Canlyniadau chwilio

553 - 564 of 1877 for "Mai"

553 - 564 of 1877 for "Mai"

  • GRUFFYDD, WILLIAM JOHN (1881 - 1954), ysgolhaig, bardd, beirniad a golygydd damcaniaeth John Rhys mai o'r cwpled elegeiog Lladin y tarddodd yr englyn unodl union (yn groes i farn J. Morris-Jones yn Cerdd Dafod). Yn 1931 ymddangosodd Y Flodeugerdd Gymraeg, sef detholiad o gerddi rhydd o'r cyfnod rhwng yr 17eg ganrif a'r 20fed ganrif. Y mae'r rhagymadrodd yn ddiddorol am ei fod yn egluro cryn lawer ar syniad y golygydd am hanfod barddoniaeth. Cyhoeddwyd dwy ddarlith ganddo ar ffurf
  • GRYFFYTH, JASPER (bu farw 1614), clerigwr warden ysbyty Rhuthyn, caplan yr archesgob Bancroft, casglwr llawysgrifau Ni wyddys ddim manylion am ddechrau ei yrfa nac am ei gwrs addysg. Ymddengys mai brodor o Gegidfa, ger y Trallwng, ydoedd; yr oedd ganddo eiddo yno, a gadawodd arian i dlodion y plwyf hwnnw i'w rhannu gan ei frawd Robert. Yr oedd yn ŵr o ddysg ac ysgrifennai ei enw mewn llythrennau Hebraeg yn ei lawysgrifau. Daeth o dan nawdd Gabriel Goodman, deon Westminster, sefydlydd ysbyty Crist, Rhuthyn, a
  • teulu GUEST, meistri gweithydd haearn a glo, etc. cyfarfodydd ym mis Mai y flwyddyn honno gyda'r bwriad o adeiladu neuadd drefol a fyddai'n deilwng o dref mor bwysig ac yn gwahodd tanysgrifiadau, addawodd Guest gyfrannu £1,000 i'r gronfa. Yn ystod ei flynyddoedd olaf, yn Canford Manor, swydd Dorset, yr oedd Guest yn byw, ond pan oedd angau'n agosáu dychwelodd i Ddowlais, ac yno y bu farw ac y claddwyd ef.
  • GUEST, y FONESIG CHARLOTTE ELIZABETH (1812 - 1895), cyfieithydd, gwraig busnes a chasglydd Ganwyd Charlotte Guest, merch Albermarle Bertie, 9fed Iarll Lindsey a'i ail wraig, Charlotte Susanna Elizabeth (gynt Layard), ym Mhlas Uffington, swydd Lincoln, ar 19 Mai 1812. Bu farw ei thad pan oedd yn chwe blwydd oed ac ailbriododd ei mam. Derbyniodd ei haddysg gartref a daeth gallu'r Fonesig Charlotte i astudio am gyfnodau hir a'i dawn at ieithoedd yn amlwg yn gynnar gan ei gwneud yn wahanol
  • GUTUN OWAIN, uchelwr Uchelwr o blwyf Dudlust ym maenor y Traean yn arglwyddiaeth Croesoswallt; perchen tir yn y plwyf nesaf hefyd, sef Llanfarthin - dywedir mai yn eglwys y plwyf hwnnw y claddwyd ef. Yr oedd yn ddisgybl yng nghelfyddyd cerdd dafod i Dafydd ab Edmwnd. Tyfodd yn bencerdd, ac nid rhyfedd iddo ganu'n orchestol, megys ei feistr yntau, ar fesurau celfydd. Daeth yn ysgolhaig ac yn achwr o fri hefyd, a
  • GWALCHMAI ap MEILYR (fl. 1130-80), bardd o Fôn, un o'r cynharaf o'r Gogynfeirdd ceir tystiolaeth mai mab oedd Gwalchmai i Feilyr, pencerdd Gruffudd ap Cynan (The Myvyrian Archaiology of Wales, 144B 16-17 - 'Arddwyrews fy nhad [e]i fraisg frenhindad'). Profir i Walchmai ddechrau canu cyn 1132 gan y ddau gyfeiriad ganddo at ei foliant i Gadwallawn fab Gruffudd ap Cynan a fu farw'r flwyddyn honno. Yn un o'r awdlau i Owain Gwynedd ceir cyfeiriadau at ymgyrchfeydd y tywysog hwnnw yn
  • GWALCHMAI, HUMPHREY (1788 - 1847), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd - na chymysger ef â'r bardd ' Gwalchmai ' (Richard Parry, 1803 - 1897). Ganwyd 14 Ionawr 1788, yn fab i Edward Gwalchmai (1757 - 1799), Dolgar, Llanwyddelan - treftadaeth sylweddol a fu ym meddiant y teulu am bedair cenhedlaeth. Dechreuodd weithio'n fore gyda chrefydd, yn enwedig gyda'r ysgol Sul; codwyd ef yn flaenor yn 17 oed, a dechreuodd bregethu 'n 19, er mai ail iaith oedd y Gymraeg iddo
  • GWENFFREWI (fl. gynnar yn y 7fed ganrif), santes Yr unig sylfaen i'w hanes ydyw'r traddodiadau sydd wedi eu corffori mewn 'bucheddau' yn perthyn i'r 12fed ganrif. Dywedir mai brodor o Degeingl (Sir y Fflint bellach) oedd Tevyth, ei thad; yn ôl achau diweddar yr oedd ei mam, Gwenlo, yn chwaer i Beuno Sant. Y mae'n weddol sicr fod iddi gyswllt clos â lledaeniad parch Beuno yng ngogledd-ddwyrain Cymru; ar y fan lle y mae ei chysegr hi yn
  • GWERFUL MECHAIN (1462? - 1500), bardd Y cwbl a wyddys amdani yw mai merch Hywel Fychan o Fechain ym Mhowys oedd hi, ac ategir hynny yng nghywydd Dafydd Llwyd yn danfon Llywelyn ap y Gutun yn llatai ati. Gwyddys fod darnau o'i chywyddau yn nofio ar gof gwlad yn y 19eg ganrif, oblegid cyfeiria ' Ap Vychan ' a Syr Owen M. Edwards at hynny. Cymysgir rhyngddi â Gwerful, ferch Madog o Fro Danad, yn Eminent Welshmen ac Enwogion Cymru; nid i
  • GWILYM ap SEFNYN (fl. c. 1440), bardd nid erys unrhyw fanylion am ei fywyd, ond ymddengys mai gŵr o Ogledd Cymru oedd ef. Cadwyd llawer o'i farddoniaeth yn y llawysgrifau, ac yn ei phlith gywyddau i Gwilym ap Gruffudd o'r Penrhyn a'i fab, William Gruffudd Fychan; un cywydd brud (NLW MS 6499B (370)), a nifer o englynion. Ceir hefyd ddau gywydd mwy personol, sef cywydd i Dduw ar lun cyffes, a chywydd marwnad i'w saith mab a thair merch
  • GWILYM MAI - gweler THOMAS, WILLIAM
  • GWILYM RYFEL (fl. 12fed ganrif), bardd mai gŵr o Bowys oedd Gwilym Ryfel, ac iddo gael ei ladd ymhell o'i fro a neb o'i garennydd yno i ddial ei waed. Ymddengys ei fod, fel Gwalchmai, yn fardd ac yn filwr. Y mae'n sicr fod llawer o'i waith ar goll oblegid y mae Iorwerth Beli (The Myvyrian Archaiology of Wales, 317b), 100 mlynedd neu fwy ar ôl ei ddydd, yn ei enwi'n un o bedwar, gyda Llywarch (Brydydd y Moch), Cynddelw, a Dafydd Benfras