Canlyniadau chwilio

1837 - 1848 of 2571 for "john hughes"

1837 - 1848 of 2571 for "john hughes"

  • POWELL, RICHARD (1769 - 1795), bardd ac ysgolfeistr Ganwyd yn Llanegryn. Y mae'n debyg mai ef yw y Richard Powell, mab Hugh Powell, gwehydd, a Jemimah Parry, y croniclir ei fedydd yng nghofrestri'r plwyf. Yn 1793, yn eisteddfod Cymdeithas y Gwyneddigion a gynhaliwyd yn y Bala, ef, o 11 o gystadleuwyr, enillodd y fedal am ei 'Awdyl ar Dymhorau y Vlwyzyn.' Ceir ei 'Carol Plygain Ddydd Natolic' yn y gyfrol Difrifol Ystyriaeth a gyhoeddwyd gan John
  • POWELL, THOMAS (1608? - 1660), clerigwr o blwyf Cantref, sir Frycheiniog; mab John Powell, rheithor Cantref, 1601-26. Yn ôl Wood, fe'i ganed yn 1608, ond 18 oedd ar 25 Ionawr 1627/8, yn ôl Foster. Aeth i Goleg Iesu, Rhydychen (B.A. 1629, M.A. 1632, D.D. 1660). Cafodd fywoliaeth Cantref, 4 Mai 1635 - ei frawd hynaf, Hugh Powell, oedd y noddwr. Collodd y rheithoraeth yn 1650, o dan y Weriniaeth, a bu'n alltud am gyfnod. Yn 1651
  • POWELL, THOMAS (1779? - 1863), perchennog pyllau glo Ganwyd 6 Ionawr 1779 (meddai Bradney) yn Nhrefynwy, mab i John Powell. Dechreuodd ei yrfa fel masnachwr coed yng Nghasnewydd, ond wedyn ehangodd gylch ei ddiddordeb i gynnwys y fasnach lo. Prynodd yn gyntaf waith glo bychan rhwng Llanhiledd ac Aber-bîg. Yn 1829 suddodd ddwy siafft 112 llath o ddyfnder yng Ngelli-gaer yn costio £15,000, a darganfu wythïen lo yn agos i chwe troedfedd o drwch. Yn
  • POWELL, VAVASOR (1617 - 1670), diwinydd Piwritanaidd 1669 (Life, 188-9) fe'i carcharwyd yn y Fleet. Bu farw wedi salwch poenus 27 Hydref 1670, yn 53 oed (Life, 189-90), a chladdwyd ei weddillion yng nghladdfa Bunhill Fields. Ei wraig gyntaf oedd Joan Quarrel, gweddw Paul Quarrel, Llanandras; a'i ail wraig oedd Katherine, pumed ferch Gilbert Gerard, Crewood, Caer, a'i goroesodd (G. Ormerod, History of Chester, ii, 132), ac a ddaeth wedyn yn wraig i John
  • POWELL, WILLIAM EIFION (1934 - 2009), gweinidog (A.) a phrifathro coleg Ganwyd Eifion Powell 7 Tachwedd 1934, yn 34 Church Street, ym mhentref glofaol Cwmgors, Morgannwg. Bu Evan John (Jack), ei dad, gŵr tawel a diymhongar a glowr wrth ei waith, yn ysgrifennydd ariannol y Tabernacl, Eglwys yr Annibynwyr, Cwmgors. Ganed iddo ef ac Eleanor, ei briod, a oedd yn wraig hwyliog a ffraeth, ddau o feibion, Eifion a Huw. Yn ddiweddarach, symudodd y teulu i fyw ryw filltir i
  • POWELL, Syr JOHN (1633 - 1696), barnwr Mab John Powell, Pentre Meurig, Llanwrda, Sir Gaerfyrddin. Cafodd ei addysg pan oedd yn llanc o dan Jeremy Taylor. Y mae'n debyg mai efe ydoedd y John Powell a ymaelododd yn Rhydychen (Coleg Iesu) yn 1650, ac a gymerth ei B.A. yn 1653 ac M.A. yn 1654. Aeth i Gray's Inn yn 1650. O 1683 hyd 1690 yr oedd yn gofiadur Aberhonddu ac o 1685 hyd 1686 yn is-farnwr cylchdaith Aberhonddu. Cafodd ei
  • POWYS, JOHN COWPER (1872 - 1963), nofelydd, bardd, beirniad llenyddol, ac athronydd poblogaidd , 'brenin holl Gymru'. Gellir olrhain achau'r tad dros chwe chanrif i Bowysiaid Trefaldwyn, ac mewn cyfnod diweddarach i'r Syr Thomas Powys cyntaf o Lilford (bu farw 1719). O du ei fam, Mary Cowper-Johnson, cafodd John Cowper Powys waed mwy llenyddol y beirdd John Donne a William Cowper. Addysgwyd ef yn Ysgol Sherborne a Choleg Corff Crist, Caergrawnt. Yn 1894 drifftiodd i swydd darlithydd i nifer o
  • POYER, JOHN (bu farw 1649), maer tref Penfro a marsiandwr blaenllaw yn y dref honno
  • PRICAEUS, JOHN - gweler PRICE, JOHN
  • teulu PRICE Rhiwlas, a berthynai ychydig cyn hynny i abaty Ystrad Marchell, gerllaw y Trallwng; fe'i disgrifir ef yn dal tiroedd yng nghwmwd Penllyn yn nheyrnasiad Philip a Mari. Anfonodd Gruffudd Hiraethog gywydd ato (c. 1530) i ofyn am fyharen dros Meistres Mostyn. Bu farw Cadwaladr ap Robert yn 1554 - mydryddir y flwyddyn mewn cywydd marwnad yn NLW MS 436B, t. 39. JOHN WYNN AP CADWALADR AP ROBERT AP RHYS, Aelod
  • PRICE THOMAS, CLEMENT (1893 - 1973), llawfeddyg arloesol 32nd Field Ambulance y RAMC yn Gallipoli, Macedonia a Phalestina cyn ailafael yn ei astudiaethau yng Nghaerydd yn 1917, wedi penderfynu mynd yn feddyg erbyn hyn. Yn 1919, ar ôl ennill Gwobr Goffa Alfred Hughes mewn anatomeg (medal uchel ei bri a ddyluniwyd gan y cerfluniwr enwog William Goscombe John), aeth ymlaen i Ysgol Feddygol Ysbyty Westminster ar gyfer hyfforddiant clinigol, gan ymgymhwyso yn
  • PRICE, BENJAMIN (1804 - 1896), esgob cyntaf y 'Free Church of England' Ganwyd yn 1804 yn Llanfair-ym-Muellt, yn fab i Isaac Price, siopwr, a blaenor o gryn safle gyda'r Methodistiaid Calfinaidd. Yr oedd y tad yn nai i David Price, ficer Llanbadarn Fawr yn 1770, ac felly'n gefnder i'r orientalydd David Price, a'r fam, meddir, o deulu John Penry - gellir o leiaf dystio bod Penriaid yn byw ym mhlwyf Merthyr Cynog, y plwyf y mae pob arwydd i Isaac Price hanfod ohono