, ei frawd John, ei fab Thomas ('who is missing and reputed to be dead'), ei chwiorydd Mary, Sarah, Elinor
  • SHAND, FRANCES BATTY (c.1815 - 1885), gweithiwr elusennol Ganwyd Frances Batty Shand tua 1815 yn Jamaica yn ferch i John Shand (c.1759-1825), perchennog planhigfa o swydd Kincardine yn yr Alban, a Frances Brown (bu f. 1841) o St Catherine, Jamaica. Disgrifiwyd Frances Brown gan Shand fel 'benyw rydd o liw'. Yr oedd hi'n cadw tŷ iddo, a hefyd yn fam i ddeg o'i blant. Ganwyd pob un o'r deg yn St Catherine; Frances oedd yr ieuengaf ohonynt. Yn 1814