Canlyniadau chwilio

649 - 660 of 894 for "Medi"

649 - 660 of 894 for "Medi"

  • PRITCHARD, CHARLES MEYRICK (1882 - 1916), chwaraewr pêl droed (Rygbi), fel blaenwr Ganwyd 30 Medi 1882 yn fab i John Pritchard, un o sylfaenwyr clwb Rygbi Casnewydd, ac addysgwyd yn yr ysgol ganolraddol yno. Yn 19 oed, dechreuodd chwarae dros Gasnewydd, a chadwodd ei le hyd 1911; bu hefyd yn cynrychioli Cymru 19 o weithiau. Aeth allan i Ffrainc yn rhyfel 1914, gyda'r South Wales Borderers, a dyrchafwyd ef yn gapten. Bu farw o'i glwyfau, 15 Awst 1916.
  • PRITCHARD, EDWARD (1839 - 1900), peiriannydd sifil Ganwyd yn Wrecsam ym mis Medi 1839. Dechreuodd ei yrfa fel ' surveyor ' bwrdeisdref Clitheroe a bu wedi hynny yn Bedford ac yn Warwick. Yn ddiweddarach dechreuodd fusnes breifat a bu'n gyfrifol am weithiau dŵr, carthffosiaeth, neu dramffyrdd mewn dros gant o drefi ym Mhrydain. Aeth i Gaergystennin i gynhori ar garthffosiaeth yno, a bu'n gwneud gwaith cyffelyb yn Cape Town ac mewn trefi eraill yn
  • PROBERT, LEWIS (1837 - 1908), gweinidog a phrifathro coleg gyda'r Annibynwyr Ganwyd 22 Medi 1837 yn Llanelli, sir Frycheiniog. Yn eglwys Siloam yno y dygwyd ef i fyny a bu dan ddylanwad dau ŵr nodedig a fu'n weinidogion arni, sef John Davies, Caerdydd, a David Richards, Caerffili. Yn 1860 daethai diwygiad nerthol i'r cylch a gafodd gryn effaith arno ac ' wedi argyhoeddiad llym a thanllyd iawn ' derbyniwyd ef yn aelod. Dechreuodd bregethu yn 1862 ac aeth i ysgol baratoi y
  • PROPERT, JOHN (1793 - 1867), meddyg, sylfaenydd y Medical Benevolent College, Epsom Cardigan Railway. Priododd â Juliana Ross. Bu farw 8 Medi 1867. Yr oedd ei fab, JOHN LUMSDEN PROPERT (1834 - 1902), yn enwog fel meddyg a beirniad celf.
  • PROTHERO, CLIFFORD (1898 - 1990), trefnydd y Blaid Lafur yng Nghymru Ganwyd Cliff Prothero 23 Medi 1898 yn 7 Robert Street, Ynys-y-bwl i deulu Cymraeg ei iaith, ei dad, William Prothero yn enedigol o'r Clas-ar-Wy (Glasbury), sir Faesyfed a'i fam Alice, o Bontlotyn yng Nghwm Rhymni. Addysgwyd ef yn Ysgol y Bechgyn, Tre-Robert, yn Ynys-y-bwl ond gadawodd yr ysgol yn dair ar ddeg oed i weithio yn y lofa. Yr oedd ei dad a'i frawd, William Prothero yr ieuengaf, yn
  • PRYCE, JOHN (1828 - 1903), deon Bangor, ac awdur ; ac o 1899 hyd 1910 yn ddeon Llanelwy. Bu farw 17 Medi 1914, yn 81 oed. I Goleg Iesu, Rhydychen (1847) yr aeth John Pryce; graddiodd yn 1851. Bu'n gurad ac athro yn Nolgellau (1851-6), yn gurad parhaol Glanogwen (1856-64), yn ficer Bangor (1864-80), ac yn rheithor Trefdraeth (Môn) o 1880 hyd 1902; penodwyd ef yn ganon yn 1884, yn archddiacon yn 1887, ac yn ddeon Bangor yn 1902; bu farw 15 Awst 1903
  • PRYCE, THOMAS (1833 - 1904), hynafiaethydd Ganwyd 5 Medi 1833, mab David Pryce, Trederwen Hall, Llandrinio, Sir Drefaldwyn. Addysgwyd ef yn y Liverpool College. Ar ôl gadael yr ysgol ymfudodd i Java, lle priododd yn 1863 â merch i Jacobus G. T. a Aldous van Motman o Dramaga. Ar ôl treulio 28 mlynedd yn Java aeth am bum mlynedd i'r Hâg. Oddi yno dychwelodd i Gymru ac aeth i fyw i Bentre Heylin, Llandysilio, Sir Drefaldwyn. Cymerodd ran
  • PRYS, OWEN (1857 - 1934), gweinidog a phrifathro gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 25 Medi 1857, mab Absalom ac Ann Prys, y Ffactri, Penllwyn, ger Aberystwyth. Dechreuodd ar gwrs ei addysg yn yr ysgol Genedlaethol ym Mhenllwyn, a gedwid gan ei ewythr, a bu wedi hynny am gyfnod yn ddisgybl-athro yn yr Ysgol Frutanaidd. Yn 1876 aeth i Goleg Normal Bangor, gorffennodd ei gwrs yn y dosbarth cyntaf. Yna, hyd 1883, bu'n brifathro'r Ysgol Fwrdd yn Goginan. Ym Mangor ymddiddorai
  • PRYSE, ROBERT JOHN (Gweirydd ap Rhys; 1807 - 1889), hanesydd a llenor . Pan oedd o 13 i 14 oed aeth yn brentis at Dr. Jones, Llanfachraeth a Chaergybi, gan ddilyn ei wersi o hyd. Yn 1855 anfonwyd ef am un sesiwn i'r Andersonian College, Glasgow, lle'r enillodd ddwy wobr gyntaf; yna dychwelodd i Gaergybi i gynorthwyo Dr. Jones. Yn y cyfnod hwn darllenodd yn helaeth lenyddiaeth Ffrainc, Lloegr, Groeg, a Rhufain. Yn niwedd Medi 1860 aeth i Brifysgol Edinburgh. Enillodd
  • PRYTHERCH, WILLIAM (1804 - 1888), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 28 Mehefin 1846 yn Llwyn Owen, fferm ym mhlwyf Cilycwm. Bu'n ysgolfeistr yn Nhycroes, Garnswllt, a Phentrebach. Dechreuodd bregethu 10 Medi 1863 ym Mhentrebach, ysgoldy dan nawdd eglwys y Gopa, Pontardulais. Ym mis Hydref 1868 cymerodd ofal eglwysi Brechfa a Phontynyswen, ac yn haf 1869 priododd â Margaret Gregory, Rhosili. Ordeiniwyd ef yn Llandeilo, 9 Awst 1870, ac yn 1872 dychwelodd i'r Gopa
  • PUGH, FRANCIS (1720 - 1811), Methodist a Morafiad bore Ganwyd 10 Medi 1720 'ym Mrycheiniog ' meddai cofnod Morafaidd; byddai'n ddiddorol gwybod ym mhle'n union, oblegid y mae'n eglur fod Pugh yn gymydog ac yn gyfaill i Howel Harris yn gynnar iawn - yn gyfaill o ymddiried, oblegid bu'n gyfryngwr dros Harris yn ei garwriaeth ag Anne Williams. Ymddengys ei fod yn 1741 yn athro ar un o ysgolion Griffith Jones, yn Nhrefeca ei hunan; ond yn 1742 aeth i
  • PUGHE, JOHN (Ioan ab Hu Feddyg; 1814 - 1874), meddyg ac awdur Ganwyd 8 Medi 1814 yn Ysgubor Fawr, Chwaen Wen, sir Fôn, mab hynaf David Roberts Pughe ac Elizabeth ei wraig. Cymhwysodd ei hun fel meddyg yn Ysbyty S. Thomas, Llundain, ac ennill y radd o F.R.C.S. Ymsefydlodd am ychydig fel meddyg yn Abermaw ond yn Aberdyfi y cartrefai am y rhan fwyaf o'i oes. Treuliodd ran o dymor ei ieuenctid yng Nghlynnog, Arfon, lle'r oedd yn gyfaill i 'Eben Fardd