Canlyniadau chwilio

49 - 60 of 115 for "Iorwerth"

49 - 60 of 115 for "Iorwerth"

  • IOLO GOCH (c. 1325 - c. 1400), bardd Bardd o Ddyffryn Clwyd oedd Iolo Goch, mab Ithel Goch ap Cynwrig ab Iorwerth ap Cynwrig Ddewis Herod o linach Hedd ab Alunog o Uwch Aled, un o Bymtheg Llwyth Gwynedd. Ail wraig Ithel Goch oedd ei fam, nas enwir yn yr ach [?]. Cofnodir enwau dau frawd iddo, sef Gruffudd a Thudur Goch. Ffurf anwes ar Iorwerth (enw ei hen-daid) oedd Iolo'n wreiddiol, ond nid oes tystiolaeth mai Iorwerth oedd enw
  • IOLO GOCH (c. 1320 - c. 1398), bardd Brodor o ddyffryn Clwyd, mab Ithel Goch ap Cynwrig ab Iorwerth Ddu ap Cynwrig Ddewis Herod ap Cywryd. Yn ôl stent arglwyddiaeth Dinbych gan Hugh de Beckele yn 1334, daliai Ithel Goch ddarn bach o hen etifeddiaeth y teulu ar rent yn nhref Lleweni, ac yr oedd ganddo dŷ i fyw ynddo yno. Yn ychwanegol rhentai oddi wrth yr arglwydd ddarnau bychain o dir yn Llechryd ac ym Merain. O'r gweithiau a
  • IORWERTH, abad Talyllychau ac esgob Tyddewi Yr oedd ei ethol ef yn esgob - fe'i cysegrwyd yn Staines ar 21 Mehefin 1215, ychydig ddyddiau wedi i Magna Carta gael ei selio - yn fuddugoliaeth i ymdeimlad cenedlaethol y Cymry yn y frwydr hir ynglŷn â statws esgobion ac esgobaeth Tyddewi ac yn oruchafiaeth i bolisi Llywelyn Fawr. Yr oedd Iorwerth yn ŵr o gymeriad da ac yn Gymro pur o ran gwaed (ni wyddys ddim am ei dras) ac eto nid oedd yn
  • IORWERTH ab OWAIN, Arglwydd Caerleon - gweler MORGAN ap HYWEL
  • IORWERTH ab Y CYRIOG (fl. c. 1380), bardd
  • IORWERTH ap BLEDDYN (bu farw 1111)
  • IORWERTH ap MADOG (fl. 1240?-68), gŵr cyfraith a enwir yn fynych mewn amryw lawysgrifau o 'Ddull Gwynedd' y cyfreithiau Cymreig Mewn un llawysgrif gelwir ef yn fwy pendant yn ' Iorwerth ap Madog ap Rhahawd ', a gwnai hyn ef yn frawd i'r bardd Einion ap Madog (fl. c. 1237), perthynas a dderbynir gan Syr John Lloyd, A History of Wales, 355. Byddai felly yn un o ddisgynyddion Cilmin Droed-ddu (9ed ganrif), ac yn perthyn i'r teulu y daethpwyd i'w adnabod yn ddiweddarach fel teulu Glyn, Glynllifon, Sir Gaernarfon, teulu a
  • IORWERTH BELI (fl. gynnar yn y 14eg ganrif), bardd Canodd awdl i esgob Bangor (The Myvyrian Archaiology of Wales, 317-8) 'i ymliw ag ef am esgeuluso beirdd a mawrhau cerddorion.' Llinynnir toddeidiau yn y gerdd hon, ac yn ôl Cerdd Dafod, 339, awdl a ganwyd yn 1322 yw'r gynharaf y gellir ei dyddio lle y gwneir hyn. Yn awdl Iorwerth Beli, ceir cipdrem ar gyflwr a safbwynt beirdd y cyfnod wedi cwymp Llywelyn. Bellach y mae'r beirdd a ymfalchïai yn
  • IORWERTH CEITHO - gweler JONES, EDWARD
  • IORWERTH DRWYNDWN (bu farw c. 1174) mab hŷn Owain Gwynedd a Gwladus ferch Llywarch ap Trahaearn. Priododd dywysoges o Bowys, sef Marared ferch Madog ap Maredudd, a chael ohoni un mab - y tywysog Llywelyn Fawr (wedi hynny). Pan rannwyd tiroedd ei dad cafodd Iorwerth Arfon ac, y mae'n debyg, Nantconwy. Ychydig wedi hynny diflanna o dudalennau hanes; efallai iddo farw pan gipiodd ei hanner-brawd, David I, yr awenau yn rhanbarthau
  • IORWERTH FYCHAN ap IORWERTH ap ROTPERT (fl. c. 1300), bardd
  • IORWERTH FYNGLWYD (fl. c. 1480-1527), bardd Rhisiart Iorwerth (neu Rhisiart Fynglwyd), un o feirdd pwysicaf Morgannwg tua chanol yr 16eg ganrif. Gellir edrych arno fel y mwyaf o gywyddwyr Morgannwg. Y mae'n feistr ar fawl confensiynol y beirdd, ond yr hyn a ddyry arbenigrwydd ar ei waith ydyw'r ddawn ddiarhebol a ganfyddir yn ei ganu cymdeithasol, y ddawn i gloi rhyw wirionedd mewn cwpled cofiadwy. Gwelir hyn yn y cywyddau a ganodd i gysuro Rhys