Canlyniadau chwilio

1093 - 1104 of 1877 for "Mai"

1093 - 1104 of 1877 for "Mai"

  • MATTHEWS, DANIEL HUGH (1936 - 2020), Gweinidog a phrifathro coleg Cymreigrwydd y sefydliad pan oedd mewn perygl o ymagweddu fel coleg taleithiol Seisnig. Cyfrannodd at ysgolheictod beiblaidd trwy gyhoeddi The Church in the New Testament (1996), a draddodwyd gyntaf fel un o Ddarlithoedd Pantyfedwen, gan ddadlau mai corff carismatig oedd yr eglwys yn ei blynyddoedd ffurfiannol, â'i gweinidogaeth yn fwy pragmatig na hierarchaidd ei natur, ac yn fwy agored i arweinyddiaeth
  • MATTHEWS, EDWARD (1813 - 1892), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur Ganwyd 13 Mai 1813, yn New Barn ger Sain Tathan, Bro Morgannwg, mab Thomas ac Anne Matthews. Chwalwyd ei gartref pan oedd yn ieuanc ac ymfudodd y tad i America. Cafodd argyhoeddiad crefyddol o dan weinidogaeth David Morris o'r Hendre. Aeth i weithio i Hirwaun yn 1827 a dechreuodd bregethu yno yn 1830. Dychwelodd i'r Fro yn 1833 gan gartrefu ym Mhen-llin yn nhy Mrs. Truman, gwraig weddw a ddaeth
  • MATTHEWS, JOHN (1773 - 1848), tirfesurydd a gŵr cyhoeddus Ganwyd 1 Ionawr 1773, mab Edward Matthews o Benybont ger yr Wyddgrug. Ymgymerodd â gwaith mesur tir, ac erbyn 1811 enillasai le pwysig iddo'i hun gyda'r gwaith hwnnw yn y Gogledd. Yn 1819 penodwyd ef yn gomisiynydd ar gominoedd Arwystli, ac yn 1821 yn gomisiynydd a chanolwr ynglŷn â thir y Traeth Mawr, ger Porthmadog. Ym Mai 1823 symudodd i fferm Clydfanc, ger Llanidloes, ac, yn Rhagfyr 1828, i
  • MATTHEWS, MARMADUKE (1606 - 1683?), gweinidog a drowyd allan Reconciling Remonstrance (London, c. 1670). Mab iddo oedd LEMUEL MATTHEWS (1644 - 1705), archddiacon Down. Ymaelododd yn y brifysgol o Goleg All Souls, Rhydychen, 25 Mai 1661, ac wedyn daeth yn gaplan i Jeremy Taylor, esgob Down. Gwnaed ef yn archddiacon Down 2 Tachwedd 1674, ac fe'i hapwyntiwyd yn ganghellor Down a Connor yn 1690. Amheuwyd ei fod yn euog o droseddiadau eglwysig, a diswyddwyd ef gan
  • MAURICE, HENRY (1634 - 1682), 'apostol Brycheiniog' Mab Griffith Morris o Fethlan, plwyf Aberdaron, ac yn berthynas pur agos i Wyniaid Boduan ac Edwardiaid Nanhoron. Addysgwyd ef yng Ngholeg Iesu, Rhydychen. Nid oes digon o sicrwydd mai ef oedd yr Henry Morris a ddaeth i'r amlwg yn 1656 fel gŵr a bleidiai symud ysgol Botwnnog i Bwllheli, ond y mae mwy na digon mai ef a benodwyd gan y 'Triers' yn 1658 i fugeilio Piwritaniaid Llannor a Deneio; ef
  • MAURICE, HENRY (1647 - 1691), clerigwr ac awdur Ganwyd, os yw ei oedran ar ei dabled goffa yng nghapel Coleg Iesu ('44') yn gywir, yn 1647, ond yn ôl Foster (Alumni Oxonienses), a ddywed mai 16 oed oedd pan aeth i'r Coleg, fe'i ganwyd yn 1648. Yr oedd yn fab i Thomas Maurice, B.D., curad parhaol Llangristiolus, a'i wraig Sidney, ferch Henry Parry, awdur Egluryn Phraethineb; yr oedd felly'n un o hil Tuduriaid Penmynydd - gweler J. E. Griffith
  • MAURICE, WILLIAM (bu farw 1680), hynafiaethydd a chasglwr llawysgrifau astudio llawysgrifau. Yn yr astudiaethau hyn ystyriai mai Robert Vaughan, Hengwrt, oedd Gamaliel iddo. Gweithiodd lawer yn Hengwrt a gwnaeth gatalog o'r llawysgrifau a oedd yno. Daeth rhai llawysgrifau Cymraeg pwysig i'w feddiant yntau, megis Llyfr Gwyn Hergest, a gollwyd mewn tân yng ngweithdy llyfr-rwymwr yn Covent Garden yn 1810, a'r llawysgrif cyfraith a gafodd gan ei gâr, Meredith Lloyd, Bryn Elen
  • MAURICE, Syr WILLIAM (1542 - 1622), gwleidyddwr Senedd gyntaf Iago I; yn honno bu'n siarad ac yn dadlau heb flino ac yn llefaru dros y blaid a oedd yn ffafrio uno â Sgotland o dan yr enw cyfunol - ' Teyrnas Prydain Fawr ', enw a apeliai ato ef fel Cymro gwladgarol. Yr oedd yn hawlio mai efe a awgrymodd i Iago fabwysiadu'r teitl cyn i'r Senedd gyfarfod (efallai pan wnaethpwyd ef yn farchog, fel ' Sir William Morris ' - ar 23 Gorffennaf 1603); y mae
  • McLUCAS, CLIFFORD (1945 - 2002), artist a chyfarwyddwr theatr Ganwyd Cliff McLucas ar 29 Mai 1945 mewn teulu dosbarth gweithiol yn Wetherby, Swydd Efrog. Roedd ei dad James McLucas yn Albanwr, a'i fam Marion (née Wilford) yn Saesnes. Ar ôl mynychu ysgol ramadeg Pudsey aeth i Brifysgol Manceinion yn 1963 i astudio pensaernïaeth, ond ni orffennodd y cwrs. Wedi treulio amser yn teithio yn Ewrop symudodd gyda'i bartner Karen Chambers i Gaeredin yn 1968 a
  • MENDS, CHRISTOPHER (1724? - 1799), cynghorwr Methodistaidd a gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd yn y ' Cotts ' gerllaw Hasguard, gorllewin Penfro, 22 Chwefror '1724' (gall mai 1725), yn un o naw o blant; disgrifia ei dad fel ' clothier.' Yn 1741, yr oedd ef a'i frawd WILLIAM MENDS yn byw yn Nhalacharn (lle'r oedd melinau pannu), ac yno yr argyhoeddwyd hwy (pan oedd Christopher yn 17 oed) dan Whitefield. Aeth y ddau frawd ati i gynghori, ac yr oeddynt â gofal nifer o seiadau, mewn
  • MEREDITH, JOHN ELLIS (1904 - 1981), gweinidog (Eglwys Bresbyteraidd Cymru) ac awdur Coffa iddo yn y Tabernacl, Aberystwyth ar 15 Mai 1981 pryd y dadorchuddiwyd llechen goffadwriaethol iddo gan ei fab, John Wyn Meredith.
  • MEREDITH, LEWIS (Lewys Glyn Dyfi; 1826 - 1891), pregethwr a llenor yn 1849, ond methodd gael derbyniad i'w gweinidogaeth (1855) oblegid ansicrwydd ei iechyd. Wedi bod yn gofalu am Gymry Wesleaidd Witton Park, Durham (1855-6), ymfudodd i America, ac ar ôl blwyddyn mewn seminari fe'i derbyniwyd i weinidogaeth yr Eglwys Fethodistaidd Esgobol (1859). Er mai i eglwysi Saesneg y gweinidogaethai, daliai i ymddiddori yn y bywyd Cymreig; ysgrifennai i'r Eurgrawn a'r Drych