Canlyniadau chwilio

1825 - 1836 of 2563 for "john hughes"

1825 - 1836 of 2563 for "john hughes"

  • POWELL, HOWEL (bu farw 1716), gweinidog Annibynnol arbennig ar gyfer y weinidogaeth. Derbyniodd roddion o £5 yn flynyddol oddi wrth y Bwrdd yn 1697, 1699, 1702, 1703, a 1704. Dychwelodd i Frycheiniog yn 1700, ac urddwyd ef yn weinidog eglwys Beilihalog, a ddaeth yn ganolfan ysbrydol y cylchoedd. Yn 1709 cyhoeddodd Y Gwrandawr, cyfieithiad o lyfr Saesneg Dr. John Edwards, Rhydychen, Yn 1711 cyhoeddodd gyfieithiad o lyfr Eliseus Cole ar benarglwyddiaeth
  • POWELL, HOWELL (1819 - 1875), gweinidog y Methodistiaid Calfinaidd yn U.D.A., ac awdur arall. Cyhoeddodd, 1871, Llyfr Hymnau y Methodistiaid Calfinaidd (gyda John Edwards, 1806 - 1887), ac, yn 1873, Cofiant … William Rowlands, D.D., Utica, Efrog Newydd. Bu farw 23 Mawrth 1875. Cyhoeddwyd cofiant iddo yn New York, gwaith Thomas Levi.
  • POWELL, JOHN Cysylltir tri gŵr o'r enw hwn â hanes crefydd ym Mlaenau Gwent yn hanner cyntaf y 18fed ganrif, a chan fod tuedd i'w cymysgu, gwell fydd trin y tri gyda'i gilydd: (1) JOHN POWELL (1708 - 1795), clerigwr Methodistaidd Crefydd, brodor o Frycheiniog, a urddwyd yn offeiriad yn Henffordd, 20 Rhagfyr 1735, ar gais rheithor Llanwenarth. Bu'n gurad Aberystruth (Edmund Jones, Hist. of Aberystruth, 103
  • POWELL, RAYMOND (1928 - 2001), gwleidydd Llafur derbyn cynnig y Blaid Lafur oedd ymateb Ray Powell. Ond bu'r datgeliadau yn gyfrifol am greu llawer iawn o embaras i Ron Davies fel yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru a'r Blaid Lafur yng Nghymru ar yr adeg hon. (Fel mae'n digwydd, cytunodd Roy Hughes, yr AS Llafur dros Ddwyrain Casnewydd, ac aeth ef i Dŷ'r Arglwyddi.) Adeg ei farw Ray Powell oedd yr hynaf o blith yr Aelodau Seneddol Llafur o Gymru ac
  • POWELL, RICE (fl. 1641-65), cyrnol ym myddin y Senedd gyda John Poyer a Rowland Laugharne, a chymerodd ran gyda hwynt yn amddiffyniad castell Penfro ac yn yr ymgyrchoedd milwrol yn y sir ac o'r tu allan iddi. Apwyntiodd Laugharne ef yn llywiawdr castell Aberteifi pan feddiannwyd y lle hwnnw ar 29 Rhagfyr 1644 a llwyddodd Powell i'w amddiffyn y mis dilynol yn erbyn ymosodiad y Brenhinwyr o dan arweiniad Syr Charles Gerard. Yn Ebrill 1646 daeth yn
  • POWELL, RICHARD (1769 - 1795), bardd ac ysgolfeistr Ganwyd yn Llanegryn. Y mae'n debyg mai ef yw y Richard Powell, mab Hugh Powell, gwehydd, a Jemimah Parry, y croniclir ei fedydd yng nghofrestri'r plwyf. Yn 1793, yn eisteddfod Cymdeithas y Gwyneddigion a gynhaliwyd yn y Bala, ef, o 11 o gystadleuwyr, enillodd y fedal am ei 'Awdyl ar Dymhorau y Vlwyzyn.' Ceir ei 'Carol Plygain Ddydd Natolic' yn y gyfrol Difrifol Ystyriaeth a gyhoeddwyd gan John
  • POWELL, THOMAS (1608? - 1660), clerigwr o blwyf Cantref, sir Frycheiniog; mab John Powell, rheithor Cantref, 1601-26. Yn ôl Wood, fe'i ganed yn 1608, ond 18 oedd ar 25 Ionawr 1627/8, yn ôl Foster. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen (B.A. 1629, M.A. 1632, D.D. 1660). Cafodd fywoliaeth Cantref, 4 Mai 1635 - ei frawd hynaf, Hugh Powell, oedd y noddwr. Collodd y rheithoraeth yn 1650, o dan y Weriniaeth, a bu'n alltud am gyfnod. Yn 1651
  • POWELL, THOMAS (1779? - 1863), perchennog pyllau glo Ganwyd 6 Ionawr 1779 (meddai Bradney) yn Nhrefynwy, mab i John Powell. Dechreuodd ei yrfa fel masnachwr coed yng Nghasnewydd, ond wedyn ehangodd gylch ei ddiddordeb i gynnwys y fasnach lo. Prynodd yn gyntaf waith glo bychan rhwng Llanhiledd ac Aber-bîg. Yn 1829 suddodd ddwy siafft 112 llath o ddyfnder yng Ngelli-gaer yn costio £15,000, a darganfu wythïen lo yn agos i chwe troedfedd o drwch. Yn
  • POWELL, VAVASOR (1617 - 1670), diwinydd Piwritanaidd 1669 (Life, 188-9) fe'i carcharwyd yn y Fleet. Bu farw wedi salwch poenus 27 Hydref 1670, yn 53 oed (Life, 189-90), a chladdwyd ei weddillion yng nghladdfa Bunhill Fields. Ei wraig gyntaf oedd Joan Quarrel, gweddw Paul Quarrel, Llanandras; a'i ail wraig oedd Katherine, pumed ferch Gilbert Gerard, Crewood, Caer, a'i goroesodd (G. Ormerod, History of Chester, ii, 132), ac a ddaeth wedyn yn wraig i John
  • POWELL, WILLIAM EIFION (1934 - 2009), gweinidog (A.) a phrifathro coleg Ganwyd Eifion Powell 7 Tachwedd 1934, yn 34 Church Street, ym mhentref glofaol Cwmgors, Morgannwg. Bu Evan John (Jack), ei dad, gŵr tawel a diymhongar a glowr wrth ei waith, yn ysgrifennydd ariannol y Tabernacl, Eglwys yr Annibynwyr, Cwmgors. Ganed iddo ef ac Eleanor, ei briod, a oedd yn wraig hwyliog a ffraeth, ddau o feibion, Eifion a Huw. Yn ddiweddarach, symudodd y teulu i fyw ryw filltir i
  • POWELL, Syr JOHN (1633 - 1696), barnwr Mab John Powell, Pentre Meurig, Llanwrda, Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei addysg pan oedd yn llanc o dan Jeremy Taylor. Y mae'n debyg mai efe ydoedd y John Powell a ymaelododd yn Rhydychen (Coleg Iesu) yn 1650, ac a gymerth ei B.A. yn 1653 ac M.A. yn 1654. Aeth i Gray's Inn yn 1650. O 1683 hyd 1690 yr oedd yn gofiadur Aberhonddu ac o 1685 hyd 1686 yn is-farnwr cylchdaith Aberhonddu. Cafodd ei
  • POWYS, JOHN COWPER (1872 - 1963), nofelydd, bardd, beirniad llenyddol, ac athronydd poblogaidd , 'brenin holl Gymru'. Gellir olrhain achau'r tad dros chwe chanrif i Bowysiaid Trefaldwyn, ac mewn cyfnod diweddarach i'r Syr Thomas Powys cyntaf o Lilford (bu farw 1719). O du ei fam, Mary Cowper-Johnson, cafodd John Cowper Powys waed mwy llenyddol y beirdd John Donne a William Cowper. Addysgwyd ef yn Ysgol Sherborne a Choleg Corff Crist, Caergrawnt. Yn 1894 drifftiodd i swydd darlithydd i nifer o