Canlyniadau chwilio

73 - 84 of 115 for "Iorwerth"

73 - 84 of 115 for "Iorwerth"

  • JONES, JOHN EDWARD (1905 - 1970), ysgrifennydd a threfnydd Plaid Cymru Blaid. Dychwelodd i Gymru yn 1930 fel ysgrifennydd a threfnydd y Blaid Genedlaethol. Yng nghapel MC Glanrhyd, 27 Gorffennaf 1940 priododd ag Olwen Roberts, chwaer John Iorwerth Roberts, a bu iddynt fab a merch. Meddai ar gymeriad gwydn, meddwl cryf ac amynedd. Yn fynych cuddid nerth mawr ei bersonoliaeth gan ei addfwynder. Ar wahân i'w waith fel ysgrifennydd pwyllgor gwaith y Blaid, ef a drefnai'r
  • Llywelyn ap Rhisiart (fl. 1520-65), 'Pencerdd y Tair Talaith' ac un o brif feirdd hanes Morgannwg Brodor o Fro Morgannwg ydoedd a'i gartref yn Llanilltud Fawr. Yng nghastell cyfagos Llanddunod y trigai Syr Edward Stradling, ei noddwr cyntaf, ac yr oedd ei gyfaill Iorwerth Fynglwyd yn byw yn yr un fro. Mewn marwnad iddo, cydnebydd mai Tudur Aled fu ei athro barddonol, a chynganeddai'n gywrain a gorchestol yn unol â rheolau enwog ei feistr. Fel un o'r beirdd olaf, os nad yr olaf, i ganu yn y
  • LLYWELYN ap GRUFFYDD (bu farw 1282), tywysog Cymru Ail fab Gruffydd ap Llywelyn a Senena, ac ŵyr Llywelyn ap Iorwerth. Ni ellir olrhain ei yrfa ymhellach yn ôl na 1245 pan geir ef yn un o'r gwŷr mawr o gylch Dafydd II, ffaith sydd yn awgrymu ei fod ef, yn wahanol i'w dad a'i frawd hŷn, Owen, yn ffefryn gan ei ewythr, ac, efallai, yn cael ei ystyried fel ei aer. Ar ôl trychineb 1246 a threfnu cytundeb Woodstock â Harri III yn 1247, bu raid iddo am
  • LLYWELYN ap IORWERTH (Llywelyn Fawr; 1173 - 1240), tywysog Gwynedd Mab Iorwerth Drwyndwn a Margaret, merch Madog ap Maredudd. Efallai ei eni yn Dolwyddelan, y faenor frenhinol yn Nantconwy y bu ei dad yn arglwydd arni am gyfnod byr hyd ei farw tua'r adeg y ganwyd Llywelyn. Gan y gallai'r tywysog ieuanc fod yn foddion i beryglu gallu hanner-brodyr ei dad yng Ngwynedd y mae'n debyg iddo gael ei fagu ym Mhowys o dan nodded ei berthynasau ar ochr ei fam. Wedi iddo
  • LLYWELYN ap MOEL y PANTRI (bu farw 1440), bardd O Lanwnnog yn Sir Drefaldwyn; mab i'r bardd (Llywelyn ?), a lysenwid Moel y Pantri, a thad i'r bardd Owain ap Llywelyn ap Moel y Pantri. Yr oedd yn ddisgybl i Rys ap Dafydd ab Iorwerth. Ymhlith ei farddoniaeth a erys ceir ei gywyddau i ferch a elwir Euron, cywydd ar lun ymddiddan rhwng y bardd a'i bwrs gwag, a nifer o gywyddau ymryson i Guto'r Glyn. Canodd hefyd ddau gywydd cellweirus i'r herwyr
  • LLYWELYN FARDD (fl. c. 1150-75), bardd crefyddol; y pwysicaf yw'r 'Canu i Gadfan,' sef molawd i eglwys Tywyn sy'n ddisgrifiad gwych o'r bywyd eglwysig yno yn ystod abadaeth Morfrân, gwr a oedd yn fyw yn 1147. Ceir yn Hendreg. MS. a'r The Myvyrian Archaiology of Wales awdl fer i Lywelyn ap Iorwerth gan 'Lywelyn Fardd,' lle gelwir y tywysog yn ' eryr Clwyd.' Bychan clod fuasai hynny iddo yn y blynyddoedd wedi 1206. Y mae'r gerdd yn darllen fel
  • MADOG BENFRAS (fl. c. 1320-60), bardd o Farchwiail yn sir Ddinbych. Rhoddir ei achau yn Powys Fadog : ' Madog Benfras ap Gruffudd ap Iorwerth, arglwydd Sonlli, ab Einion Goch ab Ieuaf ap Llywarch ab Ieuaf ap Niniaw ap Cynfrig ap Rhiwallawn.' Yr oedd ei ddau frawd, Llywelyn Llogell (person plwyf March'wiail) ac Ednyfed, yn feirdd hefyd, a dywedir gan ' Iolo Morganwg ' mai Llywelyn ap Gwilym o Emlyn oedd eu hathro barddonol hwy ill tri
  • MAELGWN ab OWAIN GWYNEDD (bu farw 1173) Mab Owain Gwynedd a Gwladus ferch Llywarch ap Trahaearn, brawd unfam i Iorwerth Drwyndwn ac ewythr Llywelyn I. Pan rannwyd y tiroedd y teyrnasai ei dad drostynt rhoddwyd Môn i Faelgwn, eithr gyrrwyd ef allan o'r ynys yn 1173 gan ei hannerbrawd, Dafydd I. Ffodd i Iwerddon, dychwelodd yn ddiweddarach yn yr un flwyddyn, a chymerwyd ef yn garcharor. Ni wyddys mo'i hanes wedi hynny.
  • teulu MARSHAL, ieirll Penfro William de London yn 1207. Ond yn 1211 galwodd y brenin arno eto i'w gynorthwyo ynglŷn â'r ymgyrch yn erbyn y Cymry ac adferwyd iddo ei gestyll yn Lloegr a Chymru. Yn y flwyddyn ddilynol bu'n ymladd o blaid y brenin yn erbyn Llywelyn ap Iorwerth. Erbyn hyn yr oedd y brenin ac yntau ar delerau cyfeillgar; ar 19 Hydref 1213 adferwyd castell Hwlffordd iddo ac yn 1214 cyflwynwyd iddo gestyll brenhinol
  • MEREDUDD ap RHYS (fl. 1450-85), uchelwr, offeiriad, a bardd : Meredudd ap Rhys ap Gruffudd ap Madog Llwyd [ap Gruffudd] ab Iorwerth Foel ab Iorwerth Fychan ab Iorwerth Hen … ap Rhys Sais … ap Tudur Trefor, cyndadau llawer o deuluoedd bonheddig hen daid Madog Llwyd â'r Plas yn Nanheudwy, a'i dad Rhys ap Gruffudd â phlas Halchdun - Halchdun Swydd y Waun yn ddiau. Ond yn Rhiwabon yng nghwmwd Maelor Gymraeg y trigai Meredudd. Efe oedd offeiriad y plwyf hwnnw - yn 1430
  • MEURUG ab IORWERTH (fl. c. 1320-70), un o'r olaf o'r Gogynfeirdd
  • MORGAN ap HYWEL (fl. 1210-48), arglwydd Cymreig arglwyddiaeth Gwynllwg neu Gaerlleon-ar-Wysg Harri II yn arglwydd Caerleon. Hwn oedd y Morgan a laddwyd gan Ifor Bach yn 1158. Dilynwyd ef gan ei frawd IORWERTH ab OWAIN. Yn 1171 syrthiodd Iorwerth rywsut dan wg y brenin, a chollodd Gaerlleon. Pan oeddid ar fin cymodi rhyngddynt (1172), lladdwyd OWAIN, mab Iorwerth, gan wŷr iarll Caerloyw. Ffyrnigodd Iorwerth, a'i fab arall HYWEL, yn erbyn y brenin a'r Normaniaid, a chan fanteisio ar 'wrthryfel