Canlyniadau chwilio

637 - 648 of 894 for "Medi"

637 - 648 of 894 for "Medi"

  • PRICE, JOHN (1735 - 1813), llyfrgellydd Bodley, Rhydychen Ganwyd 1 Mawrth 1735, mab y Parch. Robert Price, ficer Llandegla o 1731 hyd 1737, a symudodd i fywoliaeth Llangollen, lle y bu hyd ei farwolaeth yn 1771 - claddwyd 9 Medi. Addysgwyd John Price yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, lle yr ymaelododd 26 Mawrth 1754. Graddiodd B.A. 1757, M.A. 1760, a B.D. 1768. Penodwyd ef yn borthor ('janitor') yn Llyfrgell Bodley yn 1757, yn is-lyfrgellydd yn 1765, yn
  • PRICE, JOHN ARTHUR (1861 - 1942), bargyfreithiwr a newyddiadurwr genedlaetholdeb Cymreig a'i gysylltiadau â bywyd crefyddol a gwleidyddol Cymru mewn cyfres o ' Atgofion ' a ysgrifenwyd ganddo i'r Genedl Gymreig yn 1925. Y mae ei ysgrifau ar T. E. Ellis yn Welsh Political and Educational Leaders in the Victorian Era ac ar Syr Ellis Griffith yn y Welsh Outlook ymhlith y pethau gorau a ysgrifenwyd amdanynt. Yn 1941 penodwyd ef yn Ganghellor Esgobaeth Bangor. Priododd 6 Medi
  • PRICE, ROBERT (1655 - 1733), barnwr , 1814, xi, 387-93. Yr oedd Price yn gyfeillgar â Robert Harley, iarll Oxford; gweler cyfeiriadau ato a llythyrau a ysgrifennodd at Harley yn Hist. MSS. Comm., Rep. on the MSS. of the Duke of Portland, iv-vi. Priododd, 23 Medi 1679, Lucy, merch hynaf Robert Rodd, Foxley, sir Henffordd, a bu iddynt dri phlentyn: yr aer oedd Uvedale Tomkyns Price. Argreffir manylion llawn am ei ewyllys gan E. Curll (op
  • PRICE, THEODORE (1570? - 1631), prebendari yn abaty Westminster, prifathro Hart Hall, Rhydychen 1604 hyd 1614. Cafodd fywoliaeth Llanfair-juxta-Harlech ar 18 Hydref 1591; yn 1601 cafodd reithoraeth segurswydd Llanrhaeadr-yng-Nghinmerch, nid Llanrhaiadr-ym-Mochnant, fel y dywed y D.N.B. Cafodd fywiolaethau, etc., yn Lloegr hefyd. Ar 9 Medi 1596 gwnaethpwyd ef yn brebendari Winchester, yn 1609 daeth yn rheithor Launton yn sir Rhydychen - (yr oedd cyn hynny yn offeiriad Bletchingley yn Surrey
  • PRICE, THOMAS (Carnhuanawc; 1787 - 1848), clerigwr a hanesydd offeiriad y flwyddyn wedyn, 12 Medi. Yn Ebrill 1813 symudodd i Grughywel fel curad Llangeneu, Llanbedr Ystrad Yw, a Patrishow, ac yn 1816 daeth Llangatwg a Llanelli hefyd o dan ei ofal. Yng nghydiad 1819-20 bu bron iddo fynd yn offeiriad i India'r Gorllewin, ond fe'i darbwyllwyd i newid ei feddwl ar y funud olaf. Derbyniodd ficeriaeth Llanfihangel Cwm-du yn 1825 a churadiaeth Tretwr yn ychwanegol ati yn
  • PRICE, THOMAS (1820 - 1888), gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn nyffryn Aberdâr, sef y 'Park School' ('Ysgol y Comin'). Priododd, 16 Mawrth 1847, Mrs. Ann Gilbert (a fu farw 1 Medi 1849), merch ieuengaf Thomas David, Abernant-y-groes, Cwmbach, a bu iddynt fab a merch.
  • PRICE, WATKIN WILLIAM (1873 - 1967), ysgolfeistr, ymchwilydd Ganwyd 4 Medi 1873 yn 261 Cardiff Road, Aberaman, Aberdâr, Morgannwg, i Watkin a Sarah Price, Cymry Cymraeg o Frycheiniog. Glöwr oedd y tad; ymddengys i'r teulu mudo i Aberdâr erbyn 1866. Addysgwyd ' W.W. ' yn ysgol elfennol Blaen-gwawr tan 1886 pan aeth i weithio yn swyddfa Tarian y Gweithiwr yn Aberdâr. Yna, bu'n ddisgybl-athro mewn dwy ysgol leol tan 1895 pan aeth yn fyfyriwr 'normal' i Goleg
  • PRICE, WILLIAM (1597 - 1646), clerigwr Yn enedigol o sir Ddinbych. Ymaelododd yng Ngholeg Eglwys Crist, Rhydychen, ar 16 Hydref 1616 yn 19 oed (M.A. 21 Mehefin 1619, B.D. 14 Mehefin 1628). Etholwyd ef 26 Medi 1621 yn ddarlithydd mewn athroniaeth foesol, y cyntaf i ddal y swydd a sefydlwyd gan Thomas White yn Rhydychen; daliodd hi hyd 1630. Pan fu farw White yn Ebrill 1624, Price a draddododd y bregeth angladdol, a chyhoeddwyd hi o dan
  • PRICE, WILLIAM (1800 - 1893), 'dyn od' a hyrwyddwr corff-losgiad Ganwyd 4 Mawrth 1800 yn Ty'nycoedcae, plwyf Rhydri, sir Fynwy, trydydd mab y Parch. William Price a Mary ei wraig. Bu mewn ysgol ym Machen ac wedyn yn brentis i Evan Edwards, Caerffili, ac yn ddisgybl yn Bart's a'r London Hospital, gan ennill cymwysterau L.S.A. (ym Medi 1821) ac M.R.C.S. (yn Hydref 1821). Bu'n dilyn yr alwedigaeth honno yn Nantgarw, Trefforest, a Pontypridd, gan ddyfod yn bur
  • PRICE-WHITE, DAVID ARCHIBALD PRICE (1906 - 1978), gwleidydd Ceidwadol Ganed ef ym Mangor ar 5 Medi 1906, yn fab i Price Ffoulkes White, pel-droediwr rhyngwladol Cymreig, a Charlotte Bell. Addysgwyd ef yn Ysgol Friars, Bangor a Choleg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Gweithiodd fel cyfreithiwr o 1932 tan 1956 ac ef oedd y prif bartner o fewn cwmni Price White, cyfreithiwyr, Bae Colwyn. Ymunodd âr Fyddin Diriogaethol ym 1928-29, a gwelodd wasanaeth milwrol ar faes y
  • PRICHARD, JOHN (1796 - 1875), gweinidog ac athro gyda'r Bedyddwyr yn 1823 a bu yno weddill ei oes, a John Jones ('Mathetes') a Hugh Jones yn eu tro yn cydweinidogaethu ag ef. Bu yn gyfrwng i sefydlu nifer o eglwysi newyddion yn y cylch. Ymddeolodd o ofal yr eglwys yn 1866. Sefydlwyd coleg y Bedyddwyr yn Llangollen yn 1862 a gwahoddwyd John Prichard i fod yn bennaeth ac yn athro diwinyddol ynddo, a Hugh Jones yn athro clasurol. Bu farw 7 Medi 1875. Yr oedd yn
  • PRICHARD, RHYS (Yr Hen Ficer; 1579? - 1644), clerigwr a bardd 29 o'r mis ac oherwydd hynny penodwyd ef yn gaplan i Robert, iarll Essex. Apwyntiwyd ef, 17 Mai 1614, yn ganon yng Ngholeg Aberhonddu gan yr archesgob; cymhellodd y Dr. Laud ef i gymryd ei M.A., a gwnaed ef, 14 Medi 1626, ar ymddiswyddiad Richard Baylie, B.D., o Goleg Sant Ioan, yn ganghellor Tyddewi, ac wedyn yn ganon, ac yr oedd perigloriaeth Llawhaden ynghlwm wrth y swydd. Bu farw tua mis