Canlyniadau chwilio

1561 - 1572 of 2571 for "john hughes"

1561 - 1572 of 2571 for "john hughes"

  • MORGAN, DAVID EIRWYN (1918 - 1982), prifathro coleg a gweinidog (B) yn sylweddol. Y mae'r tri o lyfrau sy'n gysylltiedig â'i enw yn dangos ei ddiddordebau eang. Yn 1961 cyhoeddodd William Carey (1761-1834), sef hanes cenhadwr cyntaf Cymdeithas Genhadol y Bedyddwyr. Yn 1973 ymddangosodd ei lyfr Bedydd[:] Cred ac Arfer, sy'n fersiwn wedi ei helaethu o'i Ddarlith Pantyfedwen a draddododd yn 1969. Gyda John Hughes, Dolgellau, yn olygydd cerdd i'r llyfr, llywiodd drwy'r
  • MORGAN, DAVID JENKINS (1884 - 1949), athro a swyddog amaeth mewn arddull hapus garlamus. Cyhoeddwyd detholiad ohonynt yn Pant a bryn (1953). Priododd, 7 Gorffennaf 1915, Annie, merch John a Jane Jones, Tŷ-llwyd, Bryn-mawr (yn wreiddiol o Swyddffynnon). Bu farw yn sydyn ar 18 Mai 1949 yn ysbyty Charing Cross, Llundain. Amlosgwyd ei gorff yn Golders Green a dychwelwyd ei lwch i Landdewibrefi i'w gladdu yno.
  • MORGAN, DEWI (Dewi Teifi; 1877 - 1971), bardd a newyddiadurwr diwylliedig ac yn ŵr ifanc bu'n rhan o'r bwrlwm gweithgareddau a oedd yn gysylltiedig â Chapel y Garn, Bow Street. Ei brifathro yn Ysgol Rhydypennau, John Evans, a fu'n bennaf gyfrifol am ennyn diddordeb ynddo mewn llenyddiaeth. Daeth yn ddarllenwr brwd, dysgodd gynganeddu a dechrau cystadlu mewn eisteddfodau lleol a thaleithiol gan ennill ei gadair gyntaf yn ddwy ar hugain oed. Drwy ei gyfeillgarwch â T
  • MORGAN, DYFNALLT (1917 - 1994), bardd, beirniad llenyddol a chyfieithydd oedd yn Aberystwyth ar y pryd, llawer ohonynt o gymoedd De Cymru. Sefydlodd staff y coleg glwb cinio er mwyn sicrhau bod y myfyrwyr tlotaf yn cael o leiaf un pryd da o fwyd y dydd, a bu Morgan yn byw ar ffa pob yn bennaf yn y tŷ a rannai gyda Merfyn Turner, Cledwyn Hughes, ac eraill yn South Road. Astudiodd Gymraeg, Saesneg, Ffrangeg a Cherddoriaeth, gan ennill gradd anrhydedd yn y Gymraeg ym 1938, a
  • MORGAN, EDWARD (1783 - 1869), clerigwr efengylaidd, cofiannydd a chroniclydd ffeithiau pwysig ynglŷn â'r diwygiad Methodistaidd yng Nghymru , 1836. Ei ail arwr oedd David Jones, Llan-gan. Ysgrifennodd Ministerial Records or Brief Accounts of the Great Progress of Religion under the Ministry of … Daniel Rowlands of Llangeitho, The Rev. W. Williams of Pant y Celyn, The Rev. D. Jones of Llangan, 1840, Ysgrifennodd gofiant i John Elias (gweler Y Traethodydd, 1845, 112), Short Memoir of the Rev. Henry Philips, late of Coychurch, ei hen athro, a
  • MORGAN, ELAINE NEVILLE (1920 - 2013), sgriptwraig, newyddiadurwraig, ac awdures Sosialwyr Democrataidd Prifysgol Rhydychen, carfan wleidyddol fwyaf myfyrwyr y brifysgol, a chymdeithasodd gyda gweinidogion cabinet a phrif weinidogion cyfoes a dyfodol gan gynnwys Clement Attlee, Herbert Morrison, Roy Jenkins a Tony Crosland. Magodd berthnasau gyda tho ifanc o awduron a beirdd, yn enwedig Sidney Keyes (1922-1943), Drummond Allison (1921-1943) a John Heath-Stubbs (1918-2006), ac roedd yn
  • MORGAN, ELENA PUW (1900 - 1973), nofelydd, awdur straeon byrion a ffuglen i blant afiechyd nid aeth ymlaen i'r brifysgol, ffaith a achosodd loes iddi drwy gydol ei bywyd ac a oedd efallai'n un o'r rhesymau am ei diffyg hyder yn ei gallu llenyddol ei hun. Yn 1931 priododd John Morgan, teiliwr a dilledydd lleol, a oedd hefyd yn ymddiddori mewn llenyddiaeth a gwleidyddiaeth. Ganwyd iddynt un ferch, Catrin, yn 1933. Roedd eu haelwyd, Annedd Wen, yng Nghorwen, yn ganolfan i weithgareddau
  • MORGAN, ELIZABETH (1705 - 1773), garddwraig Ganwyd Elizabeth Morgan yn Amwythig ac fe'i bedyddiwyd yn eglwys St. Chad yno ar 5 Tachwedd 1705. Hi oedd yr ail o bump o blant, ac unig ferch John Davies (1668/9–1732), offeiriad, a'i wraig Honora (g. Sneyd, 1668-1714). Roedd ei thad yn fab i Mutton Davies o deulu Gwysanau yn Sir y Fflint a Llannerch yn Sir Ddinbych. Roedd ei mam yn ferch i Ralph a Frances Sneyd o Keele Hall, Swydd Stafford. Yr
  • MORGAN, EVAN FREDERIC (ail IS-IARLL TREDEGAR), (1893 - 1949), bardd, arlunydd, milwr, a gwleidydd agweddau ar gyfriniaeth Gristnogol yn 1928. Yn 1935 sefydlodd Ddarlith Tredegar i'r Gymdeithas er cof am ei dad, ac ef a draddododd y ddarlith gyntaf ar y testun 'John Donne - lover and priest'. Bu'n briod ddwywaith: (1) yn 1928 â'r Anrhydeddus Lois Sturt (bu farw 1937), merch yr ail Farwn Allington, ac yn (2) yn 1939 â'r Dywysoges Olga Dolgorouky, priodas a ddiddymwyd yn 1943. Bu farw yn Honeywood
  • MORGAN, FRANK ARTHUR (1844 - 1907) Ganwyd Frank Arthur Morgan ar 24 Chwefror 1844 yng Nghae Forgan, Llanrhidian, Bro Gwyr, yn drydydd mab Charles Morgan (1796-1857), bargyfreithiwr yn Lincoln's Inn, ffermwr a thirfeddiannwr lleol, a'i wraig Caroline, merch y Parch. John James (1772-1850) a'i wraig gyntaf Jane Gammon o Ben-maen. Roedd y Morganiaid yn fargyfreithwyr hynod lwyddiannus yn Llundain, ac yn berchen ar ystadau yn
  • MORGAN, GEORGE OSBORNE (1826 - 1897), gwleidydd Mab Morgan Morgan, ficer Conwy o 1838 hyd 1870 (a oedd yn fab i David Morgan, o Lanfihangel-genau'r-glyn, a'i wraig Avarina Richards o deulu Ffos-y-bleiddiaid - gweler o dan Lloyd, Vaughan), a'i briod Fanny Nonnen, merch John Nonnen, Gothenburg, Sweden; ganwyd 8 Mai 1826 yn Gothenburg pan oedd ei dad yn gaplan yno (1821-35). Bu yn ysgolion Friars ac Amwythig, ac yng ngholegau Balliol a Worcester
  • MORGAN, HECTOR DAVIES (1785 - 1850), clerigwr ac awdur gweithiau diwinyddol unig fab Hector Davies a Sophia ei wraig, ganwyd (yn Llundain ?) yn 1785. Wedi marw ei daid yn 1800, cymerodd enw ac arfau Morgan, a ddaethai i ran ei daid ar ei (ail) briodas â Christiana, nith ac etifeddes John Morgan o Aberteifi (1686 - 1763?). Bu dan addysg yng Ngholeg y Drindod, Rhydychen, a graddio B.A. yn 1806 ac M.A. yn 1815. Am 37 mlynedd bu'n gurad Castle Hedingham yn Essex; yn 1846