Canlyniadau chwilio

1861 - 1872 of 2571 for "john hughes"

1861 - 1872 of 2571 for "john hughes"

  • PRICE, Syr JOHN (1502? - 1555), notari, prif gofrestrydd y brenin mewn achosion eglwysig, ac ysgrifennydd cyngor Cymru a'r gororau Ychydig a wyddys am ei flynyddoedd cynnar. Mab ydoedd i Rys ap Gwilym ap Llywelyn ap Rhys Llwyd ab Adam, o Frycheiniog, a Gwenllian, ei wraig, merch Hywel Madog. Yr oedd felly o'r un gwehelyth â'r bardd Hywel ap Dafydd ap Ieuan ap Rhys [Llwyd], ac yng nghanol prysurdeb ei fywyd cymharol fyr, cadwodd yntau'n agos at y traddodiad barddol Cymreig. Y mae'n bur sicr mai ef oedd y John Pryse a gafodd
  • PRICE, RICHARD (1723 - 1791), athronydd Ganwyd 23 Chwefror 1723 yn Tyn-ton, Llangeinor, Sir Forgannwg, mab Rees Price a'i wraig Catherine. Cafodd ei addysg yn Pentwyn (Samuel Jones), Chancefield (Vavasor Griffiths), a Moorfields (John Eames), a bu'n weinidog yn Newington a Hackney; yr oedd yn Bresbyteriad ac Ariad. Pan nad oedd ond 35 mlwydd oed cyhoeddodd Review of the Principal Questions in Morals, 1758, gan ragflaenu felly syniadau
  • PRICE, THEODORE (1570? - 1631), prebendari yn abaty Westminster, prifathro Hart Hall, Rhydychen ) - yn 1621 gwnaethpwyd ef yn brebendari Leighton Buzzard yn eglwys gadeiriol Lincoln, ac, yn 1623, yn brebendari yn abaty Westminster. Yr oedd ei gâr, y deon John Williams (yr archesgob John Williams wedyn), yn noddwr iddo; gwnaeth Williams ef yn is-ddeon Westminster. Mynnai Williams (a Laud hefyd) ei weld yn esgob (gweler D.N.B., nodiad yr esgob Humphrey yn arg. Bliss o Athenae Oxonienses Anthony
  • PRICE, THOMAS (Carnhuanawc; 1787 - 1848), clerigwr a hanesydd chyflawni cyn gynhared â 1819. Adolygodd gyfieithiad Le Gonidec dros y gymdeithas ac yn 1829 aeth â geiriadur Lladin a Chymraeg Dr. John Davies bob cam i Ffrainc i fod yn gynhorthwy i'r cyfieithydd wrth drosi'r Hen Destament. Ar ei daith bu'n chwilio'n ofer am hen lawysgrifau Cymraeg neu Lydaweg yn llyfrgelloedd Llydaw a Pharis. Mor gynnar â hyn yr oedd yn awgrymu sefydlu cymdeithas lenyddol i
  • PRICE, THOMAS (1820 - 1888), gweinidog gyda'r Bedyddwyr Ganwyd 17 Ebrill, yn fab i John a Mary Price, Maesycwper, Ysgethrog, plwyf Llanhamlach, sir Frycheiniog. Dechreuodd weithio yn ieuanc iawn, ar y cyntaf ar fferm ac wedyn fel gwas bach teuluol i deulu Clifton, Tŷ Mawr, Llanfrynach; y merched Clifton a ddysgodd Saesneg iddo. Gydag arian a gynilodd o'i enillion fe'i prentisiodd ei hun i Thomas Watkins, Struet, Aberhonddu, paentiwr, gwydrwr, etc
  • PRICE, THOMAS (1852 - 1909), gwleidydd Awstralaidd Ganwyd yn y Brymbo, sir Ddinbych, 19 Ionawr 1852, yn fab i John a Jane Price. Aeth yn blentyn i Lerpwl, lle y bu am flynyddoedd yn saer maen, ac yn selog gyda'r mudiad llwyrymwrthodol. Priododd (1881) ag Anne Elizabeth, ferch Edward Lloyd, masnachwr coed - cawsant saith o blant. Torrodd ei iechyd yn 1883, ac ymfudodd i Adelaide, De Awstralia, lle y daeth yn 1891 yn ysgrifennydd undeb ei grefft
  • PRICE, THOMAS GWALLTER (Cuhelyn; 1829 - 1869), newyddiadurwr a bardd Ganwyd 23 Rhagfyr 1829 yn sir Forgannwg. Wedi iddo ymfudo i U.D.A. bu am gyfnod yn Minersville, Pa. Bu hefyd yng Nghalifornia adeg ' chwilen yr aur '; yno bu'n dysgu elfennau barddoniaeth i Taliesin Evans ('Tal o Eifion') ac yn anfon rhai o gynhyrchion ei ddisgybl i John Jones ('Talhaiarn') yng Nghymru. Daeth yn ôl i Gymru yn 1855 eithr dychwelodd i'r America ac yn ystod 1856 bu ef a L. W. Lewis
  • PRICHARD, CARADOG (1904 - 1980), nofelydd a bardd Ganwyd Caradog Prichard ar 3 Tachwedd 1904 ym Methesda, yr ieuengaf o dri mab i John Pritchard a Margaret Jane (ganwyd Williams), ei wraig. (Dywed Caradog mai ei 'chwiw' ef ei hun oedd sillafu ei enw yn 'Prichard'.) Chwarelwr yn Chwarel y Penrhyn oedd ei dad; buasai allan ar streic ar ddechrau anghydfod hir a chwerw 1900-3, er iddo efallai dorri'r streic yn ddiweddarach. Dim ond pum mis oed oedd
  • PRICHARD, JOHN (1796 - 1875), gweinidog ac athro gyda'r Bedyddwyr Ganwyd 25 Mawrth 1796 yn fab i John a Jane Prichard, Tanygraig, Llaneilian, Amlwch. Symudodd y teulu i Landudno a gweithiai yntau yn y mwynglawdd yno nes casglu digon o arian i fyned i ysgol Toxteth Park, Lerpwl. Dychwelodd i Landudno a bu yn cadw ysgol yno am gyfnod. Ymaelododd gyda'r Bedyddwyr yn 1816 a dechreuodd bregethu yn 1819 gan fyned i athrofa'r Fenni yn 1821. Ordeiniwyd ef yn Llangollen
  • PRICHARD, JOHN (1821 - 1889), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, a hanesydd Methodistiaeth Môn yn 1884. Disgrifir ef fel ' pregethwr poblogaidd anghyffredin' ym mhob rhan o Gymru. Sgrifennai lawer i'r cyfnodolion; ond yr unig waith o bwys a adawodd yw Methodistiaeth Môn, 1888. Yr oedd yn llywydd cymdeithasfa'r Gogledd ar adeg ei farwolaeth, 18 Hydref 1889. Y mae cofiant iddo gan John Williams, 1898.
  • PRICHARD, JOHN (1817 - 1886), pensaer
  • PRICHARD, JOHN WILLIAM (1749 - 1829), llenor