Canlyniadau chwilio

1585 - 1596 of 2571 for "john hughes"

1585 - 1596 of 2571 for "john hughes"

  • MORGAN, JOHN JENKYN (Glanberach; 1875 - 1961), hanesydd lleol a thraethodwr 1901. Yr oedd ei wraig (a fu farw mewn gwasanaeth crefyddol yng nghapel Bryn Seion, Glanaman, 25 Tachwedd 1956) yn chwaer i'r gweinidogion W. Glasnant Jones, Dafydd G. Jones, ac E. Aman Jones. Bu iddynt bedwar o blant. Mewn oes ddifantais manteisiodd John Jenkyn Morgan ar bob cyfle i hogi meddwl a dawn. Yr oedd yn ŵr diwylliedig, a thrwy ei gyfeillgarwch agos â Richard Williams ('Gwydderig
  • MORGAN, JOHN LLOYD (1861 - 1944), barnwr llys sirol
  • MORGAN, JOHN RHYS (Lleurwg; 1822 - 1900), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, darlithydd, bardd, a llenor y Beibl, 1860, sef trosiad o Joseph Angus, Bible Hand-Book, 1854; Deddfau Ty Dduw, 1863; Cofiant y Parch. R. D. Roberts, Llwynhendy, 1893; darlithiau, pregethau, a chaneuon, amryw ohonynt yn Seren Gomer o'r 50au ymlaen; ac erthyglau i John Jones ('Mathetes'), Geiriadur Beiblaidd, 1864-83. Priododd (1), c. 1846, Maria Jones, Llaneurwg, a fu farw yng Nghaerffili ar 11 Tachwedd 1847 yn 28 oed, mewn
  • MORGAN, MORGAN PARRY (1876 - 1964), gweinidog (MC) a phregethwr grymus gymanfaoedd pregethu ledled y wlad, a daeth M.P. Morgan, Blaenannerch yn enw teuluaidd drwy'r enwad. Yr oedd elfennau tanllyd yn ei bregethau ond gofalodd ddehongli ei destunau'n fanwl a bu'n athro i'w braidd mewn dosbarthiadau Beiblaidd ac mewn Cymdeithas Ddiwylliadol. Pregethu, serch hynny, oedd nwyd fawr ei fywyd. Traddododd Ddarlith Goffa'r Dr John Williams yn 1947. ' Pregethu ' oedd testun honno. Ef
  • MORGAN, RICHARD WILLIAMS (Môr Meirion; c. 1815 - c. 1889), clerigwr ac awdur Ganwyd yn Llancynfelin, Sir Aberteifi, c. 1815, yn nai i John Williams, archddiacon Aberteifi. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan. Bu'n gurad Mochdre, Sir Drefaldwyn, o 1842 i 1853 a churad parhaol Tregynon yn yr un sir o 1842 i 1862. Symudodd oddi yno i Loegr lle bu mewn amryw fywiolaethau. Yr oedd yn amlwg gyda'r eisteddfod a Gorsedd y Beirdd. Ysgrifennodd y llyfrau
  • MORGAN, ROBERT (1621 - 1710), gweinidog gyda'r Bedyddwyr . Ni wyddys dydd ei farw, ond fe'i claddwyd yn Llandeilo-Talybont ar 5 Ebrill 1710. Bu'n cadw ysgol yn ei gartref, a dywedir ei fod yn brydydd. Ganed iddo chwech o blant, gan gynnwys David; John, a fu farw ar gychwyn ei weinidogaeth yn Warwick, 12 Mai 1703, yn 24 oed; Hannah, gwraig Arthur Melchior, y ceir ei henw hi a'i gŵr ymhlith yr aelodau a ollyngwyd o Abertawe i Bennsylfania yn 1710; a Robert
  • MORGAN, THOMAS (1720 - 1799), gweinidog gyda'r Annibynwyr Ganwyd 7 Ionawr 1720 yn y Dyffryn Uchaf gerllaw'r Groeswen, Eglwysilan - yr oedd ganddo yn 1783 frawd, Morgan Thomas, yn byw yng Ngwerngerwn, Pontypridd. Argyhoeddwyd ef gan Howel Harris yn 1738 neu 1739; bu ganddo feddwl mawr o Harris byth wedyn, ac am rai blynyddoedd cyfeillachai â Methodistiaid ei fro, megis John Belcher a Thomas Williams o Eglwysilan. Ymaelododd (1739) yn eglwys Annibynnol
  • MORGAN, THOMAS JOHN (1907 - 1986), ysgolhaig a llenor Cymraeg
  • MORGAN, THOMAS REES (1834 - 1897), peiriannydd, gwneuthurwr peiriannau, a dyfeisydd Ganwyd 31 Mawrth 1834, ym Mhenydarren, Merthyr Tydfil. Bu'n gweithio mewn gweithydd haearn nes iddo, yn 10 oed, gael damwain a gollodd iddo ei goes chwith y tu isaf i'r pen-glin. Bu wedyn o dan addysg yn ysgolion John Thomas ('Ieuan Ddu'), Owen Evans, a Taliesin Williams ('Taliesin ab Iolo'); o dan yr olaf dysgodd fathemateg ac elfennau mecaneg. Bu wedyn yn gweithio yn y gweithydd haearn lleol
  • MORGAN, WILLIAM (1750 - 1833), actiwari a gwyddonydd ffydd Undodaidd. Cyfaddefa'n betrus fod ganddo 'rai amheuon' ond ni fanyla arnynt. Trwy Price, cafodd Morgan y cyfle i gwrdd â nifer o ddeallusion blaenllaw'r cyfnod, gan gynnwys Joseph Priestley, Benjamin Franklin, Thomas Paine, John Howard a John Horne Tooke, a rhannai lawer o'u syniadau radicalaidd. Cydymdeimlai â'r Americaniaid yn y Rhyfel Annibyniaeth a chymeradwyai egwyddorion y Chwyldro
  • MORGAN, WILLIAM (c.1545 - 1604), esgob a chyfieithydd Ganwyd yn y Ty Mawr, Wybrnant, ym mhlwyf Penmachno, tua 1545 (Venn, Alumni Cantabrigienses), yn fab John ap Morgan ap Llywelyn, tenant ar stad Gwydir, a'i wraig Lowri, merch William ap John ap Madog. Dywedir iddo dderbyn ei addysg fore gan hen fynach, ac aeth i Goleg S. Ioan, Caergrawnt, fel 'sub-sizar' (gwas ac efrydydd) yn 1565. Graddiodd yn B.A. yn 1568 ac yn M.A. yn 1571, a daeth yn
  • MORGAN, WILLIAM (1801 - 1872), gweinidog gyda'r Bedyddwyr athrofa'r Fenni. Galwyd ef i Gaergybi ddiwedd 1824, a'i ordeinio 18 Ebrill 1825, y Bedyddiwr cyntaf i'w urddo ym Môn; ei hafal ni fu yno ac eithrio Christmas Evans. Yr oedd, ebe Robert Jones, Llanllyfni, cyn alluoced â John Elias, ond nid oedd mor glir ag ef. Bu'n dadlau â gwŷr galluog yn Y Bedyddiwr. Cyfansoddodd farwnad a Cofiant i Robert Williams, Rhuthyn. Cyhoeddodd Cofiant a Gweithiau Christmas Evans