Canlyniadau chwilio

97 - 108 of 254 for "Glyn"

97 - 108 of 254 for "Glyn"

  • IEUAN LLAFAR (fl. c. 1594-1610), bardd Brodor, y mae'n debyg, o Glyn Ceiriog, sir Ddinbych. Ni wyddys dim o'i hanes, ond cadwyd nifer o gywyddau ac englynion a gyansoddodd rhwng tua 1594 a 1610. Canodd i foneddigion ei gyfnod yng Ngogledd Cymru, ac yn eu plith Owain Holant o Blas Berw (Môn), Hwmffrai ap Huw o'r Werclys, Rhobert Wyn o'r Foelas, Edwart ap Dafydd o'r Rhiwlas, Edwart ap Morus o Lansilin, Owain Bruwtwn o Fwras, Huw Morus
  • IEUAN RUDD (fl. 1470) Forgannwg, bardd Ceir dau gywydd o'i waith, y naill i neithior Syr Rhys ap Tomas a Sioned, merch Tomas Mathau o Radur, a'r llall i'r paderau main crisial. Cyfeirir ato hefyd mewn cywydd a ganodd Llywelyn Goch y Dant c. 1470 yn gwahodd Hywel ap Dafydd ab Ieuan ap Rhys i ymweled â Thir Iarll a'r cyffiniau, lle y disgrifir ef fel gŵr 'o Lyn Rhoddne wlad' - y cyntaf o feirdd y Glyn hwnnw, cyn belled ag y gwyddom
  • IFOR HAEL awdl hon, fodd bynnag, y tu hwnt i amheuaeth, canys barnai Lewis Glyn Cothi yn y 15fed ganrif i Ddafydd farw o flaen ei noddwr : ' Aeth Dafydd gwawdydd drwy gôr / I nefoedd o flaen Ifor. ' Gweler ymhellach Williams a Roberts, Cywyddau Dafydd ap Gwilym, 1914, xvii-xx. Ar Basaleg, gweler Bulletin of the Board of Celtic Studies, vii, 277.
  • IORWERTH ap MADOG (fl. 1240?-68), gŵr cyfraith a enwir yn fynych mewn amryw lawysgrifau o 'Ddull Gwynedd' y cyfreithiau Cymreig Mewn un llawysgrif gelwir ef yn fwy pendant yn ' Iorwerth ap Madog ap Rhahawd ', a gwnai hyn ef yn frawd i'r bardd Einion ap Madog (fl. c. 1237), perthynas a dderbynir gan Syr John Lloyd, A History of Wales, 355. Byddai felly yn un o ddisgynyddion Cilmin Droed-ddu (9ed ganrif), ac yn perthyn i'r teulu y daethpwyd i'w adnabod yn ddiweddarach fel teulu Glyn, Glynllifon, Sir Gaernarfon, teulu a
  • ISAAC, DAVID LLOYD (1818 - 1876), clerigwr a llenor gweithiodd yn dda yno, gan sefydlu achosion yn Aberdylais, Glyn Nedd, a Phontardawe; cychwynnodd Gymdeithas Gymreigyddol yng Nghastell Nedd. Ond daeth ymrafaelion i mewn i'w eglwys, ac amheuid ei ddiwinyddiaeth yntau (D. R. Phillips, Hist. of the Vale of Neath, 155), felly symudodd i ofalaeth Trosnant, Pontypŵl, yn 1841. Ystormus fu ei yrfa yno (Bradney, Monmouthshire, I, ii, 455; Y Bedyddiwr, Ionawr 1854
  • JAMES, ISAAC (1766 - 1840), pregethwr gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ddywedodd amdano: 'nid oedd llawer yn ei ystyried yn bregethwr mawr, ond un mawr oedd o er hynny.' Bu farw 14 Ebrill 1840, yn 74 oed; claddwyd yn Llanfihangel-genau'r-glyn.
  • JAMES, THOMAS EVAN (Thomas ab Ieuan; 1824 - 1870), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac awdur yng Nghwmbach, Aberdâr (1856-8), Castell Nedd (1858-61), a Glyn Nedd (1861-70). Bu farw 21 Mehefin 1870. Ymhlith ei weithiau ceir Marwnad Joel Jones, gweinidog ym Mhwllheli; Coffadwriaeth y Cyfiawn neu sylwedd pregeth … or farw Dafydd Jones o Gaerdydd a Stephen Edwards o Rymni; Deigryn ar ol Cyfaill … John Jones, Merthyr; Cofiant … James Davies, gweinidog y Bedyddwyr yn Cincinatti, Ohio. Casglodd a
  • JAMES, WILLIAM (1833 - 1905), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd Ganwyd 15 Mawrth 1833, yn fab i Thomas ac Anne James, Tynrhos, Llanfihangel-genau'r-glyn. Bu hyd 15 oed yn ysgol ramadeg y pentre (lle y cafodd Lewis Edwards yntau ei ysgol); yna bu'n fugail ar dir ei dad. Bwriadai ei dad iddo fod yn lledrwr yn Aberaeron, ond mynnai crefyddwyr capel y Garn iddo fynd yn bregethwr, gan ei fod mor weithgar yn yr ysgol Sul a chyda chaniadaeth y capel. Felly anfonwyd
  • JENKINS, DAVID (1912 - 2002), llyfrgellydd ac ysgolhaig astudiaeth sy'n lleoli'r bardd a rhai o'i helyntion yn gadarn yng nghwmwd Genau'r-glyn. Yr oedd yn gam pwysig yn y gwaith o ailddarganfod y bardd hanesyddol. Cafodd David Jenkins swydd dros dro yn y Llyfrgell Genedlaethol yn 1937 a swydd cynorthwyydd dros dro yn adran y llawysgrifau yn 1939. Gwysiwyd ef i'r fyddin ym mis Tachwedd 1940 a gwasanaethodd yn y lluoedd arfog trwy flynyddoedd yr Ail Ryfel Byd
  • teulu JONES Llwynrhys, ychwanegwyd darn croes at y tŷ i fod yn dŷ cwrdd, meddir. Parhaodd pregethu yno hyd 19 Hydref 1735. Syrthiodd y tŷ yn furddyn tua 1918. Olrheiniai JOHN JONES (1640? - 1722) ei achau, ar ochr ei dad, John ab Ieuan Lloyd, o deulu Clement, arglwyddi Caron, ac ar ochr ei fam, Angharad ferch Ieuan ap Tomas, o Rydderch Glyn Aeron (Llyfr Golden Grove, copi Castell Gorfod yn Ll.G.C., xiv, L1671). Yr oedd ei frawd
  • JONES, ARTHUR (fl. 18fed ganrif), bardd o Langadwaladr yn sir Ddinbych, a chlochydd Rhiwabon (lle y bu farw) Yr oedd yn un o gefnogwyr mân eisteddfodau Powys yn ei gyfnod. Enillodd ail wobr ar brif destun eisteddfod Llansantffraid Glyn Ceiriog yn 1743; dywedir i'w fab, Peter Jones, gymryd rhan yn yr un eisteddfod pan nad oedd ond 13 oed. Erys nifer o'i gerddi mewn llawysgrifau, a cheir rhai ohonynt ymhlith casgliadau a gyhoeddwyd yn y 18fed ganrif. Ceir un enghraifft, o leiaf, o'i ganu caeth, sef dau
  • JONES, CAIN, almanaciwr Mab John Edwards ('Sion y Potiau'). Ni wyddys ddyddiad ei eni, ond bedyddiwyd ei frawd Abel, a fu'n weinidog gyda'r Bedyddwyr ym Merthyr Tydfil, yn Llansantffraid Glyn Ceiriog, 21 Rhagfyr 1740, a theg yw casglu fod Cain yn hŷn nag Abel. Ar farwolaeth Gwilym Howel, yn 1775, ymgymerodd â golygu'r almanac Tymmhorol, ac wybrennol Newyddion. Bu'n gyfrifol am 20 rhifyn a gyhoeddwyd gan Eddowes yn