Canlyniadau chwilio

181 - 192 of 2563 for "john hughes"

181 - 192 of 2563 for "john hughes"

  • DAFYDD ap DAFYDD LLWYD (1549), bardd ac aelod o deulu bonheddig O Ddolobran, ger Meifod, Sir Drefaldwyn; mab Dafydd Llwyd ab Ieuan a'i wraig Efa; gŵr Ales, ferch Dafydd Llwyd o Lanarmon Mynydd Mawr; hendaid Charles, John, a Thomas, Crynwyr; a chyndad i'r arianwyr Lloyd. Ceir nifer o'i gerddi (yn y mesurau caeth) yn y llawysgrifau. Yn eu plith ceir rhai i Gilbert Humphrey o'r Cefn Digoll, Sir Drefaldwyn (1596), Hywel a Sion Fychan o [Lanfair] Caereinion (1599
  • DAFYDD ap LLYWELYN (bu farw 1246), tywysog Unig fab Llywelyn ap Iorwerth o'i wraig Joan, merch y brenin John. Cyfrifid ef o'i eni (tua 1208) yn aer i'r dywysogaeth gadarn yr oedd ei dad yn ei sefydlu. Mor fore â 1220 rhoes y brenin arwydd ei fod yn ei dderbyn fel yr aer, a chymerth y tywysog ieuanc a'i fam o dan nawdd y Goron. Yn 1222 cafwyd cymorth Honorius III hefyd; bedair blynedd yn ddiweddarach gorchmynnodd y pab i esgobion Bangor
  • DAFYDD AP MAREDUDD GLAIS, llofrudd, swyddog dinesig, ysgrifydd a chyfieithydd Roedd Dafydd ap Maredudd Glais yn aelod o un o deuluoedd blaenllaw Aberystwyth yn y bymthegfed ganrif. Gweithredodd fel twrnai dros ei dad yn 1432-3 a chafodd ei garcharu yng nghastell Aberteifi am ôl-ddyledion. Ymddengys iddo fod yn saethydd, fel ei dad, ac yn 1438 cafodd lythyr gwarchodaeth i fynd dramor yng ngosgordd Edmund Beaufort. Yn 1439 bu'n warantwr, gyda John Roubury a Gruffydd Prôth
  • DAFYDD ap MAREDUDD GLAIS (fl. 1429-68), clerigwr, llofrudd, swyddog dinesig, a chyfieithydd Brut y Saeson i Gymraeg Mab ydoedd i Faredudd Glais, gŵr a lanwodd nifer o swyddi dinesig yn Aberystwyth a Llanbadarn rhwng 1411 a 1458. Ni wyddys pa bryd y ganwyd Dafydd, a'r cofnod cyntaf amdano yw ei fod ef a John Robury a Gruffudd Prôth neu Prŵth yn wystlon dros Thomas Kirkham, abad Vale Royal, am ddirwy yn 1429. Disgrifir y tri fel clerigwyr, a diamau y perthynent i eglwys Llanbadarn, a oedd o dan adain Vale Royal
  • DAFYDD ap SIANCYN (SIENCYN) ap DAFYDD ap y CRACH (fl. tua chanol y 15ed ganrif), cefnogwr plaid y Lancastriaid, a bardd Disgynnai, ar ochr ei dad, o Marchudd (Peniarth MS 127; Powys Fadog, vi, 221), ac, ar ochr ei fam, o'r tywysog Llywelyn ap Iorwerth (Peniarth MS 127 (105), Peniarth MS 129 (128,130); Dwnn, ii, 102, 132). Margred, merch Rhys Gethin, un o gefnogwyr Owain Glyn Dwr (gweler Lloyd, Owen Glendower, 66), oedd ei fam. Adroddir hanes ei gampau yn ystod Rhyfeloedd y Rhosynnau gan Syr John Wynn yn ei The
  • DAFYDD BENWYN (fl. ail hanner yr 16eg ganrif), un o feirdd Morgannwg Morgannwg a Risiart Iorwerth. Er hynny, y maent yn bwysig am ddau reswm. Yn gyntaf, cynhwysant achau llawer iawn o deuluoedd Gwent a Morgannwg. Ac yn ail, y maent y rhoddi inni ffurfiau Cymraeg enwau lleoedd yn y parthau hynny. Cyhoeddwyd detholiad bychan ohonynt gan John Kyrle Fletcher yn 1909, The Gwentian Poems of Dafydd Benwyn. Cyhoeddwyd cywyddau eraill gan 'Cadrawd' yn Cyfaill yr Aelwyd.
  • DAFYDD DDU ATHRO o HIRADDUG (fl. cyn 1400), gŵr y cysylltir ei enw â'r gramadeg neu'r 'llyfr cerddwriaeth' cyntaf sydd gennym Hynny yw, llyfr sy'n trafod celfyddyd cerdd dafod, ac a gynnwys hefyd dalfyriad Cymraeg o'r gramadeg Lladin a ddefnyddid yn ysgolion yr Oesoedd Canol. Ni wyddom odid ddim amdano, ond gan fod Moel Hiraddug yn enw ar fryn yn ymyl Rhuddlan, efallai fod Syr Thomas Williams yn iawn pan ddywed, yn NLW MS 3029B, mai gŵr 'o Degeingyl' ydoedd. Myn y Dr. John Davies o Fallwyd yn Peniarth MS 49 ei fod yn
  • DAFYDD FYNGLWYD (fl. c. 1500-50), bardd Mab i fardd, a brodor, y mae'n debyg, o Ddeheubarth Cymru. Ni wyddys dim am ei fywyd, ond cedwir peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau. Yn ei phlith ceir englynion moliant i blas Gruffudd Dwn o Ystrad Merthyr (Llanstephan MS 40 (60)), cywydd i Syr Harri ap Syr Thomas Johns o Abermarlais (Llanstephan MS 30 (444)), a chywydd i Syr John Perrot o Sir Benfro (Llanstephan MS 30 (447)).
  • DAFYDD NANMOR (fl. 15fed ganrif), bardd yr amlha'r defnydd. Efallai y dylid diweddaru ychydig ar y ffigurau, a chynnig 1420 hyd 1485 neu 1490. Heblaw mawl gorchestol i haelioni Rhys o'r Tywyn, mewn cywydd ac awdl, a hefyd i'w feibion, bu Dafydd yn glodforwr ffyddlon ar Edmwnt a Siasbar Tudur, a chanodd gywydd i Harri Tudur, ac awdl hefyd, pan nad oedd ond plentyn. Am ystyr ei awdl 'enghreifftiol' gweler Cerdd Dafod Syr John Morris-Jones
  • DAFYDD TREFOR Syr (bu farw 1528?), offeiriad a bardd Ganwyd ym mhlwyf Llanddeiniolen, Sir Gaernarfon, medd John Jones ('Myrddin Fardd') yn Cwrtmawr MS 561C; yn ei 'Cywydd i ofyn Geifr' sonia am ei 'ewythr,' Morgan ap Hywel, Llanddeiniolen. Ceir crynodeb, gan Irene George (Lloyd-Williams), yn Transactions of the Anglesey Antiquarian Society, 1934, o'r hyn a gasglesid ganddi hyd y flwyddyn honno am hanes y bardd. Mewn rhestr o glerigwyr esgobaeth
  • DAFYDD, JOHN (fl. 1747), emynwyr Meibion David John (1698 - 1775) a Margared Richard, ei briod (1692 - 1774); ganwyd John Dafydd yn 1727 ac yr oedd yn fyw yn 1771. Dywedir mai cryddion oeddynt a thrigent yn y Bedw-gleision, Caeo, Sir Gaerfyrddin; cyfarfyddai seiat Fethodistaidd Caeo yn eu cartref. Enwir John yng nghofnodion Trefeca; yr oedd yn gynghorwr ym mlynyddoedd cyntaf y diwygiad Methodistaidd. Disgynnydd o Richard, eu
  • DAFYDD, RICHARD WILLIAM (fl. 1740-52), cynghorwr Methodistaidd Brodor o Landyfaelog, Sir Gaerfyrddin, a brawd i David Williams, Llyswyrny. Dywedir iddo bregethu ym Môn yn 1740 a chael triniaeth arw yno. Gwyddys yn sicr ei fod yn cynghori yn 1742, a phenodwyd ef yn sasiwn Llanddeusant, 1743, i arolygu seiadau yn Sir Gaerfyrddin. Cymerth ran yng ngwrthryfel John Richard Llansamlet, yn erbyn trefniadau'r sasiwn yn 1743, ac ysgrifennwyd ato i'w ddarbwyllo gan